Llyfr - anrheg Nadolig i'w hagor dro ar ôl tro

  • Cyhoeddwyd
Pentwr o lyfrauFfynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae llyfr yn anrheg Nadolig sydd bob amser yn plesio. Ond lle mae dechrau dewis pa un i'w brynu, gyda gymaint o opsiynau?

Mari Siôn, o Gyngor Llyfrau Cymru, a chyflwynydd y podlediad Caru Darllen sydd wedi rhoi rhestr o argymhellion at ei gilydd i'ch helpu i ddod o hyd i'r llyfr perffaith, beth bynnag yw oed neu ddiddordeb y derbynnydd lwcus.

Plant dan saith

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Fe fydd plant bach wrth eu boddau'n bodio Chwilia am Smot adeg Nadolig (Dref Wen) gan Eric Hill, wrth i'r ci bach a'i deulu drefnu parti i ddathlu'r ŵyl.

I blant fymryn yn hŷn, beth am gyfrol hardd â chlawr caled, Yr Ardd Anweledig (Llyfrau Broga)? Addasiad gan Luned Aaron o waith Valérie Picard a Marianne Ferrer o Qubec, sydd wedi ennill sawl gwobr ryngwladol.

Neu beth am y gyfrol hyfryd, Gardd Gwenno (Graffeg)? Addasiad gan Anwen Pierce o gyfrol deimladwy Isla McGuckin a Catalina Echeverri am bwysigrwydd gobaith, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf.

Plant dan 11

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae Nadolig y Gath yn Sain Ffagan (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd yn adrodd hanes Sibrwd, cath y felin, sy'n treulio ei Nadolig cyntaf yn yr amgueddfa, gyda darluniau cain gan Elin Manon.

Jac a'r Angel (Y Lolfa) yw nofel gyntaf y dramodydd, Daf James. Dyma stori Nadoligaidd am fachgen diniwed sy'n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar.

Nofel annwyl, llawn antur, yw Astronot yn yr Atig (Y Lolfa) gan Megan Angharad Hunter. Mae'n adrodd stori Rosie Alaw sy'n 11 oed ac sydd ddim eisiau mynd i'r Ysgol Fawr. Mae'n dod ar draws llong ofod ar y ffordd adref o'r ysgol.

Arddegau

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Chwilio am stori hanesyddol gyffrous? Rhowch gynnig ar Wyneb yn Wyneb (Atebol) gan Sioned Wyn Roberts, sy'n dilyn taith Twm - lleidr wrth ei waith - o Ben Llŷn i ddociau Lerpwl.

Mae 'na hen edrych ymlaen at gyhoeddi Curiad Coll (Rily) fis Rhagfyr. Dyma addasiad Alun Saunders o'r nofel graffeg boblogaidd a droswyd yn gyfres deledu Netflix yn ddiweddar, Heartstopper.

Dilyniant yw Mwy o Helynt (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rebecca Roberts i #helynt - nofel a enillodd wobr Tir na n-Og a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Dyma gyfle i ailymweld â bywyd Rachel Calvi sydd bellach yn y Chweched Dosbarth.

Ffuglen

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Nofel hanesyddol yw Gladiatrix (Y Lolfa) gan Bethan Gwanas. Mae Rhiannon a'i chwaer, Heledd, yn cael eu cludo o Fôn i Rufain ac yn cael eu hyfforddi i fod yn ddwy Gladiator. Derwyddon, Rhufeiniaid, cymeriadau benywaidd cryf... Beth mwy sydd eisiau?

Yn Dros Fy Mhen a 'Nghlustiau (Y Lolfa) gan Marlyn Samuel cawn garwriaeth, marwolaeth a thwyll. Ond peidiwch â chael eich dychryn, mae 'na ddigon o hiwmor hefyd. Anrheg berffaith i unrhyw un sy'n hoffi stori dda.

Mae Sut i Ddofi Corryn (Atebol) gan Mari George yn nofel gyfareddol am gariad, am salwch ac am ofn. Dyma nofel ddychmygus sy'n mynd â ni o Bort Talbot i Gwatemala ac a fydd yn siŵr o'ch swyno.

Trosedd / Dirgelwch

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Mae Daf Dafis yn ei ôl! Yn Coblyn o Sioe (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myfanwy Alexander mae'n rhaid i hoff dditectif Cymru ymchwilio wedi i fys gael ei ddarganfod mewn pecyn o selsig ar Faes y Sioe Amaethyddol.

Dan y Dŵr (Gwasg Carreg Gwalch) yw deuddegfed nofel yr awdur poblogaidd a'r cyn-heddwas, John Alwyn Griffiths. Pan gaiff y Ditectif Jeff Evans ei alw i ymchwilio i ymosodiad ar hen gyfaill, mae'n darganfod bod rhywun yn gwenwyno'r afon leol. Potsiwrs? Neu a oes rhywbeth mwy sinistr ar droed?

Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, wedi dysgu Cymraeg ac wedi ysgrifennu ei nofel gyntaf. Mae Llygad Dieithryn (Gwasg Carreg Gwalch) yn adrodd stori Katja, athrawes ifanc o'r Almaen, sy'n dod i ddysgu mwy am fywyd... a chyfrinachau ei theulu.

Gwyddonias / Ffantasi

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Nofel wedi ei lleoli mewn dyfodol dychmygol, ond nid mor annhebygol, yw Y Nendyrau (Gwasg y Bwthyn) gan Seran Dolma. Nofel ddyfeisgar sy'n trafod newid hinsawdd. Nofel a fydd yn eich hudo, ond hefyd yn gyrru ias i lawr eich asgwrn cefn.

