Aros am ymatebion i gais 'unigryw' Marina Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Marina'r Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r marina ar werth wedi i'r cwmni oedd yn berchen ar y safle fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

Mae trefnwyr ymgyrch i geisio prynu marina'r Felinheli ar gyfer y gymuned yn aros i glywed a yw eu cynnig am y safle wedi cael ei dderbyn.

Maen nhw hefyd yn disgwyl clywed "yn fuan iawn" a ydy'r fenter gymunedol wedi llwyddo i sicrhau arian cyhoeddus ar gyfer ceisio gwireddu eu cynlluniau.

Mewn chwe wythnos fe lwyddodd y fenter i godi £120,000, ac mae'r arian yn dal i gyrraedd, yn ôl un o aelodau pwyllgor Menter Y Felinheli.

Ychwanegodd Deiniol Tegid bod eu cynnig nhw yn "un unigryw" a bod y pwyllgor "yn grediniol ein bod mewn sefyllfa dda i lwyddo".

Mae marina'r Felinheli, y pentref arfordirol rhwng Caernarfon a Bangor, yn nwylo'r gweinyddwyr ers i'r cwmni sy'n berchen ar y safle fynd i'r wal.

Dywedodd Mr Tegid wrth raglen Dros Frecwast bod cais y fenter i'w brynu wedi ei gyflwyno i'r gweinyddwyr ym mis Medi.

Hyd yn hyn mae 377 o fuddsoddwyr gwahanol wedi cyfrannu symiau rhwng £100 a £5,000 ac "mae'r arian yn dal i ddod i fewn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Deiniol Tegid yn aelod o bwyllgor Menter Y Felinheli

"Dydan ni ddim yn yr un sefyllfa â nifer o fentrau cymunedol er'ill sydd, dd'udwn ni, isio prynu tafarn a ma'r dafarn yna ar werth am bris penodol," dywedodd.

"Does 'na ddim pris penodol ar farina Felinheli.

"Mae'r arian 'dan ni wedi'i godi yn rhannol ariannu'r cynnig yma... rydan ni'n disgw'l clywed - yn fuan iawn bellach - am geisiada' sylweddol am grantia' ac arian cyhoeddus hefyd.

"Ar y cyd, yn sicr, mi fydd ganddon ni ddigon, os ydan ni'n llwyddiannus hefo'r ceisiada' yna, i brynu'r marina.

"Wrth gwrs, dydi hynny ddim yn ein dwylo ni, oherwydd natur y broses benodol yma. Mae hynny yn nwylo'r derbynnydd a dyna rŵan ydi'r sefyllfa... 'dan ni'n aros i glywed."

Pwyslais ar etifeddiaeth

Dywedodd Mr Tegid eu bod yn ymwybodol bod yna geisiadau eraill i brynu'r marina.

"'Chydig iawn ydan ni'n gw'bod am y ceisiada' yna achos mae'r derbynnydd a'r asiant sydd yn gwerthu yn cadw petha'n reit dynn...," meddai.

"Be rydan ni'n w'bod ydi bod ein cynnig ni, mi rydan ni'n credu, yn gynnig unigryw oherwydd y cyfuniad o wahanol betha' mae o'n ei gyflwyno.

"Mae ganddon ni lawer iawn mwy o ddiddordeb yn yr ochor etifeddiaeth o'r safle...

"Mae 'na gynllunia' cyffrous y gallan ni edrych arnyn nhw a datblygu'r cysylltiada', er enghraifft, efo Llanberis a Dinorwig a'r holl etifeddiaeth o'r lle mae llechi o Dinorwig yn mynd rownd y byd drwy'r Felinheli.

"Dydi hynny, hyd y gwyddom ni, ddim mor amlwg yng nghynllun neb arall."

Disgrifiad o’r llun,

Un o aelodau amlycaf yr ymgyrch yw'r cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen

Ychwanegodd Deiniol Tegid: "Mae ganddon ni fel menter gymunedol y gallu i ga'l arian cyhoeddus mewn ffyrdd nad ydi cyrff masnachol ddim yn gallu i'w wneud, felly mae ein cais ni'n unigryw ac mi rydan ni'n grediniol ein bod ni mewn sefyllfa dda i lwyddo yn ein cais."

Dywedodd bod yna "gefnogaeth sylweddol" wedi bod i'r ymgyrch - "o'r pentre' ei hun, o'r ardal ehangach, o Gymru [ac] o Loegr hefyd".

Er i'r ymgyrch hyrwyddo ddod i ben yr wythnos ddiwethaf, "mae'r arian yn dal i ddod i mewn".

Pwysleisiodd bod "cyfle dal yna" i bobl ddod yn gyfranddalwyr "os ydyn nhw'n dal yn pendroni".

Pynciau cysylltiedig