Helpu eraill yn gymorth i ddwy fam drwy eu galar

  • Cyhoeddwyd
Natalie Ridler
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bron i chwe mis ers i Natalie Ridler o Abertawe ffarwelio â'i mab bach, Morgan ar ôl cael diagnosis o ganser

Mae dwy fam o dde Cymru a gollodd eu meibion ar ôl cael canser yn dweud fod "llenwi bylchau mewn cefnogaeth" i deuluoedd eraill yn help wrth ymdopi gyda'u galar.

Fe gollodd Natalie Ridler ei mab, Morgan, eleni a chollodd Katy Yeandle ei mab hithau, Joseph, ddwy flynedd yn ôl.

Mae'r ddwy wedi sefydlu elusennau - Morgan's Army a Joseph's Smile.

"Dwi ddim yn gallu gwneud unrhyw beth am Morgan nawr. Mae Morgan wedi mynd," dywedodd Natalie.

"Ond dwi yn gallu helpu pobl sy'n mynd drwy beth aethon ni drwyddo."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i'r gwasanaeth iechyd ddarparu triniaethau ac offer i blant sydd eu hangen.

'Anodd yn dod lan i Nadolig'

Mae'n bron i chwe mis ers i Natalie Ridler o Abertawe ffarwelio â'i mab bach, Morgan ar ôl cael diagnosis o ganser. Roedd yn dair oed.

"Ma' 'na lot i fynd drwyddo gyda grief ac ymdopi gyda cholli plentyn," dywedodd Natalie.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Morgan Ridler yn gynharach eleni

"Ni wedi bod drwy gymaint gyda thriniaeth Morgan a wedyn colli Morgan.

"Mae'n anodd hefyd yn dod lan i Nadolig. Fe wnaeth ein byd ni stopio."

Pan oedd Morgan yn wynebu ei driniaethau, fe sefydlodd Natalie a'r teulu elusen o'r enw Morgan's Army.

Dywedodd fod codi arian i helpu teuluoedd gydag ariannu triniaethau, offer neu gostau teithio dros y ffin i'w plant wedi bod yn gysur enfawr yn eu galar.

"Ni'n meddwl bod elusennau bach fel ni yn gallu dod mewn i ffeindio'r gaps a helpu.

"Dyna be sy'n gwneud i fi deimlo'n well."

'Dylai dim un teulu godi arian am driniaeth'

Ym Mrynaman mae 'na bentref Nadolig arbennig wedi ei sefydlu gan elusen Joseph's Smile.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlwyd yr elusen Joseph's Smile yn enw y bachgen bach

Mae teulu Joseph, oedd yn dair oed pan fu farw o ganser ddwy flynedd yn ôl, wedi codi degau o filoedd o bunnoedd. 

"Mae'n drist iawn achos ddylai dim un teulu godi arian am driniaeth neu gyfarpar sydd ddim ar gael ar [y gwasanaeth iechyd]," medd Katy Yeandle.

"Mae'n helpu fi achos dwi'n gallu cofio Joseph.

"Mae'n helpu fi just as much as the children ni'n helpu hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Katy Yeandle ei mab, Joseph, ddwy flynedd yn ôl

Un plentyn sydd wedi elwa o gymorth elusen Joseph's Smile yw Gwilym, 6, o Gwm Gors yn Nyffryn Aman, sy'n byw â pharlys yr ymennydd.

Ar ôl cael llawdriniaeth fawr drwy'r gwasanaeth iechyd i helpu gyda'i symudedd, mae'n rhaid iddo gael ffisotherapi preifat.

"Roedden ni'n ffodus iawn i gael help o charity Joseph's Smile. O'n nhw wedi rhoi £5,000 i ni," dywedodd ei fam, Ffion.

Gyda phob sesiwn yn fwy na £150, dywedodd: "Mae'n ddrud ond mae'n rhaid i ni dalu amdano fe.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym, yn byw a pharlys yr ymennydd ac yma gyda'i fam, Ffion, yn elwa o gymorth elusen Joseph's Smile

"Mae Gwilym yn gallu rhoi ei draed yn fflat am y tro cyntaf yn ei fywyd a mae ei goesau yn syth.

"Ni just mor ddiolchgar iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi gallu gwneud."

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i wasanaethau'r GIG ddarparu mynediad at driniaethau, gan gynnwys ffisiotherapi ac offer symudedd fel cadeiriau olwyn.

"Mae'r GIG yn darparu asesiadau anghenion cyfannol i bobl sy'n cael diagnosis o ganser er mwyn helpu i nodi a diwallu anghenion cleifion."Ychwanegon nhw y gall rhai cleifion cymwys wneud cais am gymorth gyda chostau teithio os oes angen triniaeth ysbyty drwy'r gwasanaeth iechyd.

Pynciau cysylltiedig