Cyn-swyddog carchar yn ddieuog o gael perthynas amhriodol

  • Cyhoeddwyd
Ruth Shmylo yn cyrraedd y llysFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruth Shmylo wedi gwadu cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus

Mae cyn-swyddog carchar wedi cael ei chanfod yn ddieuog o gael perthynas amhriodol gyda charcharor yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont.

Cafodd Ruth Shmylo, 26, ei dyfarnu'n ddieuog o un cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau.

Mae'r cyhuddiadau yn deillio o gyfnod rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2021, pan gafodd Ms Shmylo ei diswyddo yn dilyn cyfnod prawf yn gweithio yng Ngharchar Parc.

Clywodd yr achos nad oedd Ms Shmylo wedi adrodd am sawl peth, gan gynnwys ffôn symudol anghyfreithlon oedd gan y carcharor Harri Pullen, a bod cyfathrebu o natur rywiol wedi digwydd mewn sgyrsiau ffôn.

Ond dywedodd Ms Shmylo wrth y llys fod Pullen wedi ei bygwth hi a'i theulu, ac nad oedd hi'n teimlo y gallai adrodd y broblem am fod ganddi berthynas wael gyda staff eraill yn Parc.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ruth Shmylo yn gweithio yn yr adain lle roedd Harri Pullen yn cael ei gadw yng Ngharchar Parc

Yn ystod yr achos, fe glywodd y llys fod Ms Shmylo wedi dechrau gweithio yng Ngharchar Parc ym mis Awst 2021, a bod Harri Pullen - oedd wedi'i garcharu am droseddau cyffuriau - wedi ei symud yno'n fuan wedyn.

Yn ei dystiolaeth, fe ddywedodd pennaeth diogelwch y carchar Daniel Hayman fod Ms Shmylo wedi cael hyfforddiant mewn agweddau fel gwrth-lygredd, a sut i ddelio gyda charcharorion fyddai'n ceisio eu dylanwadu.

Ym mis Rhagfyr 2021 fe wnaeth Pullen basio darn o bapur i Ms Shmylo gyda rhif ffôn arno tra bod y ddau yn ardal weini bwyd y carchar.

Pan wnaeth Ms Shmylo wthio'r papur yn ôl, mae'n dweud bod Pullen wedi ei bygwth, gan ofyn "wyt ti'n gwybod beth ti newydd wneud?".

Pan ofynnwyd iddi gan fargyfreithiwr yr amddiffyn, Clare Wilks pam na wnaeth hi adrodd y peth ar y pryd, dywedodd Ms Shmylo: "Byddai e wedi gwybod mai fi oedd e."

Roedd hi'n gwybod am gysylltiadau Pullen gyda giang troseddol, meddai, ac felly byddai "goblygiadau" wedi bod petai hi wedi achwyn amdano.

Ym mis Ionawr 2021 cafodd cyfarfod ei drefnu gydag uwch-swyddog diogelwch yn y carchar i drafod pryderon am ymddygiad Ms Shmylo gyda charcharor gwahanol.

Dywedodd Ms Shmylo mai hi wnaeth godi Harri Pullen am y tro cyntaf yn y cyfarfod hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caerdydd

Fe glywodd y llys bod perthynas Ms Shmylo gyda staff eraill y carchar yn wael o'r dechrau, ond bod hynny wedi gwaethygu pan wnaeth hi adrodd ynglŷn ag achos o ymyrryd gyda bwyd.

Roedd hi wedi adrodd bod staff wedi bod yn poeri a rhoi semen ym mwyd rhai carcharorion, ac fe wnaeth hynny arwain at symud dau aelod o staff i ran arall o'r carchar.

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth Ms Shmylo dderbyn galwad ffôn gan Pullen pan nad oedd hi yn y gwaith, ble mae hi'n dweud iddo ddweud "mae gen i ti nawr".

'Dim dewis'

Roedd Pullen wedi disgrifio ei fod yn "berson difrifol", ond dywedodd yr erlynydd Matthew Cobbe: "Mae 'na lawer o 'bobl ddifrifol' yng Ngharchar Parc.

"Roedd gan staff ddyletswyddau i'w gilydd ac i garcharorion eraill i sicrhau eu bod nhw'n gweithio mewn amgylchedd ddiogel."

Wnaeth Ms Shmylo ddim adrodd am y digwyddiad hwnnw chwaith, gan ddweud ei bod hi "ofn" Pullen ac yn teimlo fod ganddi "ddim dewis" o hynny ymlaen ond i ateb ei alwadau.

Pan ofynnwyd iddi pam na wnaeth hi roi gwybod i rywun, dywedodd Ms Shmylo: "Doedd gen i neb i ddweud wrtho, roedd fy rheolwr i wedi datgelu mod i'n achwynydd."

Fe glywodd yr achos dystiolaeth arbenigol hefyd gan seiciatrydd, Dr Owen Davies, a ddywedodd bod Ms Shmylo wedi sôn am gamdriniaeth "sylweddol" yn ystod ei phlentyndod, gan gynnwys cam-drin corfforol a cham-drin rhyw posib.

Gallai hyn, meddai, fod wedi effeithio ar ei phenderfyniadau a'i gwneud hi'n fwy tebygol o gredu bod "niwed go iawn" yn deillio o fygythiadau.

'Ro'n i'n meddwl mod i am farw'

Dywedodd Ms Shmylo wrth y llys fod Pullen nid yn unig wedi ei bygwth hi, ond aelodau ei theulu, carcharorion eraill, ac hyd yn oed ei chathod.

