Y clwb pêl-droed sy'n herio stereoteipiau Trebiwt

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Nooh Ibrahim o Cardiff Bay Warriors am i lwyddiant y tîm "ddangos Trebiwt mewn golau positif"

Mae clwb pêl-droed a ddaeth i frig pencampwriaeth Somali Prydain yn gobeithio herio camsyniadau am eu milltir sgwâr yng Nghaerdydd.

"Mae pobl tu fas i Drebiwt yn meddwl, 'dyw Trebiwt ddim yn dda... maen nhw'n aggressive, just lot o stereotypes," medd Nooh Ibrahim o Cardiff Bay Warriors.

Mae'r tîm am i'w llwyddiant "ddangos Trebiwt mewn golau positif".

Ar ôl ennill cynghrair Somali Prydain yn 2022 - y clwb Cymreig cyntaf i wneud hynny - eu nod nawr ydy codi trwy haenau'r gamp yng Nghymru.

Fe gafodd y clwb ei sefydlu yn ne'r brifddinas yn 2005 ar gyfer chwaraewyr lleol o gefndir Somali.

Mae Nooh Ibrahim yn cofio'u gwylio yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny, ac yn falch i fod ymhlith eu hyfforddwyr heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nooh Ibrahim am weld talent a doniau Trebiwt yn cael eu harddangos i'r wlad

Mae agweddau pobl tuag at ei gartref fel arfer yn negyddol, meddai, sy'n rhoi arwyddocâd arbennig i'w llwyddiant.

"Mae'n bwysig iawn i'r clwb i really 'neud yn dda fel bod pawb yng Nghymru yn gweld y talent ac yn gweld y gymuned yn dod at ei gilydd."

'Syniadau negyddol ddim yn wir' 

Fel rhan o'r gwaith hyn, mae'r clwb yn rhannu fideos o'u gemau ar y cyfryngau cymdeithasol - gydag un wedi'i gwylio dros filiwn o weithiau. 

"Hyd yn oed 'nôl adref yn Somalia mae pobl wedi'n gwylio ni," medd ysgrifennydd y clwb Ali Abdi, "sy'n swreal".

"Ry'n ni'n byw yn Nhrebiwt - mae peth o'r sylw ry'n ni'n ei gael yn aml wedi'i selio ar syniadau negyddol iawn. Ond mae 'na bethau gwych yn digwydd yma. 

Ffynhonnell y llun, Zaid Djerdi
Disgrifiad o’r llun,

Cardiff Bay Warriors oedd y clwb cyntaf o Gymru i ennill cynghrair Somali Prydain yn 2022

"Hyd yn oed y bechgyn ar y tîm - mae 'na raddedigion ar y tîm, a bechgyn sy'n gweithio mewn swyddi da iawn yng Nghaerdydd.

"Felly ydyn, ry'n ni mo'yn amlygu hynny.

"Weithiau, dydy'r syniadau negyddol ddim yn wir."

'Cyfle i lwyddo' 

Mae'r chwaraewyr yn teimlo dyletswydd i gynrychioli eu hardal, yn ôl y rheolwr.

"Mae 'na chwaraewyr all fod yn chwarae ar lefel llawer uwch yn barod," medd Ahmed Noor.

"Ond maen nhw eisiau bod yn rhan o'r cynllun a mynd â'r bois o'r gymuned leol mor uchel â sy'n bosib."

Mae Ahmed hefyd yn awyddus i'r Warriors roi cyfle i blant lleol fod yn rhan o rywbeth llwyddiannus o fewn eu milltir sgwâr.

Un tîm sydd gan y clwb ar hyn o bryd - ond gyda'r galw am dimau ieuenctid yn tyfu, mae Ahmed yn gobeithio gallu eu hariannu yn y dyfodol.

"Os allwn ni gael un plentyn yn chwarae pêl-droed ac oddi ar y strydoedd, fyddwn ni'n falch.

"Maen nhw'n chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau - a dyna'r holl bwynt. Does dim arian yn y byd sy'n gallu newid mwynhad plentyn o bêl-droed.

"Felly iddyn nhw fod yn rhan o rywbeth llwyddiannus, mae'n amhrisiadwy."

Pynciau cysylltiedig