Mae Anfadwaith (Y Lolfa) gan Llŷr Titus yn nofel ffantasi dywyll, sy'n plethu trosedd a byd llawn dychymyg. Dilynwn Ithel wrth iddo geisio mynd at wraidd dirgelwch sy'n bygwth chwalu'r deyrnas.

Nofel gyfoes sy'n ein dwyn i ganol bywyd goruwchnaturiol cwfen o wrachod ym Mangor yw Y Cylch (Gwasg y Bwthyn) gan Gareth Evans-Jones. Down i ddysgu nad ydi bywyd gwrach gyfoes yn un hawdd! Ffantasi, hiwmor a sawl tro yn y gynffon.

Hanesyddol

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

I nodi pen-blwydd Amgueddfa Werin Sain Ffagan, bu'r ffotograffydd Richard Outram yn cydweithio ag ugain o feirdd er mwyn dal naws a hanes rhai o adeiladau'r amgueddfa mewn llun a gair. Mae Sain Ffagan 75 (Gwasg Carreg Gwalch), gol. Ifor ap Glyn, yn gyfrol â chlawr caled ac yn fendigedig.

Mae Yr Apêl / The Appeal (Y Lolfa) yn gyfrol wedi ei golygu gan Mererid Hopwood a Jenny Mathers yn adrodd hanes hynod deiseb heddwch menywod Cymru 1923-24; deiseb a ddaeth 'nôl i'r Llyfrgell Genedlaethol eleni, ac sydd yn y broses o gael ei throsi i ffurf digidol.

Trafod cyfraniad menywod fel ymgyrchwyr dros Gymdeithas yr Iaith mae'r llyfr Merched Peryglus (Gwasg Honno), wedi ei olygu gan Angharad Tomos a Tamsin Davies. Dyma'r casgliad cyntaf o hanesion ac atgofion menywod o weithredu gyda'r mudiad ers ei sefydlu 'nôl yn 1962.

Bywgraffiad

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Brexit oedd yr ysgogiad i Malachy Edwards ysgrifennu ei gyfrol, Y Delyn Aur (Gwasg y Bwthyn). Mae'n ysgrifennu'n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni a marw, ceisio am ddinasyddiaeth Wyddelig a'i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg.

Mae anthemau fel Dwi'n Amau Dim ac Un Funud Fach gan Barri (Archie) Jones yn gyfarwydd i bawb. Yn Rhwng Bethlehem a'r Groes (Gwasg Carreg Gwalch) mae'r cerddor a'r cynhyrchydd teledu yn rhannu ei atgofion a'r straeon sydd y tu ôl i ambell gân.

Pwy ydi'r Marged Elsi go iawn? Tra'n bod ni'n adnabod Marged, yr actores a'r gyflwynwraig, mae Marged yn sicr o'r farn mai rhywun arall ydi hi. Mae Ro'n i'n arfer bod yn rhywun (Gwasg y Bwthyn) yn hunangofiant dadlennol a fydd yn dal eich diddordeb o'r dudalen gyntaf.

Barddoniaeth

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Curiadau (Barddas) wedi ei golygu gan Gareth Evans-Jones yw'r flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg. Dyma gasgliad sy'n rhannu cyfoeth o brofiadau a straeon gan ysgrifenwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Dathliad dau ffrind o'u cynefin yn Llŷn yw Mae Bywyd Yma (Gwasg Carreg Gwalch). Y bardd, Guto Dafydd, a'r ffotograffydd, Dafydd Nant sy'n ein tywys drwy harddwch y fro gan ddathlu ei threftadaeth yn ei holl amrywiaeth.

Yn Pigion y Talwrn (Barddas), gol. Ceri Wyn Jones, cawn flas unwaith eto ar gynnyrch y gyfres radio boblogaidd. Dyma gerddi'r chwerthin iach a'r teimlo i'r byw, y cyfrinachau a'r geiriau cyhoeddus; cerddi sydd hefyd yn ddrych o gyfnod eithriadol yn ein hanes.

Cyfrolau anrheg

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru

Casgliad o ryseitiau Nadolig a gawn ni yn Casa Dolig (Gwasg y Bwthyn) gan Rhian Cadwaladr, gyda lluniau a fydd yn tynnu dŵr i'r dannedd gan Kristina Banholzer. Mae yma ryseitiau traddodiadol, anrhegion bwytadwy a syniadau gwych ar gyfer eich sbarion.

Dathlu'r lleol, y tymhorol a'r cynaliadwy mae'r arbenigwr bwyd, Nerys Howell, yn Cywain (Y Lolfa). Mae'r gyfrol ddwyieithog yn llawn ryseitiau traddodiadol a chyfoes gyda lluniau lliw bendigedig gan y ffotograffydd, Phil Boorman.

Cyfrol glawr caled, hardd yw Enaid y Ddinas (Gwasg Carreg Gwalch). Ceir yma gerddi, ysgrifau a ffotograffau am Gaerdydd gan awduron fel Huw Llywelyn Davies, Beti George ac Ali Yassine; awduron lle mae'r brifddinas wedi chwarae rhan bwysig yn eu bywydau.

Mae'r cyfrolau hyn a chymaint mwy, ar gael nawr o'ch siop lyfrau leol, dolen allanol.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig