'Rhywbeth o'i le ym mherthynas bwrdd a rheolwyr S4C'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Winston Roddick: 'Aelodau presennol bwrdd S4C yn ddall i'r sefyllfa'

Mae "rhywbeth mawr o'i le" yn y berthynas rhwng bwrdd S4C a rheolwyr, yn ôl cyn aelod o'r bwrdd yn dilyn cyhoeddiad adroddiad i honiadau o fwlio o fewn y sianel.

Roedd adroddiad cwmni Capital Law ar yr amgylchedd waith a'r amgylchedd o fewn y sianel yn cynnwys honiadau bod y cyn-brif weithredwr, Siân Doyle, wedi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac wedi creu diwylliant o ofn.

Mae Ms Doyle yn dweud ei bod "ddim yn adnabod na derbyn yr honiadau a wnaed", ac mae wedi beirniadu penderfyniad Awdurdod S4C i'w diswyddo ym mis Tachwedd.

Ond mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd y bargyfreithiwr Winston Roddick, a oedd yn aelod o'r bwrdd pan adawodd prif weithredwr arall y swydd yn 2010, bod aelodau'r bwrdd presennol "wedi bod yn ddall" i'r sefyllfa.

Doedd S4C ddim am ymateb i'w sylwadau.

"Mae'r gadwyn rhwng y bwrdd a'r prif weithredwr yn sylfaenol bwysig i effeithiolrwydd y bwrdd ac i effeithiolrwydd y gweinyddwyr," dywedodd Mr Roddick, gan bwysleisio mai'r "bwrdd yn y diwedd sy'n atebol am y sianel a safon ei rhaglenni hi".

"Be fyswn i'n wneud pe bawn i ar y bwrdd heddiw, fyddai mynnu bod ni'n canolbwyntio ar edrych i mewn i sut mae'r berthynas rhwng y bwrdd a'r gweinyddwyr wedi torri lawr fel y mae o.

"Mae'n edrych i mi fel bod y bwrdd... fel 'sa nhw wedi bod yn ddall i'r hyn oedd yn mynd ymlaen o'u blaenau nhw."

Dyw Mr Roddick ddim o blaid awgrym i roi S4C dan reolaeth y BBC, gan ddadlau na fyddai'r cam hwnnw yn ymateb i'r problemau presennol.

Dywedodd: "Mae'n bosib datrys y problemau drwy gymryd camau yn ymwneud â rheolaeth".

'Mae'r hwch wedi mynd trwy'r siop'

Aeth cyn-aelod arall o Awdurdod S4C - y darlledwr a'r sylwebydd gwleidyddol, Guto Harri - gam ymhellach gan ddweud bod angen arweinyddiaeth newydd ar y sianel.

Y "gofid mawr", meddai, os nad yw S4C yn llwyddo i fynd i'r afael â'r sefyllfa "yn gloi", yw y bydd Adran Ddiwylliant San Steffan "yn penderfynu i ddangos lot mwy o ddiddordeb yno fe... a fyddan nhw falle yn torri'r cyllid".

Disgrifiad o’r llun,

Guto Harri: 'Y'n ni'n haeddu gwell' gan S4C

"Dwi'n credu bod yr hwch wedi mynd trwy'r siop," dywedodd ar Dros Frecwast. "Dwi ddim mewn sefyllfa i ddweud ar bwy mae'r bai, felly dwi'n dweud hyn heb drio collfarnu unrhyw un o'r unigolion.

"Ond mae'n amlwg bod pethe wedi torri lawr a mae angen arweinyddiaeth newydd... cadeirydd newydd, prif weithredwr newydd a'r prif weithredwr yna gyda gweledigaeth wahanol.

"Ac yna mae angen i'r bobol sy'n gweithio i'r sianel i roid eu trwynau ar y maen a gwerthfawrogi bod gyda nhw sefyllfa ofnadw' o freintiedig, yn gwario £80m y flwyddyn ar raglenni Cymraeg.

"Y'n ni'n haeddu gwell nag y'n ni 'di ga'l yn ddiweddar."

Niwed i'r brand

Mae cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) yn dweud ei bod yn "hynod o bwysig i'r diwydiant symud ymlaen" wedi'r hyn sydd wedi digwydd yn S4C.

