Beth ddigwyddodd ar Fynyddoedd y Berwyn 50 mlynedd yn ôl?
- Cyhoeddwyd
Nos Fercher, 23 Ionawr, 1974. Union hanner canrif yn ôl, prin oedd trigolion pentref Llandrillo ger y Bala yn gwybod y byddai eu bywydau i gyd yn newid y noson honno.
Erbyn y bore canlynol, roedd pawb ar draws y byd yn gwybod ble oedd Llandrillo, gyda mynyddoedd y Berwyn gerllaw yn hawlio'r penawdau newyddion y diwrnod hwnnw.
Ond beth ddigwyddodd y noson honno wnaeth olygu fod pobl yn parhau i drafod y dirgelwch yma mewn cornel fach dawel o ogledd Cymru hanner canrif yn ddiweddarach?
Yn syml, does neb wir yn gwybod. Mae rhai yn honni bod llong ofod arallfydol wedi disgyn i'r ddaear, ac eraill, gan gynnwys y 'linell swyddogol' gan y llywodraeth yn honni bod esboniad gwyddonol i'r cyfan.
Roedd Huw Lloyd yn 14 oed ar y pryd ac mae'n disgrifio ar raglen Arallfydol ar BBC Radio Cymru beth ddigwyddodd y noson honno:
"Roedd hi'n tua 20:40 ac roeddwn yn gwylio'r teledu a daeth 'na ryw sŵn rhyfedd, fel thud. Ar ôl hynny dyma'r lle yn dechrau crynu.
"Dyma'r ffôn yn dechrau canu, cymdogion ar y ffôn yn gofyn 'be' oedd hwnne?' Roedd pobl wedi cael braw. Ar ôl tu hanner awr roedd 'na ddau blismon yn y drws.
"Dyma nhw'n deud eu bod nhw wedi cael adroddiadau fod 'na awyren wedi crasho ar y Berwyn a'u bod nhw eisiau mynd fyny yno ar frys a gofyn ca'i nhw gymryd y Land Rover."
Golau llachar
Wrth i Huw fynd â'r heddweision i fyny'r mynydd doedd dim byd allan o'r cyffredin i weld. Roedd yr heddweision yn fodlon nad oedd unrhyw beth o'i le ac yn fodlon gadael, ond yn sydyn iawn fe newidiodd y cyfan.
"Wrth i ni gerdded yn ôl tuag at y cerbyd, dyma'r lle yn goleuo i fyny, ar y ddaear oedd o, tua dwy filltir i ffwrdd oddi wrthon ni, golau gwyn llachar. Nath o bara rhyw 10-15 eiliad 'wrach.
"Dyma'r plismon yn troi ata i i a gofyn 'alli di fynd â fi i fan'ne?'."
Wrth iddyn nhw yrru at y safle, daeth galwad dros radio un o'r plismyn yn gorchymyn iddyn nhw gamu i lawr ac i beidio mynd tuag at y safle, a dyna pryd y gwnaeth Huw ddychwelyd adref.
Er i'r digwyddiad fod yn un rhyfedd, pan ddeffrodd Huw'r bore wedyn a sylwi fod "gweisg y byd" yno, roedd yn gwybod fod rhywbeth anghyffredin wedi digwydd.
Yn sydyn roedd trigolion y pentref i gyd yn trafod y sŵn, y daeargryn a'r goleuadau rhyfedd oedd yn dod o gyfeiriad mynyddoedd y Berwyn, ond oedd ceisio datrys beth ddigwyddodd yn anodd.
Yn fuan iawn wedyn daeth eglurhad 'swyddogol' i ddatgan mai gwibfaen (meteorite) yn disgyn tua'r ddaear oedd yn gyfrifol am y goleuadau llachar. A drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, bod daeargryn wedi taro ardal y Berwyn ar yr union foment i achosi'r cryndod.
Er i wyddonwyr chwilio ardal y mynydd am olion o'r gwibfaen, daeth dim i'r amlwg i awgrymu mai dyma oedd gwir achos y goleuadau.
'Gwibfaen a chryndod daear'
Mae papurau swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd wedi dod i'r amlwg drwy'r Archifdy Cenedlaethol yn honni 'nad UFO oedd y digwyddiad o gwbl'.
Ond mae'r papurau hefyd yn dangos bod pum person arall wedi adrodd eu bod wedi gweld beth maen nhw'n ei honni ar y pryd oedd rhywbeth 'arallfydol'.
Mewn llythyr at AS Meirionydd ym mis Mai 1974, Dafydd Ellis-Thomas, fe eglurodd Brynmor John sef Gweinidog yr Awyrlu ar y pryd mai "gwibfaen a chryndod daear oedd y cyfan".
"Mae'n ymddangos, am 20:32 y noson honno roedd cryndod daear yn ardal y Berwyn, wnaeth achosi tirlithriad, sy'n egluro'r rheswm am y sŵn tebyg i ffrwydrad," meddai yn y llythyr.
Ond nid pawb sy'n credu'r esboniad swyddogol.
Mae Geraint Edwards yn un o'r rheiny, ac mae'n taeru iddo weld rhywbeth arallfydol y noson honno wrth gerdded i'r dafarn i chwarae dartiau gyda'i ffrind Elgar Hughes.
Mae'r ddau o Ddyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych yn honni iddyn nhw sefyll yno am beth amser yn edrych ar y "gwrthrych" yn yr awyr.
"Roedd o'n union fel flying saucer, fel ti'n weld yn y comics," meddai Geraint.
"Roedd o'n goch i gyd a doedd o ddim yn uchel iawn yn yr awyr, rhyw ganllath. Nid gwibfaen oedd o, soser oedd hi heb ddim amheuaeth," meddai.
Roswell arall?
Mae pobl hyd heddiw yn parhau i ddadlau ynghylch beth yn union ddigwyddodd y noson honno ar lethrau'r Berwyn.
Mae sawl rhaglen ddogfen deledu wedi'i chynhyrchu a sawl llyfr yn cofnodi'r digwyddiad, ond does dim tystiolaeth gadarn i ddweud un ffordd neu'r llall.
Mae rhai yn cymharu'r noson i'r digwyddiad enwog a ddigwyddodd yn Roswell yn America yn ôl yn 1947, pan wnaeth llong ofod honedig ddisgyn i'r ddaear yn anialwch New Mexico.
Un peth sy'n sicr, er gwaetha'r holl lygaid-dystion a'r esboniad 'swyddogol' gan y llywodraeth, bydd digwyddiad mynyddoedd y Berwyn yn 1974 yn parhau i fod yn ddirgelwch.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2013