CNC: 'Gallai camau atal llifogydd fod yn rhy ddrud'
- Cyhoeddwyd
Gallai amddiffyn miloedd o gartrefi yng Nghymru rhag llifogydd fod yn anfforddiadwy, yn ôl adroddiad newydd.
Rhybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bydd cynnal rhai amddiffynfeydd yn rhy ddrud yn y dyfodol.
Mae'r corff yn rhagweld y byddai'n gorfod mwy na threblu faint y mae'n ei wario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn cadw i fyny â newid yn yr hinsawdd.
Mae'r corff yn dweud fod angen cymryd penderfyniadau anodd ar ble i ganolbwyntio buddsoddiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gyda chymunedau" i'w cadw'n ddiogel a'u bod yn "addasu ar gyfer y dyfodol".
Mae'r newid yn yr hinsawdd yn dod â thywydd gwlypach a gwylltach i Gymru, ac mae mwy o berygl llifogydd yn golygu gorfod gwario mwy parhaus ar amddiffynfeydd, yn ôl asesiad diweddaraf CNC.
Ar hyn o bryd mae'r adroddiad yn dweud bod cyfanswm o 290,844 o gartrefi a busnesau a allai gael eu heffeithio gan lifogydd o afonydd, y môr neu o ddŵr glaw yn cronni ar y tir.
Yn ôl casgliadau'r adroddiad, dros y 100 mlynedd nesaf, ac o ystyried effeithiau newid hinsawdd sy'n cael eu rhagweld, bydd 24% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd, a 47% yn fwy o ganlyniad i lifogydd llanwol.
Bydd 34% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb. Mae'r ffigyrau hyn cyn i unrhyw eiddo newydd gael eu hadeiladu.
Pwysleisiodd yr adroddiad fod gwariant ar gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd mawr fel arfer yn gwneud synnwyr ariannol o'i gymharu â'r gost o ddelio â digwyddiadau llifogydd niweidiol.
Ond ar lefel leol mae rhai ardaloedd lle gallai fod yn rhy gostus i barhau i adeiladu amddiffynfeydd cryfach a thalach, meddai.
Ar hyn o bryd mae 22,343 o adeiladau y tu ôl i amddiffynfeydd rhag llifogydd a dywedodd CNC eu bod yn "aneconomaidd i fuddsoddi ynddynt dros y 100 mlynedd nesaf".
'Gweithio gyda ffermwyr'
Pwysleisiodd CNC nad oedd hyn o reidrwydd yn golygu na fyddent bellach yn cael eu hamddiffyn mewn ffyrdd eraill ond bod angen "game-plan".
Roedd yr opsiynau'n cynnwys gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ganiatáu i gaeau gael eu gorlifo i ddiogelu eiddo, yn ogystal â buddsoddi mewn systemau rhybuddio gwell.
Ers y 2000au mae Paul Williams a ffermwyr eraill yn Nyffryn Conwy wedi bod yn rhan o gynllun atal llifogydd sy'n golygu bod eu caeau'n cael eu gorlifo ar bwrpas yn ystod glaw trwm er mwyn amddiffyn pentref Trefriw, a thref Llanrwst.
Dywedodd fod llifogydd yn rhywbeth y mae'n rhaid i berchnogion tir yn yr ardal fyw ag ef, ond bod newid hinsawdd yn golygu bod ei dir dan ddŵr yn amlach ac am gyfnod hirach.
"Does 'na'm dwywaith am hynny, a mae o hefyd yn cyfyngu be fedrwn ni wneud ar y tir yn flynyddol," meddai.
Mae hynny'n golygu, meddai, bod angen edrych eto ar y cynllun a'r gefnogaeth i'r rhai sy'n cymryd rhan.
"Dwi'n meddwl bydda trigolion y ddau le yna yn dweud wrthoch chdi bod o wedi gweithio achos maen nhw yn sicr 'di cael llai o golledion.
"Ond mae o'n cael mwy a mwy arno ni fel tir-feddianwyr blwyddyn ar ôl blwyddyn, a mae'n amser rŵan ailedrych ar 'heina achos fedrwn ni ddim cario mlaen fel ag y mae hi 'san 'dan ni'n cael ein di-golledu rhyw ffordd neu gilydd."
'Adleoli trigolion yn opsiwn'
Mae'r adroddiad yn dweud fod adleoli trigolion yn un opsiwn y dylid ei ystyried hefyd "er yn hynod gostus ac yn wleidyddol sensitif".
Nid yw CNC wedi nodi ble yn union y mae'r cartrefi hyn ond mae'n tynnu sylw at eu cynllun rheoli perygl llifog y llynedd a amlygodd ardaloedd Cymru lle mae risg isel, canolig ac uchel o lifogydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad CNC, sydd unwaith eto yn tynnu sylw at effaith yr argyfwng hinsawdd.
"Mae heriau anodd o'n blaenau ac rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau i sefydlu sut y gallant aros yn ddiogel yn y tymor byr, wrth gynllunio i addasu ar gyfer y dyfodol.
"Nid oes unrhyw gymuned wedi'i dileu ac rydym yn parhau i ariannu, cryfhau a chynnal ein seilwaith amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru i gadw cymunedau'n ddiogel."
'Sgyrsiau anodd' yn wyneb yr heriau
Mae'r adroddiad diweddaraf yma yn ystyried pedwar senario buddsoddi gwahanol ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd, o fuddsoddi i gadw i fyny â newid yn yr hinsawdd, i gynnal y lefelau wariant presennol.
Bydd yr opsiwn drutaf yn gofyn am 3.4 gwaith gwariant presennol CNC ar lifogydd - tua £50m y flwyddyn.
Mae canolbwyntio ar amddiffynfeydd lle mae budd economaidd y gwaith yn fwy na'r gost dan sylw yn gofyn am godiad o 40% i'r lefelau ariannu presennol.
Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr CNC y byddai sut y caiff perygl llifogydd ei reoli yn y dyfodol "hyd yn oed yn fwy heriol wrth i'r newid yn yr hinsawdd gyflymu".
Bydd yr adroddiad yn "sbarduno sgyrsiau anodd", meddai, am ble mae buddsoddiad mewn amddiffynfeydd llifogydd yn cael ei ganolbwyntio a "dulliau y gallai fod angen eu cymryd mewn ardaloedd sydd ag eiddo cyfyngedig a llai o fuddion economaidd".
Ychwanegodd: "Rhaid i lywodraethau o bob lefel, busnesau a chymunedau weithio gyda'i gilydd nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023