Pum munud gyda... Rhian Jones

  • Cyhoeddwyd
Rhian JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae Rhian Jones yn wyneb cyfarwydd ar S4C. Chwaraeodd ran Karen ar Pobol Y Cwm am flynyddoedd lawer ac erbyn hyn mae wedi ymddangos ar nifer o ddramâu eraill y sianel.

Aeth Cymru Fyw draw i Sir Gâr i gael sgwrs gydag un o actoresau mwyaf adnabyddus Cymru.

Ble ddechreuodd y diddordeb mewn actio?

Mae'n siwr mai gyda 'nhad. Roedd e'n gymeriad a hanner a dwi'n meddwl yn aml mai actor dylai e 'di bod. Mi fuodd e'n gweithio o dan ddaear fel coliwr yng ngwaith glo Cynheidre cyn symud ymlaen i werthu bwyd anifeiliaid o gwmpas ffermydd yr ardal. Roedd e wrth ei fodd yn adrodd straeon ac yn siarad gyda chymeriadau cefn gwlad. Doedd e ddim yn werthwr da iawn achos byddai'n well ganddo gloncan gyda'r ffermwyr yn hytrach na gwerthu!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian gyda'i thad Byron

Oeddet ti'n cystadlu mewn eisteddfodau ac yn perfformio mewn sioeau ysgol yn ystod dy blentyndod?

Do'n i ddim yn cystadlu llawer mewn eisteddfodau ond ro'n i'n joio perfformio yn sioe Nadolig yr ysgol cynradd bob blwyddyn. Dwi'n cofio gwneud sgets Hywel a Blodwen pan o'n i'n saith a cherdded ar y llwyfan a dweud, 'Hywel, fy mlodyn tatws, fy nghabetshen, ble rwyt ti?' ac yna'r gynulleidfa'n chwerthin. Roedd e'n deimlad neis a ches i buzz o'r ymateb.

O hynny ymlaen fe wnaeth Gillian Taylor, fy athrawes cynradd, roi'r hyder i mi berfformio drwy roi rhannau i mi yng nghyngherddau'r ysgol. Do'n i ddim yn blentyn academaidd ond fe welodd Gillian y potensial yndda i ac wrthi hi ges i'r hyder i ddatblygu tu hwnt i'r llyfrau.

Fuodd Delyth Mai Nicolas yn allweddol ar ôl i fi symud i Ysgol Maes yr Yrfa. Roedd hithau'n ffantastig. Mae'n rhaid i mi gyfaddef do'n i ddim yn ffan o ganu ond byddai Delyth yn gwneud yn siwr mod i'n cael y rhannau digri! Ro'n i'n astudio drama ac ro'n i'n joio'r gwersi. Dyma ble ro'n i'n gallu rhyddhau'n hunan ac uniaethu gyda gofynion y pwnc.

Beth oedd y swydd actio gyntaf ges ti a sut effaith gafodd e arnat ti?

Dwi'n cofio Paul Jones a Huw Chiswell o HTV yn dod i Ysgol Maes yr Yrfa er mwyn cynnal cyfweliadau ar gyfer rhaglen sgetsys i blant a phobl ifanc o'r enw Sblat. Roedd byrfyfyrio'n rhan bwysig o'r cyfweliadau ac roedd 'da fi'r rhyddid i neud beth ro'n i moyn. Ro'n i wedyn yn cael mynd i stiwdio HTV yng Nghaerdydd i recordio'r sgetsys gyda llwyth o bobl ifanc eraill. 'Nes i joio popeth am y profiad ac ar ben hynny ro'n i'n cael fy nhalu!

Erbyn i mi gyrraedd Lefel A, 'nes i fynychu cyrsiau drama'r Urdd a pherfformio ELVIS a Dan Y Wenallt. Ti'n magu hyder a phrofiad wrth gymryd rhan mewn cynhyrchiadau fel hyn ynghyd â chael y cyfle i ddatblygu dy grefft.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian yn portreadu Karen yn Pobol y Cwm gyda Toni Carrol fel Olwen a Catrin Fychan fel Gina (dde i'r chwith)

Sut brofiad oedd astudio yn y Choleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ar ôl i ti adael yr ysgol?

'Nes i ddechrau astudio yno yn 1989 ac roedd e'n gwrs pedair blynedd. Roedd hi'n ofynnol i ni ddysgu disgyblion ysgolion uwchradd ac os dwi'n hollol onest doedd e ddim i mi.

Yn ystod y drydedd flwyddyn dwi'n cofio gadael Ysgol Glantaf un prynhawn a gwneud fy ffordd draw i'r BBC oedd ddim yn bell o'r ysgol. Es i i'r dderbynfa a gofyn os allen i siarad gyda Glenda Jones, cynhyrchydd Pobol Y Cwm ar y pryd. Chwarae teg iddi mi wnaeth hi ddod lawr ac fe aeth hi â fi i'w swyddfa am sgwrs. Wedes i bydden i'n dwli actio yn y gyfres ac yn ystod ein sgwrs daeth Toni Carrol i mewn. Roedd hi'n chwarae rhan Olwen ac ro'n i'n hollol star struck.

Nododd Glenda y dylen i orffen fy mlwyddyn olaf yn y coleg ond doedd fy nghalon i ddim yn y cwrs bellach. O fewn ychydig fisoedd ges i alwad yn holi os fyddai gen i ddiddordeb mewn chwarae Karen, merch Olwen, ac fe neidiais ar y cyfle. 'Nes i joio'r cyfnod a ddysgais i gymaint wrth weithio gydag actorion fel Toni Carrol, Sue Roderick, Sera Cracroft a Rebecca Harries. 'Nes i ffrindiau oes o'n amser yno.

Rwyt ti wedi ymddangos ar ddramâu eraill ers Pobol Y Cwm. Wyt ti wedi mentro i'r llwyfan?

Ges i gyfnod tawel ar ôl gadael Pobol y Cwm ond mi bigodd pethau i fyny ar ôl sbel. Ers hynny dwi wedi actio ar gynhyrchiadau fel Teulu, Grav, Hinterland, 35 Diwrnod a Byw Celwydd. Yn anffodus dwi ddim wedi gweithio cymaint ym maes y theatr. Ro'n i wedi dod yn gyfforddus gyda gwaith teledu ac roedd y plant yn rhy ifanc i mi fynd ar daith am gyfnodau hir ac yn ystod penwythnosau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian adre gyda'r plant, Celt, Mabli, Heti, Cain a'r ci.

Mae dy ferch hynaf, Mabli, yn actio erbyn hyn. Sut deimlad oedd e i gydweithio gyda hi?

Fe wnaethon ni gydweithio ar ffilm, Reit tu ôl i ti, gan Meic Povey, oedd yn ffilm heriol am fam oedd yn dioddef o gancr a Mabli oedd yn chwarae rhan fy merch. Doedd dim diddordeb ganddi i ddechrau. Roedd hi'n ddeunaw ar y pryd ac fe weithiodd Branwen Cennard y cynhyrchydd yn galed i'w pherswadio hi i fynychu'r cyfweliad! Do'n i ddim eisiau rhoi unrhyw bwysau arni felly fe gadwes i'n glir o'r broses. Ro'n nhw'n hapus gyda hi felly pan ddaeth hi i saethu fe 'nes i drafod Mabli fel bydden i'n trafod unrhyw actor arall.

'Nes i fwynhau'r profiad. Mae Mabli'n berson annibynnol ac fe wnaeth hynny helpu. Roedd y ddwy ohonom yn rhannu fflat yng Nghaerdydd ac roedd e mor neis treulio amser gyda hi cyn iddi fynd i'r coleg. Ers hynny ry'n ni wedi cydweithio ar gyfresi eraill fel Gwaith Cartref, Goleudy ac Enid a Lucy.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mabli a Rhian ar set Reit tu ôl i ti

Wyt ti'n gwneud swyddi eraill pan mae'r gwaith actio'n dawel?

Ydw. Dwi wedi gweithio mewn gym yn glanhau, gweithio ar y ddesg a gofalu am y gampfa. Dwi hefyd wedi gwneud gwaith glanhau yn Neuadd Goffa Pontargothi a dwi wedi gweithio mewn garej yn gwneud gwaith papur - nid gwaith mecanyddol! Ro'n i'n anobeithiol yn y jobyn yna!

Mae'n beth da i 'neud jobsys tu hwnt i actio. Mae'n rhoi perspectif a dyfnder i ti wrth ddehongli cymeriad mewn drama. Mae e hefyd yn gwneud i ti werthfawrogi actio pan mae'r cyfle'n dod.

Wyt ti ar fin ymddangos ar gynhyrchiad yn y dyfodol agos?

Ydw. Fe wnes i chwarae rhan Paula mewn cynhyrchiad o'r enw Creisis yn 2023. Mae Paula'n dioddef gyda'i iechyd meddwl. Fe wnaeth y profiad fy ngwthio i mewn ffordd da, roedd e'n sialens.

Gwnaeth y cynhyrchiad fy atgoffa i cymaint dwi'n caru actio. Roedd e'n hyfryd cael ail-gydio yn y grefft ac ail-ddarganfod y broses a'r rhythm sydd ynghlwm i'r broses creadigol. Dwyt ti ddim yn teimlo hynny pan wyt ti'n 'neud diwrnodau o actio fan hyn a fan draw.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Rhian yn cael hoe tra'n saethu Creisis

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig