Poeni am gostau canser mab, 3, yn rhwystro mam rhag cysgu

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Stori Morgan, bachgen tair oed sy'n brwydro canser

Mae mam bachgen tair oed sydd â chanser yn dweud fod poeni am gostau a chadw to uwch ben ei theulu'n ei chadw'n effro yn y nos.

Mae Natalie Ridler, o Abertawe, wedi sefydlu elusen yn enw ei mab, Morgan, ar ôl sylwi ar "fylchau" o ran cefnogaeth i deuluoedd.

Yn ôl Cynghrair Canser Cymru, mae elusennau'n wynebu cyfnod anodd - sydd yn ei dro'n cael effaith ar deuluoedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i roi "gofal arbennig" i blant â chanser ond bod yn rhaid teithio am driniaeth mewn rhai achosion.

Cafodd teulu Morgan, sydd o ardal Gorseinon, wybod fod ganddo fath prin o ganser yn ei stumog yn 2021.

"Mae Morgan wedi gwneud wyth rownd o chemo, wedi cael llawdriniaeth ar ei ysgyfaint, llawdriniaeth arall ar ei fola fe," dywedodd ei fam, Natalie, wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie (canol) wedi sefydlu elusen yn enw ei mab, Morgan

Mae Morgan yn wynebu triniaeth chemotherapi arall ar hyn o bryd, a bydd yn dwysáu dros yr wythnosau nesaf.

"Unwaith ti 'di cael diagnosis o ganser mae dy holl fywyd a phopeth mae'n edrych fel yn newid."

'Gwneud yn siŵr bo' ni'n gallu cadw'r tŷ'

Mae'r cyfan yn cael straen emosiynol ar y teulu a'r effaith ariannol yn gwaethygu, dywedodd Natalie.

"Yn sydyn, ni 'nôl a 'mlaen o'r ysbyty, mae Morgan ddim yn gallu mynd i'r ysgol, mae ddim yn gallu gweld ffrindiau.

"Dwi ddim yn gallu newid lot ynglŷn â'n sefyllfa ni, ti'n trio pigo lan gwaith le ti'n gallu a 'neud tipyn bach le ti'n gallu.

"Ni 'di dod â savings ni mas er mwyn 'neud yn siŵr bo ni'n gallu fforddio pethe'.

"Gan bod ni ddim yn siŵr be sy'n mynd i ddigwydd gyda Morgan mae'n rhaid i ni jyst neud yn siŵr bo' ni'n gallu cadw'n tŷ ni... mae'n cadw ti o gwsg yn y nos."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Morgan yn wynebu triniaeth chemotherapi ddwys dros yr wythnosau nesaf

Mae'r teulu wedi cael help drwy rai grantiau, ond fe sylwodd Natalie nad oedd yr elusennau mawr yn gallu bod yno drwy'r amser.

Felly, fe sefydlodd elusen Morgan's Army i geisio llenwi rhai o'r "bylchau" i deuluoedd.

"Mae 'na ambell elusen sy'n gallu helpu, maen nhw ddim yn gallu talu am bopeth i ti achos mae'n rhaid iddyn nhw dalu rhywbeth i bob teulu.

"Unwaith ma' hwnna'n dechre' rhedeg mas, yn sydyn, does dim byd i lenwi'r gap.

"Naethon ni sefydlu'r elusen yn Chwefror flwyddyn 'ma, a ni wedi mynd nerth i nerth ers hynny, jyst er mwyn helpu'r teuluoedd o'n cwmpas ni yn ne Cymru.

"Mae sut gymaint o bobl yn delio gyda hyn yn wahanol a dyna beth ni wedi gweld fel elusen, mae lot o bobl dan straen oherwydd y cost of living, a ma' lot o bobl jyst wir angen help mewn ffyrdd gwahanol."

'Hapus bod dal ymladd i'w wneud'

Ychwanegodd Natalie: "Dwi'n ymdopi drwy helpu pobl eraill.

"Mae lot o newid i ddod eto ond ni just yn hapus fod 'na dal ymladd i 'neud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Menai Owen-Jones ei bod hi'n gyfnod anodd i elusennau

Mae Menai Owen-Jones yn brif weithredwr ar elusen ganser Latch, sy'n helpu plant a phobl ifanc. Dywedodd ei bod yn gyfnod anodd i elusennau mwy o faint hefyd.

"Mae'r angen wedi cynyddu yn fawr, felly yn 2021 fe wnaethon ni roi [gwerth] £300,000 o grantiau ac wedyn y flwyddyn ddiwethaf, 2022, 'naeth hynny gynyddu 30% i bron i £365,000," dywedodd.

"'Dan ni'n ffodus iawn bod pobl yn gwirfoddoli o'u hamser ac yn bod mor hael i helpu'n elusen ni, ond 'dan ni wedi gweld, yn enwedig ddechrau'r flwyddyn yma bod 'na lai o arian yn dod i mewn.

"Ma' hynny'n golygu bod gynnon ni lai o arian wedyn i roi grantiau i helpu teuluoedd felly. Mae'n gyfnod anodd iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Griffiths: Mae 'na lai o arian ond fwy o alw am wasanaethau

Mae cadeirydd Cynghrair Canser Cymru, Lowri Griffiths, yn disgrifio'r sefyllfa fel her wrth gadw'r ddysgl yn wastad.

"Mae'n anodd mewn byd elusen, 'dach chi'n gorfod gwneud ein siŵr bod eich arian chi'n balansio'n erbyn be' 'dach chi'n gallu ei gynnig ar yr ochr gwasanaethau," meddai.

"Mae'r ffaith bod yr arian yn dod lawr ond y demand ar y gwasanaethau'n mynd i fyny yn rili anodd.

"Be 'dach chi fod i wneud? 'Dach chi'n torri'ch gwasanaeth neu 'dach chi ddim yn trefnu'r gwasanaeth, 'dach chi'n cael waiting lists ar gyfer gwasanaethau? Mae'n anodd balansio hynny ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal arbennig i blant a phobl ifanc sydd â chanser ond mewn rhai achosion gall hyn olygu bod angen i deuluoedd deithio y tu allan i ardal eu bwrdd iechyd.

"Mewn rhai amgylchiadau, gall teuluoedd fod yn gymwys i hawlio cymorth gyda'u costau teithio gan y GIG os oes rhaid i'w plentyn fynd i'r ysbyty i gael triniaeth gan y GIG."