Llywodraeth y DU yn addo 320 o swyddi i Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth y DU wedi addo y bydd yn lleoli dros 300 o swyddi gyda'r gwasanaeth sifil yn Wrecsam.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn recriwtio 270 o bobl i weithio yn y ddinas.

Fe fydd 50 o swyddogion o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn cael eu lleoli yn Wrecsam yn hytrach na Llundain.

Roedd gan Lywodraeth y DU darged i symud 22,000 o swyddi gyda'r gwasanaeth sifil allan o Lundain erbyn 2030.

Ond maen nhw wedi cyhoeddi ddydd Mawrth fod y targed hwnnw wedi cael ei symud ymlaen i 2027.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod ychydig dros 16,000 o swyddi wedi cael eu symud o Lundain yn barod, sy'n gynt na'r targed gwreiddiol o 15,000 erbyn 2025.

'Newyddion gwych'

Mae dros 30,000 o weision sifil Llywodraeth y DU eisoes yn gweithio yng Nghymru.

Mae cyflogwyr mawr yn cynnwys y DVLA yn Abertawe a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies fod y cyhoeddiad diweddaraf yn "dangos unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflawni gwasanaethau i'r cyhoedd, tra hefyd yn creu mwy o gyfleoedd a swyddi i ardaloedd ar draws y wlad".

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd mwy o swyddi'r gwasanaeth sifil yn cael eu lleoli yng Nghymru fel rhan o'r cynlluniau i'w symud o Lundain.

Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, ei fod yn "newyddion gwych" y bydd "mwy o swyddi a gyrfaoedd o safon yn y rhanbarth".

"Mae'n gyfnod cyffrous," meddai. "Mae Wrecsam yn mynd o nerth i nerth ac mae 'na hyder enfawr yn ein dinas."

Ychwanegodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, fod y newyddion yn "gam i'r cyfeiriad cywir", a'i bod yn "hen bryd i ni weld mwy o swyddi'r gwasanaeth sifil yn cael eu dosbarthu yn fwy teg ar draws y wlad".