Cwmni Haven yn dod o hyd i asbestos ar draeth yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni gwyliau Haven wedi atal eu gwaith ar ran o draeth yng Ngwynedd ar ôl iddo ddod o hyd i asbestos.
Mae'r cwmni gwyliau yn gweithio ar draeth Pwllheli ar hyn o bryd, yn agos i Hafan y Môr, gyda'r bwriad o warchod y tir ac atal erydiad llwybr yr arfordir.
Mae'r cwmni wedi cyhoeddi eu bod wedi gorfod atal y gwaith ar un rhan o'r traeth ar ôl i asbestos gael ei ddarganfod gerllaw.
Mae'r ardal wedi ei "hynysu a'i sterileiddio" ac mae'r cwmni yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch [HSE] i ddatrys y broblem.
'Dim risg i'r cyhoedd'
Dywedodd y cwmni: "Rydym yn gwneud gwaith mawr i ehangu traeth Pwllheli ac yn gwario'n sylweddol i ddiogelu'r tir a llwybr yr arfordir rhag iddo erydu ymhellach.
"Yn dilyn y darganfyddiad y tu ôl i'r traeth, mae'r gwaith wedi ei atal yn yr ardal am gyfnod.
"Ar hyn o bryd nid oes risg i'r gweithlu nac i'r cyhoedd yn ehangach ac rydym yn cydweithio gydag arbenigwyr i gymryd y camau priodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod "wedi ein hysbysu bod asbestos wedi ei ddarganfod fel rhan o'r prosiect adeiladu".
Yn 2021, fe gafodd Haven ganiatâd ar gyfer cynllun buddsoddi gwerth £13m a fydd yn creu mwy na 150 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a bron i 50 o swyddi yn y tymor hir.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys datblygu llety carafanau sefydlog ar safle'r hen fflatiau deulawr a oedd yn perthyn i Butlins, adeiladu caffi ar y traeth gydag ardal chwarae'n gyfagos ynghyd ag amddiffynfeydd arfordirol priodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019