Mewn un sgwrs ffôn roedd Pullen wedi dweud wrth Ms Shmylo am fynd i gyfarfod ei fam, ond roedd hi'n credu i ddechrau ei fod yn ei hanfon hi i gyfarfod aelod o giang troseddol.

Dywedodd wrth y llys ei bod hi'n ofni bod rhywun am "ddysgu gwers iddi", gan ychwanegu: "Ro'n i'n meddwl mod i am farw."

Fe glywodd y llys bod achlysuron o weithredoedd rhyw hefyd wedi digwydd yn ystod sgyrsiau ffôn rhwng y ddau.

Mynnodd Ms Shmylo, fodd bynnag, mai Pullen oedd yn cyflawni'r gweithredoedd, ei bod hi wedi gofyn iddo "sawl gwaith" i stopio, a'i bod hi'n eu hystyried yn achosion o "aflonyddu rhyw".

Ym mis Ebrill 2021 cafodd Ms Shmylo ei galw i gyfarfod gyda phennaeth diogelwch y carchar, Mr Hayman i drafod ei chyfnod prawf, ble cafodd hi ei diswyddo.

'Penderfyniadau byrbwyll, diofal'

Fe glywodd yr achos bod sawl esiampl o ymddygiad Ms Shmylo wedi cael eu crybwyll yn y cyfarfod hwnnw, ac mewn cyfarfodydd blaenorol.

Roedd y rheiny'n cynnwys chwythu cusan at garcharor, cerydd am wisgo trowsus tynn yn y gweithle, a digwyddiad ble roedd hi wedi dweud wrth garcharor am sychu paent oddi ar ei braich.

Yn dilyn diswyddiad Ms Shmylo, cafodd Pullen hefyd ei symud i Garchar Manceinion yn fuan wedyn wedi i Mr Hayman ofyn i hynny ddigwydd.

Pan ofynnwyd iddo am hynny, dywedodd Mr Hayman: "Roedd e wedi bod mewn perthynas sefydlog gyda pwy dwi'n ei gredu oedd Ms Shmylo.

"Gallai cyswllt a chyfathrebu parhaus fod wedi tanseilio Carchar Parc, a peri risg neu berygl i staff."

Fe wnaeth sgyrsiau ffôn barhau rhwng Pullen a Ms Shmylo wedi iddo gael ei symud i Fanceinion, ar ôl iddo ychwanegu ei rhif hi i'r rhestr o rifau oedd wedi eu awdurdodi.

Fe gafodd hyn ei wneud heb iddi wybod, meddai Ms Shmylo, ond fe wnaeth hi barhau i ateb ei alwadau.

Rhain oedd y galwadau gafodd eu recordio oedd yn dangos bod perthynas wedi bod rhwng y ddau pan oedden nhw yng Ngharchar Parc gynt, meddai'r erlyniad.

Yn rhai o'r sgyrsiau, roedd modd clywed Ms Shmylo yn chwerthin, dweud jôcs ac yn tynnu coes Pullen - ymddygiad, meddai'r erlyniad, oedd ddim yn cydfynd â honiad Ms Shmylo nad oedd hi eisiau siarad ag ef.

"Oedd 'na wir neb allai hi fod wedi troi atynt i helpu ynghylch pethau roedd hi yn amlwg yn gwybod amdano?" gofynnodd Mr Cobbe.

"Neu oedd hyn yn esiampl o benderfyniadau byrbwyll, diofal oedd yn ei chyffroi hi ar y pryd?"

Mewn ymateb, dywedodd Ms Shmylo ei bod hi'n meddwl mai parhau gyda'r sgyrsiau oedd yr unig ffordd o "geisio rheoli niwed yn y sefyllfa yma".

Fe wnaeth yr erlyniad hefyd gyfeirio at sgyrsiau lle roedd Pullen yn sôn am blant allai'r ddau gael gyda'i gilydd yn y dyfodol, ble wnaeth Ms Shmylo "ddim unwaith" ei gywiro ar y mater.

'Ffantasïwr narsisaidd llwyr'

Yn ei thystiolaeth hi, fe ddywedodd Ms Shmylo fod Pullen yn "ffantasïwr narsisaidd llwyr" oedd ag argraff wahanol iawn o'u perthynas i'r realiti.

Wrth amddiffyn, dywedodd Clare Wilks fod Pullen wedi bod yn "ystrywgar, bygythiol a sarhaus" tuag at Ms Shmylo.

Ychwanegodd fod "dim tystiolaeth" i ddangos bod Ms Shmylo wedi helpu Pullen mewn unrhyw ffordd oedd wedi peryglu diogelwch staff neu garcharorion yng Ngharchar Parc.

Pan wnaeth Ms Shmylo ddatgelu "cyfundrefn o lygredd" yn y carchar, meddai Ms Wilks, cafodd ei alw'n "fradwr, ei hymosod, ei tharo ar ei phen-ôl, ei diraddio a'i bychanu".

Roedd hyn yn esbonio pam na wnaeth hi adrodd iddyn nhw am y materion yn ymwneud â Pullen, meddai.

Ychwanegodd fod Ms Shmylo wedi cyfaddef gwneud "camgymeriadau", ond nad oedd hynny'n "dramgwydd troseddol".

Roedd Ms Shmylo yn "ddynes ifanc gonest", meddai Ms Wilks, oedd wedi cydweithio'n llawn gyda'r ymchwiliad ar ôl cael ei harestio.

Pynciau cysylltiedig