Trefforest: Cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Daniel RaeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Daniel Rae

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 30 oed fu farw yn dilyn ymosodiad ger Pontypridd.

Mae'r llu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Daniel Rae ddydd Sul.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest ychydig cyn 20:00 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yma, ond mae'r heddlu wedi mynnu nad oes lle i gredu fod perygl ehangach i'r cyhoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi bod yn cynnal asesiadau fforensig ar y safle

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Rydw i eisiau cymryd y cyfle yma i sicrhau'r cyhoedd fod hwn yn ddigwyddiad unigol, ac ar hyn o bryd does dim rheswm i gredu fod unrhyw berygl ehangach i'r cyhoedd.

"Os wnaethoch chi weld neu glywed unrhyw beth yn ymwneud â'r llofruddiaeth, dim ots pa mor fach, plîs cysylltwch am y gallai eich gwybodaeth ychwanegu sicrwydd at fanylion sydd eto i'w cadarnhau."

Ychwanegodd fod sawl stryd yn parhau ynghau o amgylch lleoliad y digwyddiad er mwyn i'r llu gynnal asesiadau fforensig er mwyn helpu'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig