Trelái: Teuluoedd dau fachgen fu farw yn cwyno am yr heddlu

  • Cyhoeddwyd
Harvey Evans a Kyrees SullivanFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn ardal Trelái ar 22 Mai

Mae ymchwiliad arall wedi agor i ymddygiad Heddlu'r De yn dilyn cwynion gan deuluoedd dau fachgen yn eu harddegau a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad.

Roedd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn teithio ar sgwter trydan pan fu farw'r ddau yn ardal Trelái, Caerdydd ym mis Mai.

Sbardunodd y marwolaethau derfysg wedi i luniau teledu cylch cyfyng ddangos fan heddlu yn teithio'n agos y tu ôl i'r beic ychydig cyn y digwyddiad.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) - y corff sy'n arolygu ymddygiad yr heddlu - eisoes yn ymchwilio i ymddygiad yr heddlu cyn y gwrthdrawiad.

Bydd eu hymchwiliad newydd, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau, yn ystyried ymateb y llu a'r modd y cafodd lleoliad y gwrthdrawiad ar y noson ei reoli, medd Heddlu'r De.

Disgrifiad,

Daeth fideo CCTV i'r amlwg yn dilyn y marwolaethau yn dangos fan heddlu'n dilyn dau berson ar feic rai munudau cyn y gwrthdrawiad

Eisoes mae rhybudd camymddwyn difrifol wedi eu cyflwyno i yrrwr fan yr heddlu a swyddog arall yn y cerbyd.

Mae hefyd ymchwiliad troseddol ar droed yn erbyn y gyrrwr ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Bydd yr ail ymchwiliad yn ystyried ymateb yr heddlu a'r modd y cafodd lleoliad y gwrthdrawiad ei reoli ar noson 22 Mai.

Bydd hefyd yn ystyried cwynion am y ffordd cafodd y teuluoedd eu trin a chyfathrebu'r heddlu gyda nhw yn dilyn marwolaethau'r bechgyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn parhau gyda theuluoedd a ffrindiau Kyrees a Harvey a phawb yr effeithiwyd arnynt gan eu marwolaethau cynamserol.

"Rydym yn ymchwilio'n annibynnol i nifer o gwynion a godwyd gan eu teuluoedd, sy'n ymwneud yn bennaf â'u rhyngweithiau â Heddlu De Cymru ar noson y digwyddiad ac yn y dyddiau a'r wythnosau a ddilynodd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 2,000 o bobl yn Nhrelái ar ddiwrnod angladdau Harvey Evans a Kyrees Sullivan

"Mae hwn yn ychwanegol i'n hymchwiliad gwreiddiol, yr ydym wedi casglu a chraffu ar swm sylweddol o dystiolaeth ac yn parhau i wneud cynnydd da.

"Bydd penderfyniadau am unrhyw gamau disgyblu ac unrhyw gyfeirio i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn cael eu gwneud ar ddiwedd ein hymchwiliad.

"Rydym yn diweddaru teuluoedd y bechgyn a Heddlu De Cymru yn rheolaidd gyda'n cynnydd ar y ddau ymchwiliad."

Pynciau cysylltiedig