Cynnig newidiadau i gynllun ffermio cynaliadwy dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Tractor a phaneli solar
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o ddiwygio taliadau amaethyddol yn rhan allweddol o ymateb y llywodraeth i heriau newid hinsawdd

Mae newidiadau wedi eu cynnig i agweddau dadleuol o gynllun Llywodraeth Cymru i ddiwygio cymorthdaliadau amaeth.

Dyma'r trydydd ymgynghoriad a'r un terfynol - sy'n cynnig rhoi mwy o amser i ffermwyr gydymffurfio â gofynion plannu coed.

Ond mae undebau amaeth yn dadlau y bydden nhw'n dal i fod yn "rhwystr" i nifer o ffermydd fyddai eisiau ymuno â'r cynllun.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cynlluniau yn help wrth wneud ffermwyr Cymru yn "arweinwyr byd" mewn ffermio cynaliadwy.

Mae'r gofyniad i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed wedi bod yn un o agweddau mwyaf dadleuol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn cynnig rhoi tan 2030 i ffermydd gydymffurfio - tra bod y ffigwr o 10% ond yn berthnasol i dir lle mae amodau'n caniatáu plannu coed.

Bydd ffermwyr yn cael taliad cymorth am y pum mlynedd gyntaf, er mwyn caniatáu iddynt weithio tuag at y gofynion newydd heb golli arian.

Ac mae'r cynllun hefyd yn cynnig lleihau'r lleiafswm o dir y mae angen ei ffermio i hawlio cymorthdaliadau, sy'n ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd ffermydd sy'n tyfu llysiau ar raddfa lai yn ogystal â ffermwyr traddodiadol yn gwneud cais, yn ôl y llywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau yn 2025

Ond dydy'r cyhoeddiad ddim yn cynnwys manylion am faint o arian fydd yn cael ei dalu - fydd hyn bellach yn cael ei ddatgelu yn ystod haf 2024, fisoedd yn unig cyn i'r cynllun ddechrau.

Mae disgwyl i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau yn 2025, gan ddisodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig

Cafodd y cynlluniau - un o brif gynigion Llywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a cholli byd natur - eu tanseilio ym mis Gorffennaf, pan gyhoeddodd arweinwyr NFU Cymru nad oedden nhw'n barod i fod yn rhan o'r cynllun - yn bennaf oherwydd y gofyniad plannu coed.

Bydd tair lefel o gyllid i ffermwyr wneud cais amdanynt.

Mae'r cyntaf yn gyffredinol i unrhyw un sy'n gwneud cais, ac mae ganddo 17 o ofynion - megis gweithio gyda milfeddyg lleol ar gynlluniau iechyd anifeiliaid a bioddiogelwch, datblygu gwrychoedd i ddod yn gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt a rheoli mawndiroedd.

Mae'r ddwy lefel nesaf yn cwmpasu ffermwyr sydd eisiau mynd ymhellach yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud dros fyd natur, ond mae'r cynlluniau diweddaraf yn cynnig gohirio cyflwyno'r cyllid hwnnw.

'Ffermwyr yn eu dagrau'

Ond mae Alexander Phillips o'r corff amgylcheddol WWF Cymru yn dweud y gallai hynny arwain at ffermwyr yn "mynd allan o fusnes neu gael eu gorfodi i roi'r gorau i rai o'u harferion da o ran cefnogi byd natur".

"Mae hynny'n fwlch posib o dair neu bedair blynedd cyn i ni gael y gefnogaeth benodol honno i ffermwyr sydd wedi datblygu eu ffermydd i fod yn fwy cyfeillgar i natur," meddai.

"Rwy'n gwybod ein bod ni wedi cael ffermwyr yn cysylltu â ni a sefydliadau eraill yn eu dagrau yn dweud eu bod nhw'n mynd i golli llawer o arian, bod degawdau o fuddsoddiad a gwaith caled yn cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth ar yr union adeg pan maen nhw'n gwneud yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei annog."

"Dwi ddim yn meddwl bod llawer yn yr ymgynghoriad a fydd yn newid y teimladau hynny ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Aled Jones yw llywydd NFU Cymru - sydd wedi bod yn feirniadol o gynlluniau'r llywodraeth

Roedd arweinwyr NFU Cymru wedi bygwth boicotio fersiwn blaenorol o'r cynllun oherwydd y gofyniad i ffermwyr blannu coed ar 10% o'u tir.

Mewn ymateb i'r cynigion newydd dywedodd llywydd yr undeb Aled Jones ei bod hi'n "anodd gweld sut y bydd y cynllun yn gallu sicrhau'r un lefel o sefydlogrwydd i fusnesau fferm, y gadwyn gyflenwi a'n cymunedau gwledig o gymharu â'r drefn bresennol".

"Mae NFU Cymru yn glir - heb ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru i daliad sefydlog, na fydd ffermwyr Cymru yn gallu cyflawni ein huchelgeisiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol," meddai.

Dywedodd Gareth Parry, dirprwy bennaeth polisi Undeb Amaethwyr Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig mwy o fanylion yn yr ymgynghoriad hwn ond bod diffyg manylion am y taliadau yn ei gwneud hi'n anodd i ffermwyr roi barn ar y cynlluniau.

Er hynny anogodd aelodau'r undeb i leisio'u barn: "Mae 'na nifer o bryderon o hyd.

"Ar ddiwedd y dydd mae'r cynllun yma yn mynd i gael effaith mawr ar ddyfodol amaeth yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod o'n gweithio ar gyfer ffermwyr yng Nghymru, ac i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Tywydd eithafol yw'r bygythiad mwyaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn ôl Lesley Griffiths

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau, a fydd yn agored i ymgynghoriad tan fis Mawrth, dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths eu bod eisoes wedi siarad yn helaeth gyda phartïon â diddordeb.

"Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith patrymau tywydd eithafol fel sychder a llifogydd, ar ffermydd," meddai.

"Bydd y digwyddiadau hyn ond yn dod yn amlach a dyna yw'r bygythiad mwyaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

"Dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gefnogaeth i'r diwydiant yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r broblem hon, fel bod ffermwyr Cymru'n gallu ei gwrthsefyll ac yn gallu parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy."

Pynciau cysylltiedig