Môn: Merlod 'o fudd mawr' i blant ysgol gyda gorbryder

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pennaeth yr Ysgol, Iolo Evans, yn sôn am ddyfodiad y merlod

Mae cŵn neu gathod therapi wedi hen ennill eu plwyf fel modd o leihau straen ar bobl o bob oed.

Ond ers bron i ddeufis mae ysgol ar Ynys Môn yn croesawu ffrindiau pedair coes o fath gwahanol.

Merlod yw Nansi a Daisy, sydd bellach yn ymweld â'r ysgol ddwywaith yr wythnos.

Maen nhw eisoes yn cael effaith bositif ar bresenoldeb ac yn helpu rhai disgyblion gyda gorbryder.

Yn ôl staff mae presenoldeb yr anifeiliaid, a'r cyfle i ofalu amdanynt yn helpu llawer o ddisgyblion i ddod i'r ysgol yn y bore ac yn "rhoi synnwyr o bwrpas" iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ddisgyblion Ysgol Gymuned y Fali gyda un o'r merlod

Yn byw ar fferm ac yn marchogaeth ei hun, syniad y prifathro oedd cyflwyno'r ddwy ferlen i'r disgyblion.

Er mwyn eu croesawu i dir yr ysgol yn ystod y gwyliau hanner tymor diwethaf, daeth rhai o'r staff i'r ysgol i adeiladu padog pwrpasol i gartrefu'r merlod.

'Effaith cadarnhaol'

"Yn anffodus, un peth 'da ni gyd fel ysgolion wedi etifeddu ers cyfnod Covid ydy gorbryder," meddai Mr Iolo Evans wrth Cymru Fyw.

"Mi rowson ni holiadur lles i'r plant ac oedd llawer iawn yn dweud eu bod eisiau gweld anifeiliaid yn dod i'r ysgol, yn bennaf ceffylau am mod i'n dod â cheffylau yma i'r ffair haf.

Disgrifiad o’r llun,

Prifathro Ysgol Gymuned y Fali, Iolo Evans, o flaen y padog sydd wedi ei adeiladu'n arbennig ar dir yr ysgol

"Drwy weithio hefo'r llywodraethwyr a'r cyngor sir fe benderfynon ni wireddu hyn, a dyma nhw.

"Maen nhw yn cael effaith gadarnhaol, yn y bore yn enwedig, mae gan bob ysgol lond llaw o blant sydd â gorbryder pan yn dod i fewn yn y bore.

"Mae'r ceffylau yma iddyn nhw gael rhoi mwythau iddyn nhw, ond hefyd yn rhoi swyddi i'r plant, yn sicrhau fod ganddyn nhw fwyd a diod, a dwi'n meddwl fod y teimlad gan y plant fod nhw'n gwneud rhywbeth i edrych ar ôl anifail yn gwneud iddyn nhw eisiau dod i'r ysgol.

"Ond hefyd amser chwarae, yn aml iawn welwch chi blant yn dod ar ben eu hun am rhyw bum munud.

"Motto ni yma yw gweithio'n galed a chwarae'n galed, felly os ydan ni isho i'r plant wneud y gorau yn y dosbarth dydy o ond yn deg eu bod yn cael rhywbeth hwyliog i'w wneud amser chwarae."

'Maen nhw'n wahanol'

Dywedodd Xanthi, sy'n naw oed, ei bod yn mwynhau edrych ar ôl y merlod pan maen nhw'n ymweld â'r ysgol.

"Mae'n beth da fod nhw'n dod yma ac mae'r plant i gyd yn mwynhau chwarae hefo nhw, maen nhw'n friendly."

Disgrifiad o’r llun,

Skye a Jessica gyda Nansi

Ychwanegodd Skye, sy'n 10 oed: "Enwau nhw ydy Nansi a Daisy, mae Nansi yn saith oed a Daisy yn chwech a maen nhw'n chwiorydd.

"Bob nos Fawrth mae 'na glwb ceffylau lle mae plant yn dysgu sut i lanhau a hyd yn oed reidio nhw.

"Dwi'n hoffi dod yma amser chwarae a jyst bod hefo nhw.

"Dwi 'di gweld Nansi yn ffair yr haf... mae'n beth da am fod nhw'n wahanol."

'Creu cysylltiad a chefn gwlad'

Os yw presenoldeb y merlod yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, atebodd Mr Evans: "Os fysan ni'n edrych yn benodol ar lond llaw o ddisgyblion oedd ganddon ni bryder hefo, ydy mae o wedi cael effaith gadarnhaol.

"Ac os mae'n gwneud gwahaniaeth i lond llaw yna mae'n help mawr i ni dydy?

Disgrifiad o’r llun,

Xanthie a Yasmin gyda Daisy

"Yn anffodus mae gwersi marchogaeth mor ddrud dydi lot o'r plant ddim yn cael cyfleoedd a mae rhywbeth fel hyn yn rhoi cyfle i blant cael bod hefo anifail.

"'Dam ni mwy neu lai mewn ardal cefn gwlad ond o ran be mae'r plant yn wybod ac yn gwneud hefo cefn gwlad, dwi'n meddwl fod o'n bwysig i ni greu'r cysylltiad cryf yna.

"'Da ni ddim yn siŵr be fydd y plant yma'n gwneud fel swyddi pan fyddan nhw'n hynach, pwy a wŷr, efallai fydd rhai yn gweithio hefo anifeiliaid?"

Pynciau Cysylltiedig