600 o goed Nadolig i ddathlu'r ŵyl yng Nghaersws
- Cyhoeddwyd
Mae 'na draddodiad Nadolig arbennig iawn mewn un cartref yng Nghaersws - a'r traddodiad hynny wedi ei wreiddio yn nymuniad y perchennog i beidio cael parti ar ei phen-blwydd.
Yng nghartref Delma Thomas mae 'na dros 600 o goed Nadolig i'w gweld - a phob un yn gorfod bod fyny erbyn Rhagfyr 1.
Mae'r stori'n cychwyn ar ben-blwydd Delma yn 70 oed ar Rhagfyr 16 ychydig flynyddoedd yn ôl, fel mae'n esbonio wrth Aled Hughes ar Radio Cymru: "Pan o'n i bron bod yn 70 oed, dwi ddim yn un sy'n hoffi partïon syrpreis felly 'nes i feddwl, dwi ddim mynd i fynd am ginio 'da 30 o bobl 'na.
"So 'nes i ddanfon carden bach i bawb yn dweud, 'dewch draw, dwi'n dathlu 70, am baned a gacen'. Daeth 80 i gyd o 9 y bore tan 6 y nos."
Gyda phawb yn mwynhau, awgrymodd un o'r gwesteion fod Delma yn gwneud yr un peth bob blwyddyn - ond ar gyfer elusen.
Mae'n amlwg fod Delma'n un sy'n hoffi her, fel mae'n esbonio: "Oedd 'da fi rhyw 10 o goed Nadolig bryd hynny.
"Es i i chwilio am goed wahanol liwiau - coeden binc, coeden biws, coeden ddu, coeden wen...
"Dwi'n 'neud y coed i gyd i'n 'unan gyda help dwy nith i fi a'i merch hi sy'n helpu rhoi baubles ar y coed a dwi'n dweud 'tŷ agored nawr hyd Ionawr 6ed'. Mae pobl yn mynd a dod ac mae bowlen pysgod 'da fi wrth y drws ac maen nhw'n rhoi cyfraniad mewn fan 'ny."
Croeso
Erbyn hyn mae'n rhan o ddathliadau'r gymuned i bobl i fynd draw i dŷ Delma i weld y coed ac hefyd mae'n gyfle i godi arian ar gyfer elusennau: "Dwi'n mwynhau cwmni nhw a gweld pobl yn dod - maen nhw'n cael glased bach o win cartref a mins pei neu cacen Nadolig.
"Tro cynta' 'nes i neud e 'nes i gasglu £500 i'r clwb dementia, y flwyddyn wedyn i'r ambiwlans awyr 'nes i £1000.
"Llynedd 'nes i £1500 a rhoies i £500 i Lingen Davies (elusen canser) a £500 i nyrsus Macmillan a £500 i eisteddfod Maldwyn blwyddyn nesa'.
Deiagnosis
"'Nes i benderfynu rhoi'r arian i Macmillan a Lingen Davies achos ges i deiagnosis o gancr y fron amser yma llynedd. Ac maen nhw wedi bod mor dda i fi, mae'n rhaid i fi gefnogi nhw.
"Dwi'n teimlo'n iawn ond dwi dal i gael triniaeth."
Felly pam fod 600 o goed yn ran o'r traddodiad erbyn hyn?
Meddai Delma: "Maen nhw'n cynyddu bob blwyddyn - dwi wedi cael pobl yn mynd ar eu gwyliau a dod nôl â choed - ges i goeden nôl o'r Almaen, o Ecuador, o Lake Garda a Sbaen a dwi wedi prynu un o gastell Balmoral yn yr Alban.
Un coeden arbennig
"Ges i un sbeshal - daeth bachgen a'i fam i weld fi un blwyddyn ac o'n i arfer dysgu'r bachgen yn yr ysgol blynyddoedd yn ôl ac mae wedi symud mas i Sweden.
"Tua pythefnos ar ôl iddo fod 'ma ges i goeden bach trwy'r post wrtho fe o Sweden - 'I think you could do with one more!'
"Llynedd oedd dros 600 'da fi, dwi ddim wedi cyfri nhw eleni ond dwi'n gwybod fod dros 600!"
Storio
Mae'n waith caled i osod y coed i gyd yn barod ar gyfer Rhagfyr - ond mae hefyd yn waith caled yn Ionawr i dynnu'r coed i lawr, fel mae Delma yn esbonio: "Mae'n rhaid bod yn ofalus. Dwi'n rhoi nhw mewn bocsys - maen nhw'n delicate iawn so mae rhaid edrych ar ôl nhw yn ofalus.
"Sym brys (i'w tynnu i lawr) - dwi'n byw ar ben fy hun so alla'i gymryd pythefnos neu diwrnod i bacio nhw... sym gwahaniaeth!"
Amrywiaeth
Mae'r tŷ yn wledd o liw gyda phob math o goed i'w gweld: "Does dim coed go iawn - mae rhai pren, rhai seramig, rhai gwair, rhai wedi crocheto... mae un wedi neud allan o blu.
"Mae grŵp cwiltio yn Carno a dwi wedi cael sawl un gyda nhw a maen nhw'n hyfryd.
"Maen nhw gyd yn hyfryd."