Gweinidog: Goruchwylio tri bwrdd iechyd yn fanylach

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan fod y GIG "o dan bwysau mawr" ond mai ei gwaith hi oedd sicrhau bod y byrddau iechyd yn "darparu'r gofal gorau posib"

Bydd Llywodraeth Cymru yn goruchwylio tri bwrdd iechyd yng ngorllewin a de Cymru yn fanylach.

Yn y Senedd nos Fawrth fe gyhoeddodd Eluned Morgan y bwriad i ymyrryd yng ngwaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Ychwanegodd nad "cosb" oedd y camau ond "cydnabyddiaeth" y gallai "gweithio ar y cyd wneud pethau'n well".

Ond dywedodd y Ceidwadwyr fod y penderfyniad yn "syndod" a bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn cyflwr "sobor iawn".

Yn ôl Plaid Cymru mae'n "codi'r cwestiwn" o faint o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros y GIG.

'Pryder'

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Eluned Morgan fod y GIG "o dan bwysau dwys" ond mai ei gwaith hi oedd sicrhau ei fod yn "darparu'r gofal gorau posib".

Ychwanegodd, er iddi ddirprwyo'r cyfrifoldeb hwnnw i fyrddau iechyd, weithiau roedd yn rhaid iddi wneud "penderfyniadau difrifol a oes angen cymorth a goruchwyliaeth ychwanegol ar sefydliadau'r GIG".

Mae'r penderfyniad yn golygu bod bellach pum lefel o oruchwyliaeth - trefniadau arferol, meysydd sy'n peri pryder, gwell monitro, ymyrraeth darged, a'r lefel uchaf sef mesurau arbennig.

Dywedodd y gweinidog y byddai'n gosod holl Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yng ngorllewin a chanolbarth Cymru i ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd bod "heriau" ariannol a chynllunio yn effeithio ar ei berfformiad.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, dywedodd y byddai'n "cynyddu'r lefel uwch gyfeirio i ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau".

Ychwanegodd ei bod yn "arbennig o bryderus" am yr adran achosion brys yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gan gynyddu'r ymyrraeth i wella monitro perfformiad a chanlyniadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog nad "cosb" oedd y camau ond y gallai gweithio "ar y cyd... wneud pethau'n well".

Ond cadarnhaodd na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i lefelau ymyrraeth y pedwar bwrdd iechyd arall.

Mae Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan fesurau arbennig - y lefel uchaf o ymyrraeth - a Chaerdydd a'r Fro yn parhau i gael ei fonitro'n well ar gyfer cynllunio a chyllid, fel y mae Powys a Chwm Taf Morgannwg.

Mae Cwm Taf Morgannwg hefyd yn parhau mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwasanaethau iechyd "dan bwysau aruthrol" ac y byddai'r penderfyniadau a wneir yn "cefnogi byrddau iechyd ymhellach ... yn ystod cyfnod anodd a heriol".