Iwan 'Iwcs' Roberts: O nofel gyntaf i Netflix
- Cyhoeddwyd
"Mae'n eitha' anhygoel, tu hwnt i bob disgwyliad oedd gen i: pan ti'n cychwyn sgwennu nofel yn 2014, ti'm yn disgwyl iddi gyrraedd lle mae hi heddiw, mae reit surreal i ddeud y gwir yn onast."
Dyna ymateb Iwan 'Iwcs' Roberts i'r newyddion fod ei nofel gyntaf, oedd ar goll ym mŵt y car am flynyddoedd, wedi cyrraedd llwyfan byd-eang Netflix.
Cyhoeddodd Iwan y nofel, Dal y Mellt, yn 2019 cyn gweithio ar gomisiwn i'w throi yn gyfres ddrama gafodd ei darlledu ar S4C cyn cael ei bachu gan Netflix.
Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni ffrydio rhyngwladol drwyddedu cyfres Gymraeg ei hiaith.
Stori ym mŵt y car
Yn actor, canwr a chyfansoddwr adnabyddus roedd ei nofel wedi bod yn cyniwair ers rhyw 15 mlynedd, meddai Iwan wrth Cymru Fyw.
"O'n i wedi ei dechrau hi'n wreiddiol fel sgript, ond mi adewais hi i fod. Wedyn mewn tua 10 mlynedd mi ffeindiais hi yn mŵt y car, o'n i'n gwybod mod i wedi ei cholli hi yn rhywle - a beth oedd o ond syniad crai am stori.
"Doedd dim llawer mwy na hynny" yn wreiddiol, meddai Iwan, ac fe gychwynnodd arni eto yn 2014 a daeth i sylw gwasg Y Lolfa.
"Fues i'n lwcus iawn, iawn o gael Alun Jones a Marged Tudur yn olygyddion i mi. Wedyn mi garies i ymlaen ac mi ddoth hi allan yn 2019.
"Gan bod gen i gefndir yn y byd teledu a theatr, o'n i'n gwybod efallai yn fy nghalon [y gallai fod yn gyfres ddrama] ond nid dyna y bwriad o gwbl o'i sgrifennu hi - y bwriad oedd 'sgwennu nofel gyflawn efo cymeriadau crwn sy'n apelio at ddarllenwyr Cymru."
Ond fe ddangoswyd diddordeb gan gynhyrchwyr teledu a chafodd gyfle i ddatblygu'r syniad i S4C gyda'i gyd-gynhyrchydd, Llŷr Morus.
"O fewn 18 mis mi oeddan ni wedi 'neud o - ei sgwennu fo, a'i saethu fo a'i ddelifro - oedd hwnna'n dipyn o droad sydyn, fel cynhyrchydd, sgwennwr ac awdur."
Mae'r stori gomedi-drosedd yn dilyn hanes cythryblus dyn ifanc sy'n cael ei dynnu mewn i fyd o ddrwgweithredu sy'n cwmpasu Caerdydd, Llundain, Caergybi a chefn gwlad Meirionnydd.
Mae Iwan wedi bod yn sgrifennu ers pan mae'n blentyn ac yn ddiolchgar i'w rieni am eu dylanwad.
"Roedd fy nhad yn hoff o farddoniaeth ac yn engineer heb ei ail. Fe gafodd ddylanwad tyfn iawn arna'i a fy ysgrifennu," meddai.
"Ac efallai mai fy mam a f'anogodd i i ddarllen. Y nhw arweiniodd fi at y rhaeadrau geiriau i ddechrau efo hi."
Daeth ei ddawn ysgrifennu caneuon yn amlwg fel un hanner y band Iwcs a Doyle yn y 1990au. Fe enillon nhw gystadleuaeth Cân i Gymru gyda Cerrig yr Afon yn 1996 ac ysgrifennu caneuon eraill cofiadwy fel Edrychiad Cyntaf a Da Iawn.
Stori sy'n symud yn gyflym
Fel awdur a chyd-gynhyrchydd Dal y Mellt roedd Iwan yn agos iawn at y cast a'r criw drwy gydol y broses ac ar y set bob dydd.
Roedd ganddo syniad pendant am edrychiad a naws y gyfres oedd wedi ei drafod mewn manylder, meddai, gyda'r cynhyrchydd Llŷr Morus; y cynllunydd celf, Gwyn Eiddior; y cyfarwyddwr Huw Chiswell a'r cyfarwyddwr ffotograffiaeth, Rory Taylor, i greu "rhywbeth unigryw, wedi ei dorri'n gyflym".
"Mae'r nofel yn symud yn gyflym iawn so o'n i'n bendant isho i'r gyfres symud yn eitha' cyflym," meddai.
Mae'n "anhygoel", meddai, ei bod yn mynd i gael ei gweld ar blatfform byd-eang ac mae'n gobeithio "gwneith hyn roi llwyfan i hygrededd, llwyddiant a gweledigaeth y diwydiant yng Nghymru".
"Ac mae'n rhoi Cymreictod ar lwyfan rhyngwladol," ychwanegodd "ni, fel pobl greadigol, ein gweledigaeth ni a'n gallu i gynhyrchu dramâu o safon uchel mae pobl fatha Netflix isho'i brynu - dyna sydd yn mindblowing!
"Mae'n dangos Cymru ar ei orau hefyd - mae 'na dywyllwch a goleuni yna, ond mae'n dangos y gogledd, gan mod i'n hogyn o Feirionnydd, ar ei orau: mae'n gwerthu mwy na'r ddrama Gymraeg, mae'n gwerthu Cymru hefyd - dyna dwi'n ei obeithio."
Mae hefyd yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl eraill i greu cynnwys o Gymru ar gyfer llwyfan byd-eang.
"Be' dwi'n obeithio ydi dangos, yn enwedig i sgwenwyr o bob oed, bod posib cyrraedd yna - do'n i byth yn disgwyl i ddim byd fel hyn ddigwydd."
Yn y gorffennol mae cyfresi o Gymru, fel y Gwyll/Hinterland a Craith/Hidden wedi ffilmio fersiynau cefn-wrth-gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn gallu gwerthu'r cynhyrchiad neu ei dangos y tu allan i Gymru.
Ond doedd Iwan ddim yn awyddus i wneud hynny, yn un peth am ei fod yn fwy o dreth ar y criw a'r cast a hefyd er mwyn canolbwyntio ar ddeunydd gwreiddiol Cymraeg.
Ac mae'n ymddangos bod hynny wedi bod wrth fodd Netflix: "Mae hon yn un enghraifft o adeg lle'r ydym wedi adnabod darn o gynnwys sy'n benodol iawn yn ddiwylliannol ond ry'n ni'n credu y bydd yn hynod o lwyddiannus gyda'n haelodau," meddai Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus y DU ac Iwerddon Netflix, Benjamin King sydd wedi dweud y gall y cwmni chwarae rhan mewn hybu'r iaith Gymraeg.
Gosod y bar yn uwch fel cenedl
"Mae'n hen bryd inni stopio sbïo dros y ffin dros Glawdd Offa drwy'r amser," meddai Iwan, "a sbïo ar be' sy'n dod o fanno, be' maen nhw'n feddwl ohonan ni, gad inni ddangos be yden ni'n gallu ei wneud... mae gennyn ni'r criwiau gorau yn y byd yma ac mae'n bwysig bod ni wedi gallu dangos hynny a bod pobl fel Netflix, a chwmnïau eraill rŵan hefyd, eisiau ei brynu fo.
"Mae jyst yn dangos be' ydyn ni'n gallu ei wneud yng Nghymru, pa mor gryf ydi'r talent yma.
"Mi fedran ni osod y bar lot uwch i'n hunain fel cenedl weithiau, dyna dwi'n deimlo."
Ail nofel
Mae Iwan yn gwybod ers rhyw ddau fis am y newyddion ond chafodd o ddim llawer o amser i feddwl am y peth gan ei fod wedi bod yn brysur yn sgrifennu dilyniant i Dal y Mellt.
"Does dim cadarnhad eto o ail gyfres ond os ydi o'n digwydd, mi fydd y nofel a'r gyfres yn pigo fyny yn syth ar ddiwedd Dal y Mellt, sef y nofel gynta'."
Datgelodd Iwan mai Dal Arni yw teitl dros dro yr ail nofel ar hyn o bryd, sydd bron â'i gorffen.
Mae anogaeth ei deulu i gyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth iddo weithio ar y ddwy nofel, meddai.
"Diolch am gefnogaeth fy nheulu oll drwy hyn i gyd pan dwi wedi cloi fy hun off am fiseodd ar fisoedd - mae cariad fy ngwraig a'm meibion wedi fy nghario dros y llinell derfyn bob tro."
Hefyd o ddiddordeb: