Diwedd prydau gwyliau wedi gadael fy nheulu mewn tlodi - rhieni

  • Cyhoeddwyd
School meals being served

Mae rhiant wedi dweud wrth BBC Cymru fod dod â phrydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol wedi gwthio ei deulu i "dlodi pur".

Mae ef a rhiant arall wedi cael caniatâd i fynd i'r llys i geisio gwrthdroi'r penderfyniad.

Dywedodd Mark, nid ei enw iawn, nad oedd methiant Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad cyn iddyn nhw dorri'r gefnogaeth yn deg ar y rhai a'i derbyniodd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n ymladd yr achos, na allan nhw wneud sylw.

Mae gweinidogion wedi dweud bod y polisi, a allai fod yn werth cymaint ag £20 yr wythnos y plentyn, yn anfforddiadwy ac yn gyfyngedig o ran amser.

Mae elusen gyfreithiol sy'n gweithio ar yr achos yn dweud bod rhieni wedi cael ychydig iawn neu ddim rhybudd o gwbl fod y gefnogaeth yn dod i ben, ar ôl i gynghorau gael gwybod fis Mehefin diwethaf.

Dywed yr elusen - y Public Law Project (PLP) - na roddwyd unrhyw arwydd bod y cynllun yn dod i ben cyn i awdurdodau lleol gael gwybod.

Mae'r ddau riant am i'r ddarpariaeth gael ei hadfer ar gyfer y gwyliau ysgol nesaf.

'Bendith'

Yn ddienw fel rhan o'r achos cyfreithiol dywedodd Mark, nid ei enw iawn, fod y taliad ychwanegol wedi bod yn "fendith" i'w deulu.

Mae'r tad yn ddifrifol wael, â theulu mawr ac wedi bod yn ddi-waith ers nifer o flynyddoedd.

Mae'r cymorth wedi bod yn werth mwy na £100 yr wythnos i'w deulu yn ystod wythnosau gwyliau.

"Byddai'n caniatáu i ni fynd i Tesco a siopa'n dda iawn - prynu pethau ffres, llysiau, yn lle pethau wedi'u rhag-bacio."

Dywedodd iddo ddarganfod y byddai'r cynllun yn dod i ben ddyddiau cyn dechrau'r gwyliau, trwy ffrind i ddechrau.

Gwnaeth tynnu'r arian yn ôl sefyllfa anodd yn waeth. Dywedodd ei fod ef a'i bartner "yn anaml yn bwyta" ac nad ydyn nhw'n bwyta cymaint ag yr oedden nhw'n arfer ei fwyta.

Pan ddaeth y talebau i ben cafodd ei deulu ei roi mewn "tlodi pur", meddai.

"Yr unig ffordd allan, oherwydd fe gawson ni ein dal yn y trap hwnnw pan ddaeth i ben yn yr haf, oedd cymryd benthyciad."

Dywedodd y tad nad oedd "yn deg sut y gwnaethon nhw hyn. Doedd dim ymgynghoriad, doedd neb yn ymwybodol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynllun yn cynnig talebau i deuluoedd gyda phlant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau.

Dywedodd ail riant yn yr achos, sydd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, wrth ei chynrychiolwyr cyfreithiol ei bod wedi dechrau dibynnu ar y talebau dros amser fel "rhan hanfodol o'n hincwm".

Dywedodd na chafodd unrhyw wybodaeth na hysbysiad y byddai'r talebau'n dod i ben, a'i bod yn ei chael hi'n heriol iawn wedi iddynt gael eu tynnu'n ôl.

Dechreuodd cymorth prydau ysgol yn ystod y gwyliau yn ystod y pandemig, ac roedd wedi'i ymestyn dro ar ôl tro - gyda'r estyniad diweddaraf hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor mis Mai y llynedd.

Dadleuodd PLP bod diffyg asesiad effaith ar leiafrifoedd ethnig a rhiant sengl, diffyg tystiolaeth bod swyddogion wedi ystyried effaith y penderfyniad ar blant a diffyg ymgynghoriad, yn anghyfreithlon.

Dywedodd yr elusen nad oedd y cyhoeddiad ar 9 Mawrth am yr estyniad ym mis Mai yn arwydd bod dod â darpariaeth i ben ar feddwl y llywodraeth.

Dywedodd yr elusen gyfreithiol fod e-bost gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, dyddiedig 23 Mehefin 2023, yn dweud bod "gwaith yn parhau fel mater o frys i bennu dyfodol y cynllun gwyliau [Cinio Ysgol am Ddim]".

Ddiwrnodau yn ddiweddarach, ar 28 Mehefin, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at gynghorau yn dweud na fyddai estyniad pellach.

Dywed cyfreithwyr fod Llywodraeth Cymru wedi methu â dangos "sylw dyledus i les gorau plant" fel sy'n ofynnol gan gyfraith yn 2011 a oedd yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar y llyfrau statud - y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod yr achos yn un academaidd oherwydd penderfyniad newydd ym mis Hydref 2023 i beidio ag adfer y gefnogaeth.

'Iechyd meddwl a chorfforol'

Mae asesiad effaith gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei lunio i gyfiawnhau'r penderfyniad yn gysylltiedig â'r camau cyfreithiol, mae BBC Cymru yn deall.

Dywedodd y gallai peidio ag adfer y cynllun "gynyddu ansicrwydd bwyd ac y gallai gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol", ond honnodd y byddai effeithiau negyddol yn "cael eu lliniaru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roeddem bob amser yn glir ei fod yn ymyriad argyfwng â chyfyngiad amser. Roedd y cymorth yn rhedeg o ddechrau'r pandemig tan fis Mai 2023. Yn Lloegr daeth i ben ym mis Ebrill 2021."

"Gan mai ymgyfreitha gweithredol yw hwn, ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach ar y mater hwn ar hyn o bryd".

Ychwanegodd y llefarydd y bydd gan bob plentyn ym mhob ysgol gynradd yr hawl i brydau ysgol am ddim erbyn Medi 2024.

Mae disgwyl i'r cais am adolygiad barnwrol gael ei glywed yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.