Gwrthod cais cynllunio er galwad am 'wella Crymych'

  • Cyhoeddwyd
Siop y Frenni
Disgrifiad o’r llun,

Siop y Frenni yw'r unig orsaf betrol yng Nghrymych

Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwrthod cais i adnewyddu Siop y Frenni yng Nghrymych mewn cyfarfod cynllunio fore Mawrth.

Y gobaith oedd dymchwel yr adeilad ac ail-adeiladu er mwyn ymateb i anghenion "fwy modern" cwsmeriaid, yn ogystal ag ychwanegu pwyntiau gwefru i geir trydan.

Ond pryder rhai oedd y byddai'r cynlluniau'n effeithio ar adeiladau cyfagos.

Ar hyd y brif heol sy'n rhedeg trwy Grymych mae galwadau cyson am foderneiddio, sicrhau bod digon o danwydd ar gael, a chael mwy o siopau lleol.

Gyda 40 o dai yn cael eu hadeiladu gyferbyn â Siop y Frenni - un o'r unig ddwy siop yn yr ardal - mae yna gwestiynau a oes digon o gyfleusterau i ateb y galw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 40 o dai yn cael eu hadeiladu gyferbyn â'r safle ar hyn o bryd

"A oes digon o le i siopa yma? Falle nag oes," meddai Shon Rees, Cynghorydd Crymych a Mynachlog Ddu.

"Mae 'na siopau lleol gyda ni lawr yng ngwaelod y pentref, ond mae Crymych wedi newid dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

"Mae lawr tua gwaelod y pentref, tua'r Crymych Arms - dim hwnna yw canolbwynt y pentref rhagor gyda 40 o dai yn dod i'r safle yma.

"Hwn fydd canolbwynt y pentref."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni foderneiddio, mae hynny'n bwysig," meddai'r Cynghorydd Shon Rees

Yn ôl y Cynghorydd Rees mae angen mwy o gyfleusterau i gefnogi'r rheiny sydd â cheir trydan, a chefnogi Siop y Frenni fel yr unig orsaf betrol leol.

"Mae'n rhaid i ni foderneiddio, mae hynny'n bwysig. Does dim lle i chargio ceir yng Nghrymych ar y funud," meddai.

"Mae tanwydd yn hollbwysig mewn ardal wledig fel lle y'n ni fan hyn yn y Preselau."

Y siop yn 'annigonol'

Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Sir Penfro wedi awgrymu gwrthod y cais oherwydd y byddai'n "niweidiol" i adeiladau a thai cyfagos.

Penderfyniad y pwyllgor oedd i ddilyn yr argymhelliad gan bleidleisio'n unfrydol i'w wrthod, gydag un aelod yn ymatal.

Cafodd ei wrthod ar y sail nad oedd y cais wedi'i "feddwl yn ofalus", ac nid oedd unrhyw ddarpariaethau ar gyfer hygyrchedd i bobl anabl na phrawf na fydd ehangu'r siop yn effeithio ar fusnesau eraill yr ardal.

Clywodd y cyfarfod bod y siop Spar J.K Lewis a'i Fab, sydd drws nesaf i Siop y Frenni, wedi gwrthwynebu'r cais.

Dywedodd y swyddog cynllunio: "Does dim tystiolaeth o gwbl [yn y cais] ni fydd hyn yn niweidio siopau eraill yr ardal."

Ond yn ôl y cynghorydd dros Gilgerran, John Davies: "Dydy bywyd ddim am warchod rhai busnesau dros rhai eraill."

Awgrymwyd byddai modd i berchennog Siop y Frenni, Mr James, ail-gyflwyno cais yn y dyfodol.

'Dim pawb sy'n gallu gyrru'

Dywedodd Thomas Login Architecture, sy'n cynrychioli Siop y Frenni, fod dim buddsoddiad wedi bod yn yr adeilad ers ei brynu yn 2008.

Yn ôl nhw dyw'r adeilad ddim bellach yn "diwallu anghenion modern y siop, na'i chwsmeriaid".

Ychwanegon nhw: "Mae'n annigonol i gynnal yr ystod ofynnol o nwyddau i gwsmeriaid, mae ardaloedd yn anniben ac, yn gyffredinol, mae'r profiad siopa yn wael ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Savins yn dweud bod angen buddsoddi mewn gorsafoedd petrol a disel mewn ardaloedd gwledig

Yn ôl Carwyn Savins, sy'n 26 ac wedi byw yng Nghrymych hyd ei oes, mae angen cefnogi busnesau lleol, nid eu cyfyngu.

"Dim pawb yng Nghrymych sy'n gallu gyrru," meddai.

"Yn anffodus dim ond dau opsiwn sy' 'da ni, so allen ni neud â chadw'r rheiny sy' 'da ni."

Ychwanegodd Carwyn, sy'n ffermio'n lleol, bod angen buddsoddi mewn gorsafoedd petrol a disel mewn ardaloedd gwledig.

"Ni'n rhedeg mas o betrol yn aml. Ni'n aml yn tynnu mewn achos s'dim dal pryd fydd y cyfle nesaf," meddai.

"Os y'ch chi'n mynd draw am Hermon, s'dim byd i gael am oesoedd."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi yn meddwl gallen nhw wella Crymych. Does dim lot yma," medd Darryn Pascoe

Fel yr unig orsaf betrol yng Nghrymych, roedd Darryn Pascoe, 58 o Flaen-waun, o blaid cais cynllunio Siop y Frenni.

"Dwi'n byw yn eithaf pell o fan hyn - hyd yn oed i gael petrol mae'n rhaid i mi yrru pum milltir a nôl eto," meddai.

"Dwi yn meddwl gallen nhw wella Crymych. Does dim lot yma."

Pynciau Cysylltiedig