Creu calendr Adfent i gefnogi banciau bwyd Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Cyfraniadau yr ysgol

Mae disgyblion mewn ysgol uwchradd yn Abertawe wedi cael ymateb "gwych" wrth greu calendr Adfent sy'n helpu'r gymuned.

Yn hytrach nag agor ffenestr i ganfod darn o siocled yn ddyddiol, mae disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Bryn Tawe wedi mynd ati i gasglu bwyd ar gyfer banciau bwyd lleol.

Trwy gydol y mis, roedd gwahanol flynyddoedd ysgol wedi cyfrannu gwahanol fwydydd a nwyddau ymolchi at y casgliad cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i fanciau bwyd Gellifedw a Phenlan.

Dywedodd un o wirfoddolwyr y banc bwyd eu bod yn "dibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyfraniadau gwirfoddol" yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn.

Cyfraniad y disgyblion yn cael ei 'werthfawrogi'

Dywedodd Alison Van Heeswijk, gwirfoddolwr ym manc bwyd Gellifedw, bod y rhoddion yn "cael eu gwerthfawrogi gymaint" yn ystod "adeg hynod o brysur o'r flwyddyn".

Yn ôl Evie Harries, disgybl blwyddyn 13 yn Ysgol Bryn Tawe, maen nhw wedi bod yn "casglu gwahanol eitemau, boed yn eitemau hylendid personol neu'n fwyd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Evie Harris eu bod wedi cael "ymateb cadarnhaol iawn"

"Y prif amcan yw dysgu pawb am bwysigrwydd cymuned a phwysigrwydd rhoi yn ôl i'r gymuned. Mae wedi bod mor arbennig," meddai.

Yn ôl Grace Browne, disgybl yn y chweched dosbarth, mae'r ymateb wedi bod yn "wych".

"Mae'r disgyblion wedi bod yn rhoi siwd gymaint, ac mae'r athrawon wedi gwneud yn siŵr bod pawb yn dod a rhywbeth pob dydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Grace Browne bod yr yamteb wedi bod yn "wych"

Dywedodd ei bod yn gweld fod pobl yn dioddef mwy ers y pandemig, "ac mae 'di bod yn fwy amlwg eleni na' unrhyw flwyddyn arall bod pobl yn gweld hi'n anodd, felly mae mor bwysig i roi yn ôl ac i helpu eraill".

Dywedodd Ben Davies, pennaeth chweched dosbarth Ysgol Bryn Tawe, y bydd y rhoddion yn helpu teuluoedd yn yr ysgol hefyd.

"Mae caledi ariannol wedi effeithio ar lawer o'n teuluoedd yma ym Mryn Tawe, yn yr ardal leol ac Abertawe fel dinas."

"Felly mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu pobl yr ardal yn werth chweil ac mae'r disgyblion i gyd wedi gwneud gwaith anhygoel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Davies o'r farn y bydd y rhoddion yn help i gymuned yr ysgol

Yn dilyn llwyddiant y cynllun eleni, dywedodd Ben Davies fod yr ysgol yn bwriadu parhau â'r cynllun yn flynyddol.

Wrth dderbyn cyfraniadau disgyblion a chyfeillion Ysgol Bryn Tawe, dywedodd Alison van Heeswijk, gwirfoddolwr yn y banc bwyd bod y cyfraniadau yn "wirioneddol bwysig".

Dywedodd bod y banc bwyd yn "dibynnu bron yn gyfan gwbl ar gyfraniadau gwirfoddol. Felly mae popeth ni'n derbyn yn mor bwysig yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alison van Heeswijk bod y cyfraniadau yn "wirioneddol bwysig"

Dywedodd Ms van Heeswijk bod y banc bwyd yn brysur trwy'r flwyddyn, ond bod y llwyth gwaith "wedi cynyddu'n aruthrol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd".

"Rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyn mae'r ysgol wedi'i roi, mae mor hyfryd gweld cymaint o roddion.

"Cyn gynted ag y daw i mewn, mae'n mynd allan, felly mae wir angen y rhoddion a ni'n gwerthfawrogi gymaint."

Pynciau Cysylltiedig