Tristwch wrth i fwyty seren Michelin Aberystwyth gau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SY23
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd SY23 i roi Aberystwyth ar map bwyd y wlad, medd Elin Jones AS

Bydd bwyty seren Michelin Aberystwyth yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Sadwrn oherwydd "heriau yr hinsawdd bresennol".

Agorodd bwyty SY23 wrth ymyl cloc y Stryd Fawr yn Aberystwyth yn 2019 ac yn fuan fe gafodd y bwyd enw da gan ennill seren Michelin yn 2022 a 2023.

Nathan Davies oedd y prif gogydd - yn 2022 fe gyrhaeddodd rownd derfynol rhaglen The Great British Menu y BBC wedi iddo ennill rownd Cymru.

Roedd ei bwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol gyda'r cig a'r pysgod yn cael eu coginio ar siarcol.

'Gorfod aberthu llawer'

Ddiwedd wythnos diwethaf mewn neges ar ei gyfri Instagram, dywedodd Mr Davies ei fod yn ddiwrnod trist iawn wrth iddo ffarwelio â'r bwyty.

Mewn datganiad dywedodd y perchnogion Mark a Rhian Phillips bod yr "hinsawdd ariannol presennol wedi bod yn heriol".

"Estynnwyd y cyfle i Nathan, ein prif gogydd, a Hollie, i ymgymryd â'r busnes, ond yn anffodus, maent wedi dewis peidio â derbyn y cynnig ar hyn o bryd.

"Ers agor ar ddiwedd 2019, mae'r diwydiant bwytai wedi wynebu anawsterau anferth, ac mae Rhian a minnau wedi gwneud aberthau sydd wedi bod yn fwy nag y gall y rhan fwyaf o bobl ei ddychmygu," ychwanegodd Mark Phillips.

"Er gwaethaf yr heriau, rydym wedi cael llwyddiannau rhyfeddol yn ystod ein hamser yn SY23. Rydym yn falch o fod wedi ennill seren Michelin, yn falch o fod wedi cael ein cydnabod fel Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn yn 2022, ry'n ni wedi derbyn gwobr Jurors, ac wedi ennill 3 seren o 'The World of Fine Wines.

"Mae'r gwobrau hyn wedi bod yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein tîm, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth a gawsom gan y gymuned."

Ar hyn o bryd mae perchnogion SY23 ymhlith y rhai sy'n dwyn achos yn erbyn cwmnïau yswiriant wedi iddyn nhw beidio cael iawndal ganddyn nhw yn ystod Covid.

Disgrifiad o’r llun,

Yn fuan wedi agor fe gafodd prydau bwyd y prif gogydd, Nathan Davies, enw da gan ennill seren Michelin yn 2022 a 2023

Wrth i'r achos hwnnw barhau yn yr Uchel Lys dywedodd Mr Phillips: "Er bod drysau SY23 yn cau, bydd ein brwydr llys yn erbyn y cwmnïau yswiriant a'r hawliad i yswiriant tarfu ar fusnes, yn ystod Covid, yn parhau.

"Os rhywbeth, mae ein sefyllfa heddiw ond yn cryfhau pwysigrwydd yr achos hwn, a'r cyfrifoldeb sydd gan y cwmnïau yswiriant i fusnesau bach.

"Bydd ein hachos yn cael ei glywed yn yr Uchel Lys, yn ystod mis Mehefin, 2024."

'Dod o bell ac agos'

"Rwy' wedi mwynhau gweithio yma gymaint ac fe fyddwn i'n hoffi diolch i'r tîm a'r perchnogion am y cyfle," meddai'r prif gogydd, Nathan Davies.

"Yn ystod y cyfnod sydd i ddod fe fyddai'n treulio amser yn fy ngweithdy, y goedwig a'r traeth i feddwl beth yw'r camau nesaf.

"Diolch i bob un cwsmer sydd wedi gwireddu fy mreuddwyd ac rwy'n edrych ymlaen i goginio i chi eto mewn rhywle newydd yn fuan."

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'n dristwch nad oedd yr amodau economaidd wedi caniatáu i'r fenter barhau,' medd Elin Jones AS

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Elin Jones sy'n cynrychioli Ceredigion yn y Senedd: "Tristwch mawr oedd clywed am gau SY23. Mi lwyddodd Nathan i roi Aberystwyth ar map bwyd y wlad gyda pobl yn teithio'n bell ac agos i flasu ei fwydlen.

"Mi oedd Mark a Rhian, y perchnogion, a Nathan wedi buddsoddi arian ac amser yn y fenter yma mewn cyfnod heriol iawn drwy Covid a thu hwnt.

"Mae'n dristwch nad oedd yr amodau economaidd wedi caniatáu i'r fenter barhau. Gobeithio nawr y bydd cyfle eto i Nathan fel cogydd o fri yng Ngheredigion."

Roedd gan y perchnogion tan yn ddiweddar dri lle gwahanol ar yr un safle - y Sgwâr, y Cwrt a SY23. Yn gynharach eleni trosglwyddwyd y Cwrt a'r Sgwâr i reolwyr newydd.

'Colli'r adloniant Cymraeg hefyd'

Cyn hynny roedd Y Cwrt yn cynnal nifer o nosweithiau Cymreig - gydag artistiaid fel Elin Fflur, Dafydd Iwan, Bryn Fôn, Eden a Mynediad am Ddim.

Ffynhonnell y llun, Nest Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Bryn Fôn yn un o'r artistiaid a fu'n perfformio yn Y Cwrt yn Aberystwyth

"Fe fyddwn ni'n colli'r tri lle yn fawr iawn. Yn sicr roedd SY23 yn rhoi Aberystwyth ar y map ac yn denu pobl i'r dre," meddai Maldwyn Pryse sy'n gynghorydd tref ac yn ddirprwy faer.

"Ry'n ni'n mawr obeithio y bydd Nathan Davies yn parhau i fod yn gogydd yn y dre - mae e'n arbennig iawn.

"Ond dwi'n meddwl bod y trethi busnes y mae pobl yn gorfod eu talu y dyddiau 'ma yn orffwyll - ac mae'n rhaid datrys hynny os ydym am gadw busnesau mewn trefi fel Aberystwyth.

"Mae nifer o fusnesau wedi cau yn y dre yn ddiweddar ac mae hynny mor drist."

Gan gyfeirio at yr adloniant Cymreig sydd wedi bod yn y Cwrt yn ystod y misoedd diwethaf ychwanegodd Mr Pryse bod hynny wedi bod "yn gwbl werthfawr i'r dre" ac ei fod yn gobeithio y bydd modd parhau â gweithgareddau o'r fath yn Aberystwyth.

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd siopau, tafarndai a bwytai yn talu trethi busnes uwch yn sgil cynlluniau i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd.

Dywed Llywodraeth Cymru nad ydi'r arian y maen nhw'n ei dderbyn gan Lywodraeth y DU yn ddigon i ddelio â chostau cynyddol - yn enwedig ym meysydd iechyd ac addysg a "bod yna ddim dewis arall".