Trelái: 2,000 yn angladd bechgyn fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae tua 2,000 o bobl wedi mynychu angladd dau fachgen fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd, a arweiniodd at anrhefn yn ardal Trelái y ddinas.
Roedd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn ffrindiau gorau ac fe fyddan nhw'n cael eu claddu gyda'i gilydd.
Fel rhan o'r gwasanaeth, dywedodd Esgobaeth Llandaf fod ffrindiau'r ddau fachgen wedi trefnu gorymdaith o tua 200 o feiciau modur, dau limwsîn, pedair hers ac wyth car Rolls Royce.
Bu farw'r ddau mewn gwrthdrawiad beic trydan ar 22 Mai wedi iddyn nhw gael eu dilyn gan fan heddlu, gyda hynny wedyn yn sbarduno anrhefn ar y strydoedd.
Cafodd 15 o swyddogion heddlu eu hanafu yn y reiat a ddaeth yn dilyn y marwolaethau, gyda naw o bobl yn cael eu harestio.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) bellach yn ymchwilio i'r marwolaethau, ac am weithredoedd Heddlu'r De cyn y gwrthdrawiad.
Ychydig ddyddiau wedi marwolaethau Kyrees a Harvey fe wnaeth tua 800 o bobl fynychu gwylnos er cof amdanynt a rhyddhau cannoedd o falŵns glas i'r awyr.
Roedd rhai ffyrdd yn ardal Trelái ynghau ddydd Iau ar gyfer yr angladd yn Eglwys yr Atgyfodiad, gydag ysgolion lleol hefyd ar gau oherwydd nifer y galarwyr yn y gwasanaeth.
Roedd cannoedd o rubanau glas hefyd i'w gweld ar hyd llwybr yr orymdaith angladdol, wedi eu clymu i bolion, arwyddion ffordd, giatiau tai, ac ar flaen ceir a faniau.
Roedd nifer o feiciau modur yn arwain yr orymdaith, yna pedair hers - y ddwy gyntaf gydag enwau Harvey a Kyrees mewn blodau, a'r ddwy hers arall gyda'r geiriau 'foreveryoung'.
Cyn y seremoni fe wnaeth awyren hedfan dros yr ardal gyda baner tu ôl iddi'n darllen 'RIP Kyrees & Harvey. Young Kings'.
Pan gyrhaeddodd yr orymdaith, fe ganodd cloch yr eglwys ac fe fu'r dorf o gannoedd oedd yn aros tu allan yn cymeradwyo.
Roedd llawer o bobl yn gwisgo glas, a hynny ar gais y teulu, tra bod carped glas hefyd yn arwain o'r ffordd i fynedfa'r eglwys.
Roedd yr eglwys, sy'n dal tua 1,200 o bobl, yn orlawn gyda thua 800 o bobl hefyd yn sefyll y tu allan.
Wrth i'r ddwy arch gael eu cario mewn cafodd All My Life gan y rapwyr Americanaidd Lil Durk a J Cole ei chwarae.
Yn y gwasanaeth cafodd emyn All Things Bright And Beautiful ei chanu, ac yna cafwyd darlleniad a chyfle i aelodau o deulu'r ddau rannu atgofion.
Yn safle'r gwrthdrawiad ar Ffordd Snowden, mae blodau a negeseuon yn parhau i gael eu gadael i'r ddau fachgen, yn ogystal â chardiau pen-blwydd i Harvey, fyddai wedi bod yn 16 oed ar 21 Mehefin.
Wrth siarad cyn yr angladd dywedodd y Parchedig Ganon Jan Gould, sy'n arwain y gwasanaeth: "Mae'n bwysig i'r teulu yn enwedig, ond i'r gymuned gyfan hefyd, i gael rhyw fath o ddiweddglo a gallu dechrau symud ymlaen.
"Fy ngobaith i yw, wrth symud ymlaen, y bydd modd i'r gymuned ailadeiladu. A gobeithio bydd y teuluoedd yn cael rhywfaint o dangnefedd o'r gwasanaeth."
Yn dilyn y gwasanaeth cafodd y ddau eu claddu yn yr un bedd ym Mynwent y Gorllewin, Trelái.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd26 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023