Dros 2,000 o ddirwyon i rieni am absenoldeb plant
- Cyhoeddwyd
Cafodd dros 2,000 o ddirwyon eu rhoi i rieni yng Nghymru llynedd oherwydd bod eu plant wedi bod yn absennol o'r ysgol.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, mae'r ffigyrau'n dangos nad oedd rhai awdurdodau lleol wedi rhoi un hysbysiad cosb benodedig, tro bod eraill wedi rhoi cannoedd.
Ni wnaeth y rhan fwyaf o gynghorau eu defnyddio yn ystod y pandemig, ac mae'r cyfanswm dal yn is na'r ffigwr yn 2018-19.
Mae hynny er gwaethaf pryder ynglyn ag "argyfwng" presenoldeb.
40% yn llai o ddirwyon
Ym mlwyddyn academaidd 2022-23, roedd nifer y dirwyon a gafodd eu rhoi gan awdurdodau lleol yn amrywio o 0 i 481.
Roedd y cyfanswm o leiaf 40% yn is na'r ffigwr yn 2018/19 - y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig.
Yn 2018/19 roedd o leiaf 3,700 hysbysiad cosb benodedig, gyda rhai cynghorau'n dweud nad oedden nhw'n gallu darparu'r ffigyrau.
Pan darodd y pandemig, dywedodd Llywodraeth Cymru na ddylai cynghorau eu defnyddio oherwydd bod ysgolion wedi gorfod cau a'r tarfu arall o ganlyniad i Covid-19.
Ond ym Mai 2022 fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles y gallai cynghorau eu rhoi unwaith eto mewn rhai amgylchiadau.
Beth yw hysbysiad cosb benodedig?
Mae hysbysiad cosb benodedig yn £60, sy'n codi i £120 os nad yw'n cael ei dalu o fewn 28 diwrnod.
Mae'r data'n awgrymu eich bod yn fwy tebygol o gael dirwy mewn rhai ardaloedd nag eraill.
Nid yw tri awdurdod lleol wedi rhoi unrhyw ddirwyon ers 2020, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin.
Cynghorau Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf oedd wedi darparu'r nifer fwyaf o'r dirwyon yn 2022-23.
Dywedodd Cyngor Merthyr ei fod wedi rhoi 285 dirwy am wyliau yn ystod y tymor ysgol, a 196 am absenoldebau eraill heb ganiatâd.
Fe wnaeth Rhondda Cynon Taf roi 364 dirwy, ac fe gafodd 157 eu tynnu'n ôl cyn taliad.
Gwelodd Caerdydd ostyngiad mawr yn nifer y dirwyon rhwng 2018/19 a 2022/23, o 1,203 i 235.
Yn siopa Nadolig yng Nghaerfyrddin, roedd Gethin Page, sy'n dad i blant oed ysgol, yn gweld y dadleuon o blaid ac yn erbyn rhoi dirwy.
"Mae'n annog rhieni i ddanfon plant i'r ysgol a gwneud yn siŵr bod nhw'n cadw fynd i'r ysgol yn gyson", meddai.
"Ond wedyn pan mae'n dod i gostau, mae'n rhaid ystyried mae gwyliau wedi mynd yn ddifrifol o ddrud felly mae'n dipyn rhatach i fynd ar wyliau yn ystod tymor ysgol."
Dydy Richard Lewis, sydd hefyd yn dod o ardal Caerfyrddin, ddim yn credu y dylai rhieni wynebu dirwy yn ystod argyfwng costau byw.
"Dyle bach o common sense ddod mewn i 'fe. Mae lot o rieni yn stryglan ar y funed, ac mae plant hefyd 'fyd", meddai.
"Mae eisiau gwybodaeth am beth mae'r teuluoedd yn mynd trwyddo fi'n credu."
Ym Mhontypridd, roedd Bethan, mam i blentyn ysgol gynradd, yn credu bod dirwy yn addas weithiau.
"Y peth pwysicaf, fi'n meddwl, yw bod cyfathrebu da rhwng yr ysgolion a rhieni.
"Ond dwi'n meddwl fel last resort weithiau mae'n hanfodol yn dyw e i gael rhyw fath o deterrent fel bod y rhieni yn gwybod am y pwysigrwydd o blant i fynd i'r ysgol ac i stopio'r absenoldebau."
Yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru dim ond "mewn achosion eithafol" y dylai dirwyon gael eu defnyddio "ar ôl i bob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu fethu â chael effaith".
Mae'n dweud y dylid rhoi rhybudd yn y lle cyntaf, ac y dylai cynghorau ystyried a fyddai dirwy yn effeithiol wrth geisio cael y plentyn nol yn y dosbarth.
Angen 'cefnogaeth yn hytrach na dirwy'
Dywedodd Stuart Williams o undeb NEU Cymru bod angen "cefnogaeth yn hytrach na dirwy" i ddod i'r afael â phroblemau presenoldeb.
"'Falle bod 'na broblemau dwys yn y cartre', falle bod 'na broblemau iechyd meddwl gyda'r disgyblion.
"Felly mae angen mynd i'r afael â rheiny er mwy rhoi mwy o gefnogaeth i'r teuluoedd a chefnogaeth i'r ysgol i fynd i'r afael â'r problemau hynny yn hytrach na rhoi'r ddirwy.
"Tydi dirwy ddim yn mynd i gael dim effaith ar yrru plant i'r ysgol ac yn anffodus yn ystod argyfwng costau byw mae'n mynd i gael effaith mawr ar incwm teuluoedd."
Mae rhieni hefyd yn gallu cael eu herlyn os nad ydynt yn talu dirwy, neu os oes 'na batrwm o absenoldeb.
Yn 2022/23 roedd tua 700 o erlyniadau yn gysylltiedig ag absenoldeb plant o'r ysgol.
Roedd dros 1,000 yn 2018/19.
Pan wnaeth y cynghorau roi manylion, roedden nhw'n dangos bod y rhan fwyaf o erlyniadau wedi arwain at ddirwyon pellach a thalu costau llys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022