Pobl yn barod i 'ymladd' yn erbyn cynllun 300 tŷ Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Golygfa o'r safle
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau cyfrifiad 2021 roedd yna 260 o dai gwag yn ardal Hen Golwyn a Llanddulas

Mae cynllun i adeiladau hyd at 300 o dai ar dir fferm yn Sir Conwy wedi derbyn gwrthwynebiad cryf gan drigolion lleol.

Ymhlith pryderon trigolion am y datblygiad posib ar Fferm Peulwys yn Hen Golwyn mae'r cynnydd mewn traffig, y straen ychwanegol ar y feddygfa ac ysgolion, a cholli tir gwyrdd.

Mae'r datblygiad yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLL) newydd Cyngor Conwy, sef yr hyn sy'n rheoli beth sy'n gallu cael ei adeiladu ac ymhle o 2024 ymlaen.

Mae gan y cyngor darged i adeiladu 3,600 o dai newydd ar draws y sir erbyn 2033.

Yn ôl Cyngor Conwy mae nifer y tai sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer safle Fferm Peulwys wedi gostwng ers 2019.

Mae Fferm Peulwys yn un o bum lleoliad ar draws y sir sydd wedi'u neilltuo ar gyfer datblygiad sylweddol o fewn y CDLL.

Y cynllun ar hyn o bryd yw adeiladu rhwng 200 a 300 o dai ar y safle, gan gynnwys tai fforddiadwy.

Ond yn ôl trigolion lleol, nid yw'r caeau uwchben y fferm yn addas ar gyfer cymaint o dai newydd.

Dilