Gêm gyfartal i Abertawe ond colled arall i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Charlie PatinoFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Charlie Patino, sydd ar fenthyg o Arsenal, sgoriodd y gôl hollbwysig i Abertawe

Abertawe 1-1 Huddersfield Town

Roedd gôl hwyr yn ddigon i sicrhau gêm gyfartal i'r Elyrch yn erbyn Huddersfield Town ar brynhawn rhwystredig i Abertawe yn Stadiwm Swansea.Com

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi tri munud wrth i Ben Cabango wyro'r bêl i mewn i'w rwyd ei hun wrth geisio delio â chroesiad isel Jaheim Headley.

Fe gafodd yr Elyrch gyfleoedd i unioni'r sgôr, ond doedd Michael Duff yn amlwg ddim yn hapus gyda'r perfformiad yn yr hanner cyntaf wrth iddo benderfynu dod a thri eilydd i'r cae yn ystod yr egwyl.

Fe wellodd y perfformiad yn yr ail hanner, ac yn yr amser gafodd ei ychwanegu am anafiadau fe hedfanodd ergyd Charlie Patino i gornel isaf y rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.

Mae'r pwynt yn golygu bod Abertawe yn parhau yn y 18fed safle yn y Bencampwriaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Armstrong sgoriodd y ddwy gôl i Southampton

Southampton 2-0 Caerdydd

Fe gollodd Caerdydd am yr ail gêm yn olynol wedi perfformiad difflach yn Stadiwm St Mary's yn erbyn Southampton.

Y tîm cartref oedd yn rheoli'r chwarae o'r cychwyn cyntaf, ac fe aeth Southampton ar y blaen wedi 11 munud drwy Adam Armstrong - a grymanodd y bêl i gornel ucha'r rhwyd o ganol y cwrt cosbi.

Roedd hi'n ddwy i ddim llai na phum munud yn ddiweddarach, wrth i Armstrong benio heibio Rúnar Rúnarsson yn dilyn gwaith da gan Stuart Armstrong lawr yr asgell chwith.

Roedd perfformiad yr Adar Gleision yn well yn yr ail hanner ond roedden nhw'n ei chael hi'n anodd creu cyfleoedd clir.

Yr asgellwr Karlan Grant ddaeth agosaf at sgorio i'r ymwelwyr gyda'i ergyd o ymyl y cwrt cosbi.

Mae'r golled yn golygu bod Caerdydd bellach yn 11eg yn y tabl.