Benthyca anghyfreithlon: Y Nadolig 'mwyaf pryderus erioed'

  • Cyhoeddwyd
Straeon loan sharks
Disgrifiad o’r llun,

Mae straeon cyson yn y wasg am fenthycwyr arian anghyfreithlon

Mae'r tîm sy'n taclo benthyca anghyfreithlon dros y Nadolig yn dweud bod y sefyllfa'n fwy pryderus nag erioed.

Mae disgwyl i tua chwarter o oedolion fenthyg i helpu i dalu am ddathliadau eleni.

Er y bydd y rhan fwyaf yn defnyddio cardiau credyd neu ddulliau swyddogol eraill, bydd rhai mewn perygl o gymryd arian gan fenthycwyr didrwydded.

Ond dywed Stop Loan Sharks Wales fod costau byw uchel yn golygu bod llawer o fenthycwyr eisoes mewn trafferthion.

"Fel arfer, byddem yn gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn y flwyddyn newydd, pan fydd pawb sydd wedi benthyca cyn y Nadolig yn gweld eu bod yn cael trafferth gyda'r ad-daliadau," meddai Sarah Smith, rheolwr tîm Stop Loan Sharks Wales.

Ond dywedodd bod pobl eisoes yn wynebu "bygythiadau" ar ôl benthyca yn gynharach yn y flwyddyn i gadw i fyny â chostau byw uchel, a fod y sefyllfa'n fwy pryderus nag erioed.

Yn ôl ffigyrau diweddara'r Swyddfa Ystadegau, gafodd eu cyhoeddi fore Mercher, fe ostyngodd lefel chwyddiant o 4.6% ym mis Hydref i 3.9% ym mis Tachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Smith fod y sefyllfa'n llawer mwy pryderus nag erioed o'r blaen

Yn ôl y Gwasanaeth Arian a Phensiynau mae tua chwarter y boblogaeth yn bwriadu benthyg arian i dalu am y Nadolig.

O'r rhai sy'n benthyg, dywedodd 52% eu bod yn debygol o ddefnyddio cardiau credyd, 35% yn defnyddio cynlluniau i brynu nawr a thalu'r gost yn hwyrach (buy now, pay later) a 24% yn defnyddio eu gorddrafft.

Mae Sarah Smith yn annog pobl i edrych ar opsiynau eraill cyn troi at ffynonellau anghyfreithlon o fenthyca.

"Unwaith y bydd rhywun yn cael arian gan fenthyciwr arian didrwydded, bydd wedyn yn gweld bod yr ad-daliadau yn llawer uwch nag yr oedden nhw wedi meddwl," meddai.

Dywedodd nad yw benthyca arian yn anghyfreithlon yn dod gydag unrhyw waith papur neu gytundebau sy'n nodi cost yr ad-daliadau, a "pan maen nhw'n cael trafferth gwneud yr ad-daliadau, bydd yn rhaid iddyn nhw fenthyg mwy".

Mae benthycwyr "yn mynd yn sownd mewn cylch lle na allant fyth dalu 'nôl yr hyn y gwnaethant ei fenthyg yn wreiddiol," meddai.

'Gofalus efo disgwyliadau'r plant'

Mae llawer o bobl yn gweld y Nadolig yn amser drud o'r flwyddyn.

Tra bydd rhai yn cynilo i fforddio talu am yr anrhegion a'r dathliadau, bydd eraill yn dibynnu ar gredyd i brynu'r hyn sydd ei angen.

Dydi Nia, sy'n fam sengl i dri o blant yn eu harddegau yn ardal Bangor, ddim wedi cymryd benthyciad i dalu am unrhyw beth y Nadolig hwn.

Ond mae hi'n rhagweld y gallai bod rhaid iddi wneud hynny y flwyddyn nesaf os yw prisiau'n dal i godi.

"'Da ni 'di gorfod bod lot fwy gofalus efo disgwyliadau'r plant [eleni]," meddai.

"Ma' nhw'r oed rŵan lle ma' nhw'n gallu deall bod pethau'n costio lot mwy dyddia' yma."

Disgrifiad o’r llun,

"Fel rhiant ti isio rhoi'r byd i dy blant," meddai Nia

Dywedodd y bydd ei phlant yn cael eu hanrhegion mawr fel yr arfer, ond eu bod wedi torri lawr ar yr anrhegion llai.

"Does 'na ddim pethau bach fel stockings efo lot o bits bach. Ond maen nhw'n deall - maen nhw'n hogia' da - dwi'n lwcus fel yna.

"Fel rhiant ti isio rhoi'r byd i dy blant, ond obviously mae rhoi'r byd i dy blant yn golygu 'neud yn siŵr bo' ganddyn nhw dŷ cyfforddus i fyw ynddo fo, bwyd ar y bwrdd, a rheina ydy'r petha' pwysig.

"Dwi'n lwcus - dwi'n medru budgetio yn haws na fysa rhai pobl, dwi'n meddwl.

"Fydd 'na rai pobl allan yna yn poeni hyd yn oed am roi bwyd ar y bwrdd i'w plant nhw."

'Chi ond yn byw unwaith!'

Dywedodd rhai siopwyr yng Nghaerdydd ei bod hi'n anodd cadw at gyllideb adeg y Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Michelle Thomas yn deall y pryderon am orwario, ond dywedodd mai "dim ond mis" yw cyfnod y Nadolig

Roedd Michelle Thomas, mam i ddau o Gaerfyrddin, wedi gwario £150 yn fuan ar ôl dechrau ei siopa Nadolig yn y brifddinas.

"Nid dyna fy nghyllideb am y dydd - dim ond y dechrau yw hynny!" meddai.

Dywedodd ei bod wedi gosod uchafswm gwariant iddi'i hun, "ond, weithiau, os byddaf yn gweld rhywbeth penodol yna dwi'n mynd amdani".

"Chi ond yn byw unwaith!"

Dyled 'ar feddyliau llawer'

Dywedodd Ms Thomas, 39, fod costau eraill hefyd yn codi.

Roedd y bil ar gyfer cinio yn ystod ei thaith siopa wedi "mynd i fyny'n fawr!"

Mae'r Nadolig dal yn fforddiadwy iddi, ond roedd yn deall pam fod pobl yn poeni am fynd i ddyled yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Rwy'n credu bod hynny ar feddyliau llawer o bobl," meddai.

"Mae gen i blant 10 a saith oed, felly dwi'n meddwl mai dim ond mis yw hi, ac mae gen i swydd sefydlog yn y GIG."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gan bob anrheg ystyr a does dim ots faint [yw'r gost]," meddai Chloe John

Cyfaddefodd siopwr arall, Chloe John o Sir Benfro, ei bod wedi gwario "gormod" ar ei thaith i'r siopau, ond dywedodd nad oedd "byth yn deg rhoi uchafswm gwariant".

"Mae gan bob anrheg ystyr a does dim ots faint [yw'r gost]," meddai.

Ychwanegodd Ms John, 23, y byddai'n "gweithio llawer" i dalu am y Nadolig, ond bu'n jocian ei bod hi efallai'n "mynd i grio" am y gwariant hefyd.

'Gwariwch yr hyn sydd gennych chi'

Dywedodd y myfyriwr Lewis Smith, 18, ei fod wedi gosod cyllideb o £50 y person yn ei deulu ef.

"Rwy'n ceisio ei gapio ar hynny, ond weithiau rwy'n mynd drosodd," meddai.

Dyw cynlluniau credyd ddim yn apelio, meddai.

"Rydych chi'n poeni am fynd i ddyled os ydych chi'n defnyddio hynny, felly gwariwch yr hyn sydd gennych chi," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewis Smith a Leah Rendall yn ceisio sicrhau nad yw eu gwariant yn mynd allan o reolaeth

Dywedodd ei ffrind Leah Rendall y byddai hi "yn ôl pob tebyg yn dilyn cyllideb llym" ar gyfer y Nadolig.

"Fe fydda i yn ceisio gwario'r un faint ar bawb," meddai.