Dywed Dyfrig Davies bod TAC "yn hynod o falch bod yr adroddiad wedi'i gyhoeddi" a bod y cyfan "wedi bod yn gwmwl du dros gynifer o bobl am fisoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "bwysig symud ymlaen" wedi adroddiad S4C, medd cadeirydd TAC Dyfrig Davies

"Ni'n gallu symud ymlaen gobeithio nawr,"meddai Mr Davies. "Mae'r sector yn ddibynnol ar waith gan S4C ac S4C yn ddibynnol ar waith da iawn y sector.

"Mae'r adroddiad yn cyfeirio at arafu yn y broses gomisiynu [ac mae hynny] wedi rhoi straen ychwanegol ar gwmnïau.

"Heb amheuaeth ma'n g'neud niwed i'r brand, ac fe ddylen ni yng Nghymru fod yn falch iawn o S4C.

"Mae e fel brand a chynnwys gyda'r gorau gewch chi. Mae'n gwerthu'n dda yn rhyngwladol ac wedi gwneud hynny am nifer o flynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r adroddiad yn clywed tystiolaeth gan 92 o unigolion - nifer yn staff presennol S4C ac eraill yn gyn-aelodau o staff

Mae Dyfrig Davies hefyd yn credu bod cadw "annibyniaeth S4C yn bwysig", a bod camau eisoes ar droed i symud ymlaen o'r trafferthion diweddar.

"Mae'r ddau sydd wrth y llyw dros dro wedi symud pethau ymlaen yn go gloi o ran comisiynu, ac mae trafodaeth agored yn digwydd.

"Adeiladu ar hynny sydd ei angen... dyw'r adroddiad ddim yn cynnwys argymhellion, wrth gwrs, ond dwi'n credu bod angen i bawb ddysgu o hyn.

"Y peth pwysica' yw bo' ni byth yn mynd nôl i'r sefyllfa hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Giffard a Heledd Fychan wedi galw am sicrhau gwelliannau o fewn y sianel

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant Heledd Fychan AS fod pobl Cymru yn "haeddu sicrwydd" bod y sianel yn cymryd ei rôl unigryw fel darlledwr cyhoeddus "o ddifrif", a rhoddodd deyrnged i'r staff a gyflwynodd dystiolaeth o dan amgylchiadau anodd.

"Mae'r adroddiad hwn yn ysgytwol ac angen bod yn drobwynt i'r sianel," meddai.

"Mae S4C yn sefydliad cenedlaethol sy'n rhan annatod o'n diwylliant ac economi greadigol Cymru.

"Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag S4C yn ystod craffu seneddol yn y Senedd ac yn San Steffan i geisio sicrwydd bod y camau priodol yn cael eu cymryd i adfer hyder yn ein sianel."

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig dywedodd Tom Giffard AS: "Mae'n glir o'r adroddiad bod gan y rhai sydd wedi cyfrannu agwedd negyddol iawn at y diwylliant yn S4C wrth i'r adroddiad nodi dros 100 enghraifft o ymddygiad gwael honedig - gyda'r cyfan wedi cael effaith ar nifer o staff presennol a blaenorol.

"Rhaid i S4C nodi'r adroddiad a sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn digwydd wedi newid yn yr arweinyddiaeth - fel bod sefydliad mor bwysig yng Nghymru yn adfer."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams, wedi'i wahodd i roi tystiolaeth i ddau bwyllgor yr wythnos nesaf

Bydd cadeirydd S4C, Rhodri Williams, yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mawrth mewn gwrandawiad atebolrwydd a fydd yn archwilio trefniadau llywodraethiant S4C a gweithrediad y bwrdd unedol.

Ddydd Iau nesaf mae aelodau o Fwrdd S4C wedi'u galw i roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg yn y Senedd.

Dywedodd Delyth Jewell AS, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'r honiadau parhaus yn y cyfryngau ynghylch S4C yn peri cryn bryder.

"Gan fod sibrydion a dyfalu ar led, mae'r pwyllgor yn awyddus i'r cwestiynau hyn gael eu hateb yn gyhoeddus.

"Rydym yn gwahodd cadeirydd ac un aelod o Fwrdd S4C i roi tystiolaeth yr wythnos nesaf i roi eglurder i bobl Cymru.

"Er mwyn adfer ffydd y cyhoedd yn y darlledwr, mae'n hanfodol eu bod yn agored ac yn dryloyw yn y broses hon.

"I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad ddydd Mercher a byddwn yn ystyried ei gynnwys cyn siarad â chynrychiolwyr S4C yr wythnos nesaf.

"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw llwyddiant S4C i'r Gymraeg a Chymru fel gwlad ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gael atebion gan arweinyddiaeth y sianel dros yr wythnosau nesaf."