Canlyniadau'r rhanbarthau Cymreig yng Nghwpan Her Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Iestyn HopkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Hopkins sgoriodd y ddau gais cyntaf i'r Gweilch

Gweilch 25-3 Perpignan

Roedd yna fuddugoliaeth ysgubol nos Wener i'r Gweilch wedi iddyn nhw drechu Perpignan o 25-3 adref yng Nghwpan Her Ewrop.

Fe sgoriodd y Gweilch dri chais i sicrhau'r fuddugoliaeth - Iestyn Hopkins sgoriodd y ddau gais cyntaf a Keelan Giles a groesodd y llinell i sicrhau'r trydydd.

Fe lwyddodd y maswr Dan Edwards i gicio 10 pwynt i'r tîm cartref.

Gan bod Benetton wedi ennill yn Newscastle mae'r Gweilch wedi sicrhau eu lle yn yr 16 olaf.

Cyn dechrau'r gêm bu'r dorf yn cofio am JPR Williams a fu farw yn gynharach yr wythnos hon.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Croesodd Steff Evans i'r Scarlets gyda 10 munud yn weddill

ASM Clermont Auvergne 38 - 17 Scarlets

Cafodd Johnny Williams ei anfon o'r maes wrth i'r Scarlets golli yn Ffrainc brynhawn Sadwrn.

Golyga'r canlyniad fod tîm Dwayne Peel allan o Ewrop gydag un gêm grŵp yn weddill.

Roedd hwb i obeithion Clermont o le yn y 16 olaf wrth i'r asgellwr Alivereti Raka groesi ddwywaith, gyda 11 pwynt arall gan faswr Ffrainc, Anthony Belleau a cheisiau pellach gan Giorgi Beria a Joris Juran.

Sicrhaodd Steff Evans a Kieran Hardy geisiau cysur i'r Scarlets yn y 10 munud olaf cyn i Anthony Belleau agor y bwlch unwaith eto gyda'i ail o'r gêm.

Mae'r Scarlets yn aros ar waelod grŵp 3 heb yr un pwynt hyd yma.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Zebre yn ôl wrth i Siomone Gesi a Iacopo Bianchi sgorio dwy gais.

Zebre 20-17 Dreigiau

Methodd y Dreigiau gyfle euraidd i selio eu lle yn rownd nesaf y Cwpan Her ar ôl ildio'r fantais yn erbyn Zebre.

Er bod ar y blaen o 12-0 wedi 23 munud diolch i giciau cosb Cai Evans, daeth Zebre yn ôl wrth i Iacopo Bianchi a Siomone Gesi, dwywaith, groesi i'r tîm cartref.

Cafwyd cais hwyr gan asgellwr y Dreigiau, Jared Rosser, ond ni allai'r ymwelwyr ail-gipio'r fantais.

Nawr bydd yn rhaid i'r Dreigiau ennill yn erbyn y Sharks ddydd Sul nesaf yn eu gêm grŵp olaf i gadw'r gobaith o le yn y rownd nesaf yn fyw.