Trefforest: Pedwar yn y llys wedi llofruddiaeth Daniel Rae
- Cyhoeddwyd
![Daniel Rae](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/152DD/production/_132094768_d99e27ae-562f-4ff3-b224-fd839256e515.jpg)
Dyn a ddau fachgen yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio Daniel Rae
Mae dyn a dau fachgen yn eu harddegau wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth Daniel Rae yn Nhrefforest.
Mae Kieran Carter, 22, a dau fachgen 17 oed na ellir eu henwi, wedi eu cyhuddo o'r ymosodiad ar Stryd y Dywysoges yn Nhrefforest ar 17 Rhagfyr.
Mae pedwerydd person, Grace Dresser, 21 oed, wedi ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe ymddangosodd Mr Carter a Ms Dresser yn Llys y Goron Caerdydd, tra ymddangosodd y ddau yn eu harddegau drwy gyswllt fideo.
![Kieran Carter yn gadael Llys y Goron Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D31E/production/_132164045_cyrraeddyllys.jpg)
Kieran Carter yn gadael Llys y Goron Caerdydd
Clywodd y llys fod yr heddlu'n gweithio trwy lawer o dystiolaeth fforensig, teledu cylch cyfyng a thystiolaeth ffôn.
Fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke gadw'r oedolion yn y ddalfa. Cafodd y bobl ifanc eu cadw mewn llety diogel dan ofal yr awdurdod lleol.
Mae disgwyl i Mr Carter, o Birmingham, a Ms Dresser, o Drefforest, a'r ddau fachgen 17 oed ymddangos eto ddiwedd Ionawr i gyflwyno ple.
Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Daniel Rae, 30 oed, dywedodd y teulu eu bod nhw wedi "digalonni'n llwyr".
Fe ychwanegon nhw fod angen amser i alaru a dod dros y sioc o golli Daniel "yn y ffordd erchyll yma".
Fe blediodd Heddlu De Cymru i unrhyw dystion neu unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2023