Lluniau: Nadolig yn Amgueddfa Lechi Llanberis
- Cyhoeddwyd
Ar 3 Rhagfyr daeth ymwelwyr i Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ar gyfer Hwyl Bach yr Ŵyl.
Roedd hwn yn achlysur i groesawu tymor y gaeaf a chyfnod y Nadolig, gyda Siôn a Siân Corn yn cyrraedd ar drên stêm i gyfeiliant Seindorf Arian Deiniolen.
Roedd 'na weithdai Nadoligaidd traddodiadol - creu Pomanders oren a chreu torchau gan ddefnyddio technegau creu matiau rhacs.
Ac roedd 'na ddigon o ganu hefyd, gyda'r gynulleidfa'n canu carolau gyda Chôr y Penrhyn yn y Ffowndri, ac amser stori yn un o dai'r chwarelwyr yn Fron Haul gyda Siân Corn.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd.

Seindorf Arian Deiniolen

Siân Corn a'r corachod

Teuluoedd yn mwynhau gweld Siôn a Siân Corn yn cyrraedd ar drên stêm

Paratoi bwyd i'r ceirw

Roedd pum dangosiad o Deian a Loli a Chloch y Nadolig yn sinema Dwyn y Mynydd

Gweithdy creu Pomanders yn Nhŷ'r Prif Beiriannydd

Cerdyn Nadolig anferth wedi ei ddylunio gan Iona Edwards-Jones a cherdd am fröydd y llechi gan Grug Muse. Roedd cerdyn (llai!) i bawb fynd adref gyda nhw

Rhai o'r corachod direidus yn crwydro'r safle

Amser stori gyda Siân Corn yn Fron Haul

Côr y Penrhyn yn canu carolau yn y Ffowndri

Seindorf Arian Deiniolen yn perfformio yn y Ffowndri

Elfyn a Cadi, dau o staff yr Amgueddfa, yn cael saib i fynd â Nel i weld Siôn Corn
Hefyd o ddiddordeb: