Tua £25m i Gymru yn sgil £500m ychwanegol i gynghorau Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Cwm RhonddaFfynhonnell y llun, Fran99/Getty Images

Bydd Cymru yn cael tua £25m ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn sgil hwb i gynghorau Lloegr.

Mae £500m ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr wedi sbarduno mwy o arian i Lywodraeth Cymru.

Galwodd Plaid Cymru am roi'r arian i gynghorau gwledig sy'n cael y cynnydd lleiaf yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf.

Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru am sylw.

Pe bai gweinidogion yn dewis rhoi'r £25m i lywodraeth leol byddai'n ychwanegiad bach iawn i'r gyllideb gyffredinol o £5.5bn.

Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael arian ychwanegol pan fydd llywodraeth y DU yn rhoi hwb i gyllid i wasanaethau yn Lloegr, fel iechyd a chynghorau, sy'n cael eu rhedeg o Gaerdydd yng Nghymru.

Nid yw'n ofynnol i weinidogion wario'r arian yn yr un ffordd â llywodraeth y DU, a gallant ei roi i wasanaethau eraill.

Rhwng 2% a 4.7%

Yn y setliad llywodraeth leol a gyhoeddwyd y llynedd fe welodd cyngor Casnewydd y cynnydd mwyaf yn y gyllideb, sef 4.7%, a Chonwy a Gwynedd gafodd y gwaethaf ar 2%.

Dywedodd llywodraeth y DU ei bod yn debygol y byddai tua £25m yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, gyda'r symiau terfynol i'w cadarnhau yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, y bydd y blaid "yn pwyso am eglurder brys ynghylch faint o arian canlyniadol fydd i Gymru o'r cyllid newydd hwn".

"Gallai arian ychwanegol gael ei ddefnyddio i godi'r cyllid gwaelodol o 2% i o leiaf 3%, a fyddai o fudd sylweddol i lawer o awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig.

"Rhaid gwneud hyn yn gyflym cyn i gynghorau gymeradwyo eu cyllidebau ddiwedd Chwefror."

Dywedodd Anthony Hunt, llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinydd cyngor yn Nhorfaen: "Mae'n hollbwysig nawr fod yr arian canlyniadol sy'n deillio o'r cyhoeddiad heddiw yn cael ei basio ymlaen yn llawn i gynghorau Cymru i helpu ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i gyllido ein ysgolion."