Cyn-brif weithredwr yn galw am ymchwiliad i S4C

  • Cyhoeddwyd
Siân DoyleFfynhonnell y llun, Huw John
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle ei phenodi yn brif weithredwr S4C ym mis Tachwedd 2021

Mewn llythyr chwyrn at Lywodraeth y DU, mae cyn-brif weithredwr S4C Siân Doyle wedi galw am ymchwiliad i'r sianel ac ymosod ar y cadeirydd Rhodri Williams.

Diswyddwyd Ms Doyle ddydd Gwener diwethaf gan Awdurdod S4C mewn penderfyniad "anodd ond unfrydol".

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am gyfweliad gyda Ms Doyle, ond heb gael ateb.

Dywedodd S4C nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i'w ychwanegu at y datganiad a ryddhawyd pan gyhoeddwyd diswyddiad Ms Doyle ddydd Gwener.

Yn ei llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lucy Frazer AS, sydd wedi ei gyhoeddi ar gyfrif newydd Siân Doyle ar wefan X, dolen allanol, neu Twitter gynt, mae'n gofyn cyfres o gwestiynau am ymddygiad cadeirydd y sianel, Rhodri Williams a'r penderfyniad i gomisiynu cwmni cyfreithiol Capital Law i ymchwilio i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C, a godwyd gan undeb Bectu yn gynharach eleni.

Dywed Ms Doyle iddi gysylltu gydag adran diwylliant, cyfathrebu a chwaraeon llywodraeth y DU (DCMS) i fynegi pryderon am lywodraethiant o fewn i'r sefydliad, gan ddweud "bod y diwylliant mewnol yn risg sylweddol ac yn rhwystr i newid".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Williams ydy cadeirydd S4C ers 2020

Mae hefyd yn cyhuddo'r cadeirydd, Rhodri Williams o "ymgorffori" diwylliant o "ofn, cyfrinachedd, diffyg ymddiriedaeth a rheolaeth eithafol" yno.

Mae'n honni i'r DCMS ymateb i'w phryderon drwy ddweud bod materion mewnol yn rhai i S4C.

Gofynna yn ei llythyr "os byddai'r problemau sy'n digwydd yn S4C wedi digwydd yn Lloegr - yn y BBC neu Channel 4 - a fyddai'r DCMS wedi cymryd yr un ymagwedd mewn ffordd 'hands off'?"

'Diswyddo yn annheg'

Ar 19 Hydref fe anfonodd Newyddion S4C gais rhyddid gwybodaeth at Lywodraeth y DU yn gofyn am unrhyw gyfathrebu rhwng cynrychiolwyr S4C a'r DCMS yn ymwneud â honiadau o fwlio neu ymddygiad anaddas.

Er bod y llywodraeth wedi cadarnhau bod ganddyn nhw'r wybodaeth berthnasol a bod y terfyn amser cyfreithiol i ymateb wedi bod, maen nhw wedi dweud byddan nhw'n ateb erbyn ganol Rhagfyr am eu bod am wneud "prawf budd cyhoeddus".

Yn ei llythyr, mae Siân Doyle yn dweud iddi gael ei diswyddo yn annheg, heb broses gywir ac y bydd hi'n "delio â'r mater drwy broses gyfreithiol gyflawn".

Dywedodd iddi brofi sawl llwyddiant fel prif weithredwr a dioddef "ymgeisiau i'm tawelu dros y 12 mis diwethaf" gan gynnwys "negeseuon testun bygythiol o rifau ffôn yn hwyr yn y nos, ceisiadau rhyddid gwybodaeth dienw yn gofyn pwy oedd yn aros yn fy nhŷ" ac i "fanylion preifat a chyfrinachol" am ei hiechyd gael eu rhyddhau "i'r cyfryngau".

Mewn datganiad dywedodd y DCMS: "Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan ffi'r drwydded, mae'n bwysig fod S4C yn cynnal y safonau uchaf."

Ond ychwanegodd nad yw'r adran yn gallu gwneud sylw ar faterion staffio unigol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Delyth Jewell AS fod y pwyllgor yn awyddus i glywed gan Fwrdd S4C cyn gynted â phosib

Mewn datganiad ar wahân, dywedodd Delyth Jewell AS, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd: "Mae honiadau parhaus yn y cyfryngau sy'n ymwneud ag S4C yn peri pryder, yn fwy felly o ystyried pa mor bwysig yw llwyddiant y sianel i'r Gymraeg a Chymru fel gwlad.

"O ystyried lefel y dyfalu, mae'r pwyllgor yn awyddus i glywed gan Fwrdd S4C cyn gynted â phosibl.

"Gydag ymadawiad y prif weithredwr ac ymchwiliad mewnol parhaus, nid yw'n bosibl cymryd tystiolaeth ar hyn o bryd.

"Cyn gynted ag y bydd wedi cwblhau ei hymchwiliad, mae'r pwyllgor yn disgwyl y bydd S4C yn cyhoeddi'r adroddiad yn llawn, yn amodol ar ddiogelu enwau'r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth.

"Pan fydd yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd, bydd y pwyllgor yn gofyn i gynrychiolwyr ddod i'r Senedd ac ateb cwestiynau."

'Penderfyniad anodd ond unfrydol'

Dywedodd S4C bod ganddyn nhw ddim i'w ychwanegu at ddatganiad a ryddhawyd pan gyhoeddwyd diswyddiad Siân Doyle ddydd Gwener.

Yn ôl y datganiad hwnnw, diswyddwyd Ms Doyle ar sail gwybodaeth amlygwyd yn ystod ymchwiliad Capital Law i honiadau o fwlio.

Dywed y datganiad bod "natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr".

"Er mwyn i ni ddechrau gwneud gwelliannau mae angen i ni wneud rhai newidiadau ar unwaith," meddai.

Ychwanegodd fod aelodau wedi dod i'r "penderfyniad anodd ond unfrydol i derfynu cyflogaeth y prif weithredwr".

Does dim dyddiad wedi ei gadarnhau ar gyfer cyhoeddi adroddiad Capital Law ond mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

Pynciau cysylltiedig