Ardal Caernarfon yn 'anialwch’ i yrwyr ceir trydan
- Cyhoeddwyd
Mae Siôn Corn wedi dechrau ar ei daith, ond nid pawb sy'n gallu dibynnu ar geirw i gyrraedd adref y Nadolig hwn.
Mae'n siŵr y bydd sawl un yn paratoi i wneud y daith mewn car trydan, neu 'EV'.
Ac mae'n bosib y bydd hynny'n fwy o sialens i rai nag eraill.
Er ei fod yn safle treftadaeth y byd sy'n denu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr y flwyddyn - ac yn gartref i 10,000 o bobl - does gan Gaernarfon yr un pwynt gwefru cyhoeddus sy'n gweithio ar gyfer ceir trydan.
Mae un gyrrwr wedi disgrifio'r ardal fel "anialwch" o ran pwyntiau gwefru, wrth edrych ar ap ar-lein sy'n dangos y lleoliadau posib i lenwi batri eich car.
'Mae'n syndod i fi'
Mae Cyngor Gwynedd wedi adeiladu wyth pwynt gwefru newydd ym maes parcio Doc Victoria'r dref.
Ond misoedd yn ddiweddarach, dy'n nhw'n dal ddim wedi'u cysylltu â'r grid, ac felly'n ddiddefnydd.
Mae Aled Jones yn byw ym Mangor ond yn gweithio yng Nghaernarfon.
Mae'n profi'r her o fethu â chysylltu ei gar i gael trydan yn aml.
"Dwi'n ffodus mod i'n gallu chargio'r car 'nôl adra ym Mangor," meddai.
"Yn anffodus does dim un pwynt gwefru ar gael yng Nghaernarfon, dim un lle i fi adael y car i lenwi'r batri tra dwi'n gweithio.
"Mae'n syndod i fi."
Yn ôl un arbenigwr ar arloesi carbon isel, mae'r sefyllfa bresennol yng Nghaernarfon yn dangos yr her sydd i ddod wrth i Gymru gyfan newid o geir petrol a disel i geir trydan.
"Mae nifer y pwyntiau gwefru ceir trydan y bydd yn rhaid i ni eu cael ledled Cymru yn enfawr - yn sicr llawer iawn mwy nag sydd gennym ni ar hyn o bryd," meddai Dr Debbie Jones, sy'n rheoli prosiectau carbon isel yn M-SParc, parc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor ar Ynys Môn.
"Dwi'n meddwl bod wir angen i ni edrych ar sut mae cyflymu'r broses o adeiladu'r seilwaith sydd ei angen ar draws Cymru."
Cymru o'i chymharu â gweddill y DU
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno i wahardd gwerthu ceir petrol a disel newydd o 2035 ymlaen.
Ar draws y Deyrnas Unedig mae yna 49,000 o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, gyda'r mwyafrif helaeth (42,500) yn Lloegr.
Ond Yr Alban ydy'r wlad â'r nifer fwyaf o bwyntiau gwefru fesul pob 100,000 o'r boblogaeth.
Mae Cymru yn y trydydd safle, gyda Gogledd Iwerddon ar waelod y tabl.
Y sefyllfa fesul sir
O ran y darlun yng Nghymru, Ceredigion ydy'r sir sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau gwefru cyhoeddus o ystyried lefel y boblogaeth - 175 i bob 100,00 o bobl sy'n byw yno.
Llundain sydd ar frig y tabl yn Lloegr, gyda 321 o bwyntiau gwefru fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot - yr ardal sydd â'r gyfran leiaf o bwyntiau gwefru - dim ond 15.5 sydd i bob 100,000 o drigolion.
Mae Gwynedd yn agos at frig y rhestr, ac mae gan y cyngor nod i ddatblygu 100 pwynt gwefru trydan ar draws y sir o fewn y misoedd nesaf.
Ond mae'r cyngor wedi cyfaddef nad yw'r prosiectau o hyd yn hawdd i'w cyflawni, gan nodi bod cael pŵer i'r wyth pwynt gwefru newydd ym maes parcio Doc Victoria Caernarfon wedi "profi'n heriol".
I ddechrau dywedodd y cyngor eu bod yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i annog Scottish Power... i gwblhau'r gwaith angenrheidiol".
Ond dywedodd y cwmni trydan, sy'n gweithredu o dan yr enw SP Energy Networks, nad ydyn nhw wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol gan y cyngor i allu parhau gyda'r gwaith.
Mae'r ddau bellach wedi dweud eu bod mewn trafodaethau uniongyrchol i ddatrys y sefyllfa.
"Rydym yn gobeithio y bydd y gwaith angenrheidiol yn cael ei gwblhau gan Scottish Power cyn gynted â phosib," ychwanegodd swyddog y cyngor.
Ond yn realistig, ni fydd y gwaith yn cael ei gwblhau cyn y flwyddyn newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021