Dr Kim Harrison: Mab a laddodd ei dad yn rhoi teyrnged iddo
- Cyhoeddwyd
Mae mab a laddodd ei dad mewn ymosodiad yng nghartref y teulu wedi rhoi teyrnged iddo yn y cwest i'w farwolaeth.
Bu farw Dr Kim Harrison, 68, yn dilyn ymosodiad gan ei fab, Daniel, ar ôl iddo ddianc o uned iechyd meddwl fis Mawrth y llynedd.
Fe wnaeth Daniel Harrison ymosod ar ei dad gan ei ddyrnu, ei gicio a'i sathru ar 12 Mawrth y llynedd yng Nghlydach, Abertawe.
Cyfaddefodd ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll ac fe gafodd ei gadw am amser amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn Llys y Goron Abertawe.
Yn y cwest yn Abertawe ddydd Llun fe ymddangosodd Daniel Harrison drwy gyswllt fideo a darllenodd ddwy gerdd yr oedd wedi eu hysgrifennu er cof am ei dad.
Enw un o'r cerddi oedd 'Wish you were here' a dywedodd ei fod wedi ei hysgrifennu ar gyfer Sul y Tadau.
Dywedodd: "Dwi'n dymuno eich bod yma ar y diwrnod arbennig hwn er mwyn i mi roi cwtsh i chi. Dwi'n dymuno eich bod chi yma wrth fy ymyl i'm harwain i."
Enw'r ail gerdd oedd 'What is care?' Fe ddarllenodd: "Gofal yw deall yr anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu mewn bywyd. Mae gofal yn dangos tosturi pan maen nhw mewn angen."
Gorffennodd drwy ddweud: "Rwy'n gwybod y byddai fy nhad yn gefnogol ac yn falch gyda'r cynnydd rwy'n ei wneud."
'Roedd e'n dy garu'n fawr'
Fe glywodd y llys gan deulu Dr Harrison a chafodd ei ddisgrifio gan ei feibion yn y llys fel dyn "cariadus, gofalgar oedd yn hoff o goginio, teithio a cherddoriaeth".
Fe wnaeth ei wraig, a oedd yn gyn-feddyg ei hun, dalu teyrnged i'w gŵr a mynegodd pa mor anodd y byddai'r cwest i'w mab, Daniel.
"Byddai Dad mor falch o dy gynnydd ac roedd e'n dy garu'n fawr," meddai Jane Harrison, a ddywedodd bod gan ei mab hanes hir o broblemau iechyd meddwl.
Dywedodd Ms Harrison hefyd ei bod yn teimlo'n "anniogel" yn y misoedd cyn yr ymosodiad.
Roedd hi wedi sôn droeon wrth wasanaethau iechyd meddwl a'r heddlu am ymddygiad ei mab, meddai.
Erbyn mis Mawrth 2020, roedd ei mab wedi dechrau meddwl "fod ei gyfrifiaduron wedi'u bygio a bod rhywun yn ysbïo arno - roedd yn meddwl hefyd fod pobl yn gallu clywed ei feddyliau".
Clywodd y llys fod Daniel Harrison wedi bod yn ddigartref ac nad oedd mewn cyswllt gyda'i deulu am fisoedd lawr cyn dod adref cyn Nadolig 2021.
Ar ôl hynny daeth ei ymddygiad yn fwy ymosodol.
Cafodd ei gadw yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot ond fe lwyddodd i ddianc drwy wthio heibio nyrs a oedd wedi agor drws diogel gyda cherdyn.
Fe wnaeth ei ffordd draw i dŷ ei rieni ble ymosododd ar ei dad. Bu farw Dr Harrison o'i anafiadau 28 diwrnod yn ddiweddarach.
"Mae hi wedi cymryd i fy ngŵr farw er mwyn i fy mab gael y gofal priodol," meddai Jane Harrison.
"Mae bellach yn cael gofal iawn, ond roedd hi'n amlwg ei fod yn beryglus iddo'i hun ac i eraill ond chafodd dim ei wneud am y peth."
'Gweiddi ei fod wedi ei wenwyno'
Meddyg teulu Daniel Harrison, Dr Tristham o Grŵp Meddygol Cwmtawe oedd y cyntaf i roi tystiolaeth ddydd Llun.
Dywedodd wrth y llys bod Daniel wedi cael pwl sgitsoffrenig am y tro cyntaf yn 2007 a'i fod wedi derbyn meddyginiaethau gwrth-seicosis ar y pryd.
Clywodd y llys am bwl arall o fis Mawrth 2021 pan siaradodd Daniel Harrison â Dr Tristham ar ôl bod oddi ar feddyginiaethau am 18 mis.
Dywedodd Dr Tristham wrth y llys: "Roedd yn gweiddi bod y feddygfa wedi ei wenwyno â meddyginiaethau."
Dywedodd Dr Tristham ei fod wedi siarad â'i fam gan nad oedd wedi ei glywed fel hyn o'r blaen. Aeth ati i'w gyfeirio at seiciatrydd.
Mae'r cwest yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022