Arweinydd 'ddim yn bryderus' am fechgyn ar goll

  • Cyhoeddwyd
Ben LeonardFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae un o arweinwyr trip sgowtiaid lle bu farw bachgen 16 oed wedi dweud wrth gwest "nad oedd yn bryderus" pan gollodd olwg ar y bachgen a dau arall wrth iddyn nhw gerdded i fyny Mynydd y Gogarth yn Llandudno.

Disgynnodd Ben Leonard 200 troedfedd o glogwyn yn ystod y daith yn Awst 2018.

Roedd ef a dau ffrind wedi cael eu gwahanu o'r prif grŵp ac fe gwympodd o glogwyn.

Bu farw o anaf difrifol i'w ben.

Wrth roi tystiolaeth i gwest i farwolaeth Ben ym Manceinion, dywedodd Gareth Williams - oedd yn ddirprwy arweinydd adran i grŵp y Reddish Scouts ar y pryd - iddo weld tri ffrind (Ben Leonard, Christopher Gilbert ac Alex Jamieson) am y tro olaf wrth iddyn nhw gerdded "rhwng 2-5m i ffwrdd" ar lwybr cyfochrog i'r gweddill mewn ardal a adnabyddir fel Gerddi Y Fach, neu Happy Valley.

Eglurodd i'r rheithgor fod arweinydd arall, Mary Carr, ar flaen y grŵp tra'i fod yntau yn y canol ac yna'r gweddill wedi ymestyn y tu ôl iddyn nhw wrth gerdded allt serth.

Fe wnaeth trydydd arweinydd, Sean Glaister, ymuno gyda nhw yn diweddarach wedi iddo yntau orfod aros i symud ei gar. Yn flaenorol dywedodd Mr Williams mai Mr Glaister oedd "yn ngofal" y daith.

Gadael neges

Wedi i Mr Glaister ymuno gyda nhw fe gafodd Mr Williams alwad gan Mary Carr i ofyn a oedd Ben, Chris ac Alex gydag ef.

"Atebais nad oeddent... roeddwn i'n credu eu bod gyda chi," meddai Mr Williams. Ychwanegodd: "Dywedais i hyn wrth Sean Glaister ac rwy'n credu iddo geisio ffonio Ben... doedd e ddim yn ymddangos yn bryderus."

Dywedodd fod Mr Glaister wedi gadael neges ar ffôn un o'r bechgyn.

Ar yr adeg honno nid oedd wedi sylweddoli fod yr ardal yn "agos at glogwyni".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ben Leonard yn cerdded ar Y Gogarth pan ddisgynnodd i'w farwolaeth fis Awst 2018

Yn ddiweddarach aeth y criw i lawr y mynydd ac at babell gerddoriaeth ar y promenâd, sef y lle y cytunwyd fel man cyfarfod.

Dyna pryd y cafodd Mr Glaister alwad.

"Rwy'n cofio clywed seirenau. Dydw i ddim yn cofio a ddywedodd e fod Ben wedi disgyn neu fod Ben wedi cael damwain."

Pan gafodd Mr Williams ei holi am fethiannau gan Gymdeithas y Sgowtiaid - sydd eisoes wedi eu derbyn - dywedodd: "Dwi wedi ystyried hyn am bum mlynedd.

"Pe byddwn i'n credu fod unrhyw berygl eu bod wedi mynd yn agos at glogwyni, fe fyddwn i wedi eu siarsio i beidio. 'Nes i ddim meddwl y byddai goruchwyliaeth yn broblem.

"Taswn i'n medru mynd yn ôl i roi cyfarwyddyd, fe fyddwn i'n gwneud hynny gant y cant."

Peryglon amlwg

Fe wnaeth cyfreithiwr teulu Ben - Bernard Richmond KC - holi am bwysigrwydd asesiadau risg, gan ofyn a oedd Mr Williams yn derbyn na ddylai pobl fod yn agored i risgiau oni bai eu bod wedi eu hasesu o flaen llaw.

"Nid dyna fy nealltwriaeth i," medd Mr Williams, gan ddweud fod gwneud penderfyniadau am risg yn "rhan annatod o gymryd rhan ar y lefel yna".

Cytunodd fod yna "beryglon amlwg" ar y Gogarth, fel y clogwyni, ond dywedodd ei fod yn teimlo eu bod yn "hunaneglur".

"Ond doedden nhw ddim mae'n ymddangos?," gofynnodd Mr Richmond.

"Nag oedden," atebodd Mr Williams gan ychwanegu ei fod yn credu y byddai bywyd Ben wedi ei achub pe byddai rhywun wedi dweud wrtho am osgoi'r ardal beryglus.

Dywedodd Mr Richmond wrth Mr Williams fod ei gwestiynau i gyd yn cael eu gofyn "mewn awyrgylch eich bod chi yn ddyn da oedd yn ceisio gwneud ei orau - mae'r teulu am i chi wybod hynny".

Dim asesiad ar bapur erioed

Yn ddiweddarach, gofynnodd Bernard Richmond KC a oedd Mr Williams yn cofio cyfarfod yng nghwt sgowtiaid Reddish wedi marwolaeth Ben lle gofynnodd Sean Glaister i bawb afael dwylo mewn cylch, a dweud bod neb ar fai am yr hyn ddigwyddodd i Ben.

Atebodd Mr Williams nad oedd yn cofio'r digwyddiad ac nad oedd e yno.

Cafodd Mr Williams ei holi hefyd am gyfarfod lle y gwnaeth dirprwy gomisiynydd sgowtiaid Dwyrain Manceinion, Steve Holloway, ddweud wrth arweinwyr sgowtiaid fod anturwyr yn cael cerdded ar ben eu hunain.

"A ddywedodd e mai bai Ben oedd e?" gofynnodd Mr Richmond.

"Dydw i ddim yn credu iddo ddefnyddio geiriau fel yna," atebodd Mr Williams, gan wadu hefyd fod y tri arweinydd wedi cael cyfarwyddyd gan Mr Hollway i sticio gyda'i gilydd ac unioni eu stori o'r digwyddiad.

Wrth gael ei holi gan Oliver Campell KC ar ran Sean Glaister, dywedodd Mr Williams wrth y gwrandawiad nad oedd yn ymwybodol fod cyfrifoldeb ar unrhyw un i wneud asesiad risg ar bapur ar gyfer gweithgaredd, ac nad oedd yn cofio i hynny ddigwydd yn ei holl brofiad gyda'r sgowtiaid.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw un ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid wedi egluro am alluoedd anturwyr i asesu risg, na pha weithgareddau y gallen nhw wneud ar ben eu hunain.

Mae'r cwest yn parhau.