Ymgyrch i roi anrheg Nadolig i bob plentyn

  • Cyhoeddwyd
Dom Cook, trefnydd dosbarthu teganau i blant Casenwydd
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Dom Cook ddosbarthu teganau i blant ardal Betws, Casnewydd yn 2020

"Mae pobl yn gorfod dewis rhwng talu am eu trydan neu brynu anrhegion Nadolig a dy'n ni ddim yn meddwl y dylai neb orfod gwneud hynny."

Nôl yn 2020 sefydlodd Dom Cook a'i ffrind Jodie Matthews gynllun i sicrhau rhoddion i deuluoedd oedd yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd yn ardal Betws, Casnewydd.

"Ry'n ni wedi gorfod mynd heb yn y gorffennol ein hunain" meddai Dom, "felly ry'n ni'n gwybod sut mae'n teimlo ac ry'n ni eisiau gwneud yn siŵr bod y teuluoedd mor gysurus â phosibl."

Eleni mae'r apêl wedi lledaenu tu hwnt i Betws, i Gasnewydd gyfan.

Sefydlodd y menywod yr apêl teganau yn ystod y pandemig pan oedd Dom, 31, yn "mynd trwy amser eitha caled" ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn casglu teganau a rhoddion ers mis Hydref

"I ddechrau rhywbeth i helpu ffrinidiau, teulu, cymdogion oedd e," eglura.

"Ond cydiodd e rywsut ac aeth e lawer yn fwy."

Betws yw un o ardaloedd tlotaf Cymru lle mae un ym mhob tri phlentyn yn byw mewn tlodi yn ôl elusen Achub y Plant., dolen allanol

Ond mae'r ardal wedi dod ynghyd i wneud yn siŵr nad oes unrhywun yn mynd heb anrheg Nadolig.

"Mae 80% o'r holl anrhegion yn dod gan bobol Betws," meddai Dom.

"Mae hyn yn dangos bod ychydig bach wir yn gallu mynd yn bell iawn."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Ian Lamsdale o Newport City Radio ddim am i'r un plentyn yng Nghasnewydd fod heb anrheg ar fore Nadolig

Eleni mae gorsaf radio gymunedol Casnewydd, Newport City Radio, yn cefnogi'r apêl.

"Ry'n ni wedi dod mewn i godi ymwybyddiaeth ychydig, rhoi'r peth ar y cyfryngau cymdeithasol ac agor ein hadeilad ni, y Neon, fel lle i ddod â rhoddion," medd Ian Lamsdale, rheolwr gyfarwyddwr yr orsaf.

"Licen i ddim meddwl bod un plentyn yng Nghasnewydd yn dihuno ar fore Nadolig heb o leia' un peth i'w agor."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd anrhegion i rieni ac i'r henoed eleni, nid dim ond y plant

Mae Dom a Jodie yn falch o'r cymorth ychwanegol ac mae nifer fawr o wirfoddolwyr sy'n helpu gyda chasglu'r rhoddion a'u lapio yng nghanolfan gymunedol Bettws in Bloom.

"Fyddwn ni ddim yn gwrthod i unrhywun," meddai Dom.

"Ry'n ni'n rhoi i'r henoed eleni hefyd."

A bydd rhywbeth i rieni am eu bod nhw wastad yn cael eu hanghofio yn ôl Dom.

Disgrifiad o’r llun,

Maen nhw'n didoli a threfnu'r anrhegion yn ôl oedran

Rhoddion di-enw yw'r anrhegion, er mwyn gwarchod y teuluoedd sy'n eu derbyn.

"Yr unig bobl sy'n gweld yr enwau yw Jodie a fi," eglura Dom.

"Ry'n ni'n gwybod sut mae'n teimlo i ofyn am rywbeth a theimlo cywilydd - felly dy'n ni ddim eisiau i neb deimlo cywilydd na dim byd fel'na am ofyn am ychydig bach o help."

Nawr yn ei bedwaredd blwyddyn, mae Dom yn dweud bod yr holl drefnu wedi gwneud gwyrthiau i'w hyder.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2020 roedd Dom a Jodie'n casglu a dosbarthu'r anrhegion o'u cartrefi

"Cyn i ni ddechrau gyda'r holl deganau 'ma, roedd gormod o ofn arna i i ffonio pobl a gofyn am help," meddai.

"Nawr dwi'n codi'r ffôn ac yn dweud 'ni moyn e, ni angen e a ni'n ei gael e!'"

Fore'r Nadolig bydd 'na deuluoedd ar draws Casnewydd yn ddiolchgar.

Pynciau cysylltiedig