Corff Angharad Jones wedi'i ganfod mewn afon - cwest

  • Cyhoeddwyd
AngharadFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Angharad Jones wedi bod ar goll o'i chartref yn Nantgaredig

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth menyw 55 oed o Nantgaredig a ddiflannodd o'i chartref.

Aeth Angharad Jones ar goll ddydd Sul 26 Tachwedd, wedi ei disgrifio ar y pryd fel unigolyn "risg uchel" gan yr heddlu.

Clywodd y cwest gan swyddog y crwner, Hayley Rogers, wnaeth gadarnhau bod yr heddlu wedi derbyn galwad am 16:44 ar 26 Tachwedd gan ŵr Mrs Jones yn dweud ei bod ar goll.

Bu criwiau tan, timau achub mynydd, deifwyr yr heddlu a hofrennydd yr heddlu yn chwilio amdani.

Clywodd y cwest bod corff menyw wedi ei ddarganfod yn yr afon ym Mhontargothi am 13:20 ar 29 Tachwedd, wedi ei gadarnhau yn ddiweddarach fel corff Angharad Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd timau achub eu galw i ardal Afon Cothi

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Glangwili ar 5 Rhagfyr. Mae'r adroddiad post mortem yn dal i gael ei baratoi ynghyd ag ymholiadau eraill.

Fe gafodd y cwest ei ohirio tan 29 Mawrth 2024.

Fe wnaeth y crwner Paul Bennett ymestyn ei "gydymdeimlad diffuant" i ŵr Mrs Jones a gweddill y teulu ar eu "colled drist."

Bydd angladd Angharad Jones yn cael ei gynnal ym mhentref Nantgaredig, ble roedd hi'n byw, fore Gwener.

Mae hi'n gadael gŵr a dwy ferch.

Pynciau cysylltiedig