HSBC yn cyhoeddi bod y gwasanaeth ffôn Cymraeg wedi cau
- Cyhoeddwyd

Yn ôl HSBC, doedd y gwasanaeth Cymraeg ond yn derbyn 22 galwad y dydd
Mae HSBC wedi cadarnhau eu bod nhw bellach wedi cau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg.
Fe gyhoeddodd y banc ym mis Tachwedd "nad oedd yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn", ond fod y galw am y gwasanaeth wedi lleihau dros amser.
Roedd grŵp o Aelodau Senedd Cymru ac ymgyrchwyr iaith yn feirniadol iawn o'r cynllun, gan gyhuddo'r cwmni o "ddangos dirmyg tuag at gwsmeriaid Cymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC eu bod wedi ymroi i gefnogi eu cwsmeriaid Cymraeg, ond bod rhaid iddyn nhw gyflwyno newidiadau oherwydd y galw isel am y gwasanaeth.
Yn ôl HSBC roedd y gwasanaeth Cymraeg ond yn derbyn 22 galwad y dydd, o'i gymharu â 18,000 i'r gwasanaethau Saesneg.
Roedd y gwasanaeth ar gael rhwng 08:00-20:00 bob dydd, ac yn 2021 fe wnaeth y banc lansio ymgyrch i helpu staff i ddysgu Cymraeg.
Ond mewn llythyr i Aelodau o'r Senedd ym mis Tachwedd y llynedd, dywedodd HSBC na fyddai'n cynnig llinell ffôn Cymraeg ei hiaith o 15 Ionawr.
'Pob defnyddiwr yn gallu siarad Saesneg'
Mewn llythyr at y banc fis diwethaf, dywedodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg Senedd Cymru eu bod nhw am i'r banc ystyried tro pedol.
Dywed yr Aelodau o'r Senedd y byddai methiant i ymateb yn gadarnhaol i hyn yn "golygu bod ymrwymiadau HSBC i Gymru a'r Gymraeg yn ddiystyr".
Roedd yna feirniadaeth hefyd o gynllun y banc i gynnig galwad yn ôl ar ôl tridiau i siaradwyr Cymraeg, gan ddweud na fydda hynny o unrhyw werth i berson oedd â mater oedd angen ei ddatrys ar fyrder, fel bil ynni er enghraifft.
Yn ôl HSBC, o Ionawr 15 bydd galwadau i'r llinell ffôn Cymraeg yn cael eu dargyfeirio i'r prif wasanaethau Saesneg gan fod "pob cwsmer sy'n defnyddio'r llinell Cymraeg yn gallu siarad Saesneg hefyd".

Delyth Jewell yw cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, a'r Gymraeg a wnaeth gyhuddo'r banc o "wthio siaradwyr Cymraeg allan"
Mae'r banc wedi addo na fyddant yn cau rhagor o ganghennau yn y Deyrnas Unedig eleni, gan gynnwys eu safleoedd yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym wedi ymroi i gefnogi ein cwsmeriaid Cymraeg, ond oherwydd niferoedd isel iawn y galwadau i'n gwasanaeth ffôn Cymraeg - llai na dau ddwsin y dydd ar gyfartaledd - mae'n rhaid i ni gyflwyno newidiadau.
"Os oes cwsmer sydd am gyfathrebu gydag aelod o staff yn Gymraeg, yna mae modd i ni drefnu hynny.
"Byddwn ni hefyd yn parhau i fod ag aelod o staff Cymraeg yn hanner ein canolfannau yng Nghymru, ac yn parhau i ymateb i negeseuon cwsmeriaid drwy gyfrwng yr iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023