Pêl-droed cerdded: Croesawu timau o ledled y byd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pêl-droed cerdded
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 27 o dimau o wyth o wledydd yn cymryd rhan yn y bencampwriaeth

Bydd 27 o dimau o bob rhan o'r byd yn tyrru i Drefforest ger Pontypridd y penwythnos hwn i gystadlu mewn pencampwriaeth pêl-droed cerdded rhyngwladol.

Dyma'r tro cyntaf i gystadleuaeth o'r fath gael ei chynnal yng Nghymru ac mae'n arwydd o dwf y gamp yma.

Yn ôl Nye Isaac, fydd yn cynrychioli tîm dros 70 oed Cymru, mae'n mwynhau'r profiad yn fawr a'n edrych ymlaen at gael chwarae'n erbyn Lloegr, Sweden ac Awstralia.

Mae pêl-droed cerdded yn gamp gymharol newydd yma, ond mae wedi cydio yn ein cymunedau.

Wedi ei hanelu at chwaraewyr hŷn, mae'n fersiwn llai corfforol na phêl-droed arferol ond ddim o reidrwydd yn llai cystadleuol.

Does dim rhedeg, penio na thaclo o'r tu ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1,000 o bobl yn chwarae pêl-droed cerdded yn gyson yng Nghymru bellach

Yn cystadlu ym mhencampwriaeth cenhedloedd y gaeaf yn Nhrefforest bydd 27 o dimau o wyth o wledydd, gan gynnwys Sweden, Lithwania a'r Caribî.

Wedi ei chynnwys yng ngharfan Awstralia mae cyn-gapten tîm cenedlaethol y menywod Sonia Gegenhuber, enillodd 75 o gapiau dros ei gwlad.

Mae'r gystadleuaeth hon, meddai, yn gyfle i fenywod barhau i chwarae yn eu 40au, 50au a 60au.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sonia Gegenhuber, a enillodd 75 o gapiau dros ei gwlad, yn cynrychioli Awstralia yn y bencampwriaeth

Dechreuodd Nye Isaac chwarae rhai blynyddoedd yn ôl, er lles ei iechyd.

Yn gynharach eleni cynrychiolodd ei wlad ym mhencampwriaethau Ewrop ym Marseille.

"Smo fi 'di chwarae pêl-droed cyn hynny ers 30, 40 o flynyddoedd," meddai.

"Pan ddechreuodd e roedd pawb yn mwynhau.

"Roedd rhai pobl yno â'r un broblem â fi â'r galon, ond roedd rhai yn dioddef o iselder hefyd, a nhw'n dweud bod e'n good yn gymdeithasol a ffitrwydd - fi'n mwynhau e llawer."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nye Isaac yn edrych ymlaen at gael chwarae'n erbyn Lloegr, Sweden ac Awstralia

Ar ôl teithio dramor gyda thîm y menywod dros 50 oed, mae Sharon Jones yn falch iawn o allu croesawu timau yma i Gymru y tro hwn.

"Mae'r ffaith bod y gwledydd eraill yn dod drosodd aton ni, mae'n arbennig ofnadwy i ni, a 'da ni'n prowd ofnadwy bo' ni'n gallu cynnal y gystadleuaeth yng Nghymru."

Gyda dros 1,000 o bobl yn chwarae yn gyson yma bellach, mae 'na gynghreiriau wedi eu sefydlu yn y gogledd a'r de, a thros 40 o dimau'n cystadlu yn gyson.

Y nod - yn ogystal â chael llwyddiant ar y lefel rhyngwladol y penwythnos hwn - yw gweld y gamp yn parhau i dyfu ar lawr gwlad.

Pynciau cysylltiedig