Cynghorydd Plaid yn rhoi'r gorau i'w rôl ar ôl cael ei 'thargedu'

  • Cyhoeddwyd
Ellie RichardsFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ellie Richards yn gadael ei rôl wedi llai na dwy flynedd fel cynghorydd sir

Mae cynghorydd sir wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w rôl ar ôl dweud fod pobl wedi ei thargedu.

Cafodd Ellie Richards ei hethol yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Abercynffig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2022 pan yr oedd yn 23 oed.

Bu'n rhedeg ochr yn ochr â'i thaid, y cynghorydd Malcolm James, o Langynwyd, gyda'r ddau yn gobeithio cynnig golwg newydd ar wleidyddiaeth wrth gyfuno profiad a syniadau newydd.

Ond bellach mae'n dweud y bydd yn gadael ei rôl wedi llai na dwy flynedd fel aelod etholedig.

Mewn datganiad, dywedodd fod diagnosis o ffibromyalgia, yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl wedi ysgogi ei phenderfyniad.

Cyfeiriodd hefyd at faterion yn ymwneud ag "aflonyddu wedi'i dargedu".

'Mynd i'r afael â heriau sylweddol'

Wrth gyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo fel cynghorydd ar unwaith, ysgrifennodd: "Cefais fy magu yn Abercynffig ac rwyf wedi byw yma ar hyd fy oes.

"Yn fuan ar ôl fy ethol, cefais, ac rwy'n dal i dderbyn, aflonyddu wedi'i dargedu.

"Fel y mae llawer o gydweithwyr yn y cyngor a thrigolion yn gwybod, rwyf wedi bod yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl ac iechyd corfforol dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Rwyf wedi cael diagnosis o ffibromyalgia ac wedi bod yn derbyn triniaethau amrywiol i wella ansawdd fy mywyd."

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ellie Richards wedi gwasanaethu ar Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr ers ei hethol yn 2022

Ychwanegodd: "Rwyf wedi ymroi fy hun i wasanaethu ein cymuned a chynnal gwerthoedd a dyletswyddau'r swydd hon.

"Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn mynd i'r afael â heriau sylweddol yn ymwneud â'm hiechyd meddwl a chorfforol o ganlyniad i'r aflonyddu a dderbyniais.

"Er gwaethaf fy ymdrechion i gydbwyso fy nghyfrifoldebau, mae'r doll ar fy llesiant wedi dod yn fwyfwy amlwg.

"Er mwyn cynnal y safonau uchel o wasanaeth ac ymroddiad a ddisgwylir gan aelod etholedig, rwy'n credu ei fod er fy lles i a thrigolion Abercynffig a Choetre-hen fy mod yn rhoi'r gorau i'm rôl fel cynghorydd bwrdeistref sirol."

Aeth ymlaen i ddweud: "Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth a'r cyfleoedd y mae'r swydd hon wedi eu darparu i mi, ac rwy'n falch o'r anrhydedd bod fy nghymuned wedi dewis ymddiried ynof yn 2022.

"Nid yw'n hawdd i mi gamu i ffwrdd, ond rwy'n credu bod blaenoriaethu fy iechyd meddwl yn angenrheidiol ar gyfer fy llesiant cyffredinol ac, yn y pen draw, bydd yn caniatáu i bobl Abercynffig a Choytrahen ethol cynghorydd newydd a all barhau i'w gwasanaethu yn yr un modd ag yr oeddwn eisiau."

Pynciau cysylltiedig