Ergyd enfawr peidio cael Gemau'r Ynysoedd ym Môn

  • Cyhoeddwyd
Ffion RobertsFfynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffion Roberts ymysg yr athletwyr o Fôn i sicrhau medalau yn y gemau yn Guernsey yr haf hwn

Fe allai cynnal Gemau'r Ynysoedd ar Ynys Môn fod wedi costio £400,000 yn fwy na'r disgwyl oherwydd y cynnydd mewn prisiau.

Ddydd Gwener daeth cadarnhad fod yr ynys wedi tynnu'r cais i gynnal y gemau yn 2027 yn ôl a hynny'n bennaf oherwydd y pwysau ariannol.

Yn ôl un rhedwr blaenllaw mae'r penderfyniad yn ergyd enfawr i'r genhedlaeth nesaf o athletwyr yn y gogledd.

Mi fydd Ynysoedd Faroe rwan yn camu i'r adwy er mwyn cynnal y gemau yn lle Ynys Môn.

Yn ôl y trefnwyr mae'r amcangyfrifon i gynnal y digwyddiad wedi cynyddu yn sylweddol a gyda chyllid eisoes yn brin doedd hi ddim yn gwneud synnwyr ariannol i barhau â'r cais.

Mae Ynys Môn wedi cystadlu ym mhob un o Gemau'r Ynysoedd ers 1985 ac mae sawl ymgais flaenorol i gynnal y digwyddiad wedi bod yn fethiant.

Yn 2020 daeth cadarnhad y byddai'r ynys yn gartref i'r holl gystadlaethau ond rwan fydd hynny ddim yn digwydd.

'Siomedig'

"Dwi'n eithaf siomedig i ddeud y gwir. Ro'n i'n edrych ymlaen i gael y gemau yn sir Fôn ond does dim allwn i 'neud rŵan," meddai Osian Perrin, sy'n rhedeg dros Gymru a Phrydain.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Osian Perrin i dorri record y gemau yn y ras 5,000m i ddynion yn Guernsey 2023

"Dwi bach yn gutted.

"Ro'n i'n gobeithio sa'n ysbrydoli y plant ifanc gweld pobl fel fi yn cystadlu," meddai'r athletwr sydd yn wreiddiol o bentref Paradwys ar Ynys Môn ac yn 20 oed.

"Gobeithio fydd o yma eto.

"Dwi'n gwybod fod lot o waith wedi mynd mewn… a dwi'n siŵr fod y bobl behind the scenes wedi 'neud lot o waith... ond ia siomedig."

Guernsey oedd cartref y gemau eleni gyda mwy na 2,000 o athletwyr yn cystadlu dros 23 o ynysoedd mewn 14 o gampau.

Yn ôl y cynghorydd sir sydd â chyfrifoldeb dros hamdden a thwristiaeth mae'n ergyd fawr er yn ddealladwy.

"Fe osodwyd y gyllideb wreiddiol yn 2019, ond fe ddaeth y pandemig a phan aethpwyd yn ôl mi oedd hi'n amlwg fod diffyg enfawr a byddai angen llenwi y bwlch," meddai'r Cynghorydd Neville Evans.

"Dwi'n hynod siomedig ond ma'n ddealladwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Neville Evans yn gobeithio y bydd modd gwneud cais eto yn y dyfodol

Ychwanegodd y Cynghorydd Evans fod y cynnydd mewn costau yn dod ar gyfnod pan mae'r pwysau ar gyllidebau cynghorau sir yn eithriadol a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

"Mi oeddan ni fel cyngor wedi gweithio efo'r pwyllgor lleol ac mi oeddan ni wedi amcangyfrif... worst case scernario... tua 400k yn fwy i lenwi y bwlch.

"Dan ni ddim yn cau y drws yn gyfan gwbl ac yn gobeithio pan fydd y sefyllfa ariannol i ni fel cyngor a fel gwlad yn well y bydd modd ailymweld a byddwn yn gallu gwneud cais."

Amcangyfrifir y gallai'r gemau fod wedi cyfrannu rhyw £5m i'r economi yn lleol ond yn ôl y cynghorydd, ar ôl pwyso a mesur, doedd dim modd cyfiawnhau'r costau gwreiddiol gan y tîm trefnu a rhanddeiliaid eraill.

Llwyddodd Môn i ennill 18 medal yng ngemau Guernsey 2023 - y nifer fwyaf i'r ynys eu hennill erioed, gan wella ar y cyfanswm o 14 a enillwyd yn Jersey yn 1997.

Roedd cynrychiolwr o'r cyngor sir a phwyllgor trefnu Môn wedi teithio i Guernsey er mwyn asesu'r gofynion i gynnal cystadleuaeth o'r fath.

Mi fydd y gemau rwan yn cael eu cynnal ar Ynysoedd Faroe a oedd eisoes wedi'u ffafrio i groesawu'r gemau yn 2031.

Pynciau cysylltiedig