Hwlffordd: Arestio menyw ar amheuaeth o lofruddio bachgen, 7
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen saith oed wedi marw a menyw wedi ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Farchnad Uchaf yn Hwlffordd fore Mercher 10 Ionawr.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys bod plentyn wedi marw, a bod y fenyw yn parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024