Plaid Cymru eisiau cyfraith i sicrhau ariannu 'teg'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am ddeddfwriaeth newydd yn San Steffan er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael ei hariannu yn decach.
Yn ôl Rhun ap Iorwerth mae Cymru yn cael ei thangyllido, ac mae eisiau i Dŷ'r Cyffredin basio deddf i fynd i'r afael â hyn.
Bydd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn yn amlinellu ei syniadau economaidd mewn araith yng Nghaerdydd yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Bydd yn dweud bod angen gosod targedau economaidd newydd, a bod angen i Lywodraeth Cymru gael y grym i gyflwyno lefelau treth newydd.
Byddai'n rhaid i Blaid Cymru sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn cyflwyno ei Fil Tegwch Economaidd.
'Biliynau yn waeth ein byd'
Nid yw'r blaid wedi esbonio sut y byddai'n gweithio, ond mewn datganiad dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai'n "ail-gydbwyso cyfoeth y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod Cymru'n cael yr hyn sy'n ddyledus iddi ac yn hollbwysig yr hyn sydd ei angen arni mewn buddsoddiad cyhoeddus".
Mae Plaid Cymru yn credu bod y wlad wedi colli allan ar biliynau o bunnoedd yn sgil y gwariant ar reilffordd HS2 yn Lloegr - cynllun sy'n cael ei gategoreiddio fel un Cymru a Lloegr, er nad yw'n croesi'r ffin.
Bydd Mr ap Iorwerth yn dweud yn ei araith: "Rhwng 2001 a 2029 - mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd Cymru wedi colli rhwng £2.9bn ac £8bn o fuddsoddiad rheilffyrdd yn unig.
"Mae'n cyfrifo ymhellach fod y Gronfa Lefelu i Fyny a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ein gadael ni dros £1bn yn waeth ein byd.
"Mae'r rhain yn niferoedd sylweddol. Ac mae colli'r math hwnnw o fuddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth mawr."
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru byddai pethau'n "edrych yn wahanol iawn" petai bil yn cael ei basio fyddai'n sefydlu corff hyd braich annibynnol i sicrhau tegwch mewn penderfyniadau economaidd.
San Steffan sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r arian sydd ei angen i redeg gwasanaethau Llywodraeth Cymru a buddsoddi mewn seilwaith, gyda chyfran lai yn cael ei chodi o drethi.
Mae swm yr arian sy'n cael ei roi i Lywodraeth Cymru yn cael ei bennu gan Fformiwla Barnett, sy'n seiliedig ar wariant yn Lloegr mewn meysydd fel iechyd ac addysg.
Yn ei araith bydd Mr ap Iorwerth, a ddaeth yn arweinydd y blaid yr haf diwethaf ar ôl ymddiswyddiad Adam Price, hefyd yn dweud bod angen targedau economaidd newydd, ac yn galw am fwy o hyblygrwydd i'r Senedd dros drethi.
Gallai hyn gynnwys yr hawl i osod bandiau treth newydd, fel sy'n bodoli yn Yr Alban.
Bydd Mr ap Iorwerth yn dweud yn adeilad y Pierhead nos Fawrth fod Cymru yn "tanberfformio'n barhaus" yn economaidd.
"Dylai creu cymdeithas deg fod yn uchelgais i bob un ohonom," bydd arweinydd y blaid yn dweud.
"Ac ni ddylem orffwys nes y gallwn ni edrych o gwmpas ein cymunedau a gweld nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023