Port Talbot: Undeb yn bwriadu 'amddiffyn' a 'chreu swyddi'

  • Cyhoeddwyd
gweithfeydd dur port talbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb llafur sy'n cynrychioli rhai o weithwyr dur Port Talbot yn dweud ei bod yn bwriadu amddiffyn a chreu swyddi newydd, er gwaethaf pryderon bod y cwmni'n paratoi i dorri hyd at 3,000 o swyddi.

Roedd disgwyl i Tata wneud datganiad am y dyfodol fis diwethaf, ond cafodd y cyhoeddiad ei ohirio.

Mae undebau'n dweud bod y cwmni'n paratoi i ddiswyddo hyd at dri chwarter y 4,000 sy'n gweithio yng ngweithfeydd Port Talbot fel rhan o gynlluniau i dorri allyriadau carbon.

Anghytuno dros ddyfodol y safle

Mae'r undebau wedi'u hollti dros ddyfodol y safle.

Mae dau undeb (Community a'r GMB) yn cefnogi cynllun a gafodd ei gomisiynu gan gwmni annibynnol Syndex, fyddai'n "amddiffyn mwy na 2,300 o swyddi dros ddegawd ac yn golygu dim diswyddiadau gorfodol ym Mhort Talbot".

Er i'r tri undeb gomisiynu'r cynllun ar y cyd, mae undeb Unite bellach yn dweud ei bod yn gwrthod y cynllun hwnnw.

Mewn dogfen a rannwyd â rhaglen Newyddion S4C o dan y teitl 'Cynllun y gweithwyr i Bort Talbot', mae ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, yn galw am gynyddu cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n dweud y gall hynny gael ei gyflawni os yw'r DU yn "arwain ac yn ennill cyfran fawr o'r farchnad gynyddol am ddur gwyrdd" ac yn mabwysiadu "polisïau caffael cyhoeddus blaengar".

Mae hefyd yn datgan: "Fyddwn ni ddim yn derbyn cau unrhyw ran o safle Port Talbot oni bai a hyd nes bod buddsoddiad i adeiladu safleoedd cynhyrchu eraill heb dorri unrhyw swyddi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyhoeddiad 22 tudalen o hyd, mae Unite yn dweud y gallai cynnyrch dur y DU "ddyblu o leiaf" erbyn 2035, gan ychwanegu bod y DU yn cynhyrchu "traean yn unig o lefel dur gwledydd Ewrop, a dim ond un rhan o chwech o'i gymharu â'r Almaen".

Mae hefyd yn dweud i'r DU gynhyrchu "dim ond 60% o'r dur oedd angen arni" y llynedd.

Mae'r adroddiad yn galw am:

  • Sicrhau bod pob contract cyhoeddus yn defnyddio dur Prydeinig yn unig, gan honni byddai hynny'n rhoi £7bn yn ôl i mewn i'r economi;

  • Capiau ynni a pherchnogaeth gyhoeddus o'r grid trydan, gan ddweud bod gwneuthurwyr dur Prydain "yn talu 65% yn fwy [am ynni] na'u cystadleuwyr Ewropeaidd. "Mae Ffrainc a'r Almaen" meddai'r adroddiad "wedi cyflwyno sybsidïau ynni i'w diwydiannau"'

  • "Buddsoddiad cenedlaethol £12bn erbyn 2035" fyddai'n "sicrhau twf" ac yn "ad-dalu trethdalwyr yn rhwydd drwy gynyddu refeniw'r diwydiant a chadw miloedd o bobl mewn gwaith".

Dau gam i ddyfodol Port Talbot

Mae dau gam yn cael eu hamlinellu ar gyfer gweithfeydd Port Talbot, a honiad yn yr adroddiad i gynrychiolwyr Unite gwrdd ar 22 Tachwedd a chytuno i'r cynlluniau yn unfrydol.

Byddai'r cam cyntaf yn cynnwys adeiladu ffwrnes arch drydan newydd erbyn 2027 a chadw ffwrnes chwyth ar agor tan 2034.

Yn yr ail gam, mae Unite yn awgrymu y gellid adeiladu rhagor o ffwrnesi arch trydan, adeiladu safle cynhyrchu haearn carbon isel a chreu parth diwydiannol newydd ger y gweithfeydd presennol.

Mae cynllun Unite yn annibynnol o gynlluniau'r undebau eraill ac felly y tu fas i bwyllgor dur y DU, lle mae undebau yn trafod ar y cyd gyda chwmni Tata.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel eu bod nhw, "ein cynrychiolwyr gweithlu a llywodraethau'r DU a Chymru oll wedi ymrwymo i symud tuag at greu dur yn wyrddach yn y DU".

"Wedi cyfarfodydd diweddar gyda Phwyllgor Dur y DU - y fforwm hirhoedlog ac hir-sefydlog - rydyn ni'n parhau i ymgysylltu mewn dyfnder gyda'n cydweithwyr mewn undebau llafur a'u cynghorwyr annibynnol nhw i ddeall ac adolygu'r cynlluniau a gyflwynwyd gan sawl undeb i symud tuag at gynhyrchu dur mewn modd gwyrddach yn y DU.

"Does dim sgyrsiau ffurfiol yn digwydd nac unrhyw gynlluniau yn cael eu hystyried gan y cwmni y tu allan i'r rheiny sydd yn cael eu cyflwyno drwy Bwyllgor Dur y DU.

"Rydyn ni yn parhau'n ymrwymedig i gyflawni'n dyletswyddau fel cyflogwr cyfrifol ac egwyddorol i ymgysylltu â'r pwyllgor lle mae'r undebau llafur yn trafod ar y cyd gyda ni cyn, a thrwy gydol, yr ymgynghoriad swyddogol."

Pan ofynnwyd pryd fyddai datganiad ffurfiol am ddyfodol y safle, ni roddwyd ateb.

Mae Newyddion S4C yn deall na fydd unrhyw ddatganiad cyn y flwyddyn newydd. 

Pynciau cysylltiedig