Cwpan FA Lloegr: Abertawe drwodd i'r rownd nesaf
- Cyhoeddwyd
Abertawe yw'r unig dîm o Gymru sydd yn bendant yn rownd nesaf Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw drechu Morecambe yn y drydedd rownd.
Fe allai Casnewydd ymuno â nhw yn yr het os wnawn nhw lwyddo i drechu Eastleigh wrth iddyn nhw gwrdd am yr eildro, ar ôl ildio gôl hwyr a ddaeth â'u gwrthwynebwyr, oedd i lawr i 10 dyn, yn gyfartal.
Ond mae Caerdydd allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli'n drwm oddi cartref yn erbyn Sheffield Wednesday.
Abertawe 2-0 Morecambe
Roedd rhaid aros tan yr ail hanner am gôl yn Stadiwm Swansea.com yng ngêm gyntaf yr Elyrch dan eu hyfforddwr newydd, Luke Williams.
Fe gysylltodd Charlie Patino â chroesiad Sam Parker gan daro'r bêl gyda'i droed chwith i gornel y rhwyd.
Yr Adar Gleision gafodd y rhan fwyaf o'r bêl gydol y gêm yn erbyn y tîm o'r Ail Adran.
Gyda llai na phum munud i fynd o'r 90 fe rwydodd Jerry Yates i ddyblu'r fantais a sicrhau bod enw Abertawe yn yr het ar gyfer pedwaredd rownd y gystadleuaeth.
Sheffield Wednesday 4-0 Caerdydd
Roedd y 10 munud agoriadol yn rhai dramatig, ond siomedig i'r Adar Gleision. Fe sgoriodd Josh Windass (2) i roi'r tîm cartref ar y blaen cyn i Gaerdydd gael dau gic o'r smotyn ben arall y cae - a methu â rhwydo y naill tro na'r llall.
Cafodd ymdrechion Ryan Wintle a Callum Robinson, wedi pedair a saith o funudau, eu harbed gan y golwr.
Aeth pethau o ddrwg i waeth pan rwydodd Romaine Sawyers (38) y bêl i'w rwyd ei hun, a diolch i ergyd Liam Palmer (40) roedd hi'n 3-0 i Sheffield United ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Gyda'r fath fantais roedden nhw'n fodlon i adael i Gaerdydd gael y rhan fwyaf o'r meddiant wedi'r egwyl, ac fe roedd yna 21 o ergydion at y gôl gan yr Adar Gleision.
Ond y tîm cartref gafodd y gair olaf, pan sgoriodd Mallik Wilks i wneud hi'n 4-0.
Casnewydd 1-1 Eastleigh
Gyda llai na 10 munud ar y cloc roedd Casnewydd gôl ar y blaen ac Eastleigh, sy'n chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol, i lawr i 10 dyn ers cyn diwedd hanner cyntaf di-sgôr.
Ond fe sgoriodd Chris Maguire (82) o'r smotyn i sicrhau gêm gyfartal yn Rodney Parade.
Mae'n eironig mai'r amddiffynnwr James Clarke oedd yn gyfrifol am y drosedd, yn erbyn Paul McCallum, a arweiniodd at y gic gosb.
Clarke oedd wedi rhoi'r Alltudion ar y blaen, wedi 56 o funudau, gydag ergyd droed dde o ganol y cwrt i gornel y rhwyd.
Bydd Eastleigh â'r fantais o chwarae ar eu tomen eu hunain pan fydd y ddau dîm yn cwrdd eto yn Stadiwm Silverlake cyn diwedd y mis.