Carcharu dau am ladd menyw ifanc trwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl ifanc oedd heb drwydded yrru wedi cael eu carcharu am 10 mlynedd yr un am ladd teithiwr mewn gwrthdrawiad a ddigwyddodd wrth iddyn nhw "rasio a gyrru'n gystadleuol".
Bu farw Ella Smith, 21, o Gamros ger Hwlffordd wedi'r gwrthdrawiad ar 13 Mehefin 2021.
Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd Jago Clarke, 21 o Aberdaugleddau, ac Emma Price, 21 o Hwlffordd, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac o achosi niwed difrifol.
Clywodd y llys fod tad Ella, sy'n ddiffoddwr tân, wedi'i alw i'r gwrthdrawiad fel cymhorthydd cyntaf, ac iddo sylweddoli bod gan y fenyw a oedd yn cael ei thynnu o'r car yr un tatŵ â'i ferch.
Yn ystod y dedfrydu fe wnaeth Clarke a Price bledio'n euog hefyd i achosi marwolaeth drwy yrru heb drwydded nag yswiriant.
Clywodd y rheithgor bod Clarke a Price wedi'u gweld yn gwyro eu cerbydau cyn i gar Ella Smith, a oedd yn cael ei yrru gan Clarke, daro car arall.
Doedd car Price ddim yn rhan o'r gwrthdrawiad ond fe ddadleuodd yr erlynwyr ei bod hithau yr un mor gyfrifol yn sgil y ffordd yr oedd hi'n gyrru.
Ddiwrnod y gwrthdrawiad roedd y grŵp yn dychwelyd o'r traeth.
Wrth iddyn nhw ddod at bentref Portfield Gate fe gollodd Clarke reolaeth ar y car gan daro ochr y ffordd cyn croesi i lwybr car arall.
Fe gafodd teithiwr yn y car hwnnw, Daisy Buck, anafiadau difrifol a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth.
Yn ystod y gwrandawiad fe ddisgrifiodd mam Ella, Maria Smith, ei merch fel "cariadus, gofalgar a meddylgar".
Dywedodd ei bod wedi gorfod rhoi'r gorau i'w swydd ers 22 mlynedd yn Ysbyty Llwynhelyg a bod y cyfan wedi cael "effaith feddyliol ac ariannol" arni.
Dywedodd Daisy Buck wrth y llys ei bod hi hefyd wedi dioddef yn feddyliol ers y gwrthdrawiad, ac wedi gorfod gohirio gwaith prifysgol.
Wrth ddedfrydu dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC "bod ceir yn lladd, yn enwedig pan maen nhw' cael eu gyrru gan rai na sy'n gymwys nag â phrofiad i yrru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021