Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Birmingham City
- Cyhoeddwyd

Juninho Bacuna sgoriodd y gôl hollbwysig i Birmingham City
Noson siomedig i Gaerdydd wrth i Wayne Rooney lwyddo i ennill gêm oddi cartref am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi yn rheolwr Birmingham City.
Daeth cyfleoedd gorau Caerdydd yn ystod yr hanner cyntaf o giciau rhydd a chiciau cornel wrth i Mark McGuinness a Dimitrios Goutas ddod yn agos.
Ond yr ymwelwyr aeth ar y blaen yn ystod yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau.
Ar ôl i Kion Etete golli'r bêl ar ymyl cwrt cosbi Birmingham, fe lwyddon nhw i wrthymosod yn sydyn gyda Siriki Dembélé yn bwydo Juninho Bacuna a orffennodd yn daclus.
Y Blues wnaeth reoli'r chwarae wedi'r egwyl gyda Jay Stansfield yn dod yn agos at ddyblu mantais yr ymwelwyr.
Er i Erol Bulut gyflwyno sawl eilydd yn yr ail hanner roedd yr Adar Gleision yn ei chael hi'n anodd creu cyfleoedd o safon.
Mae'r golled yn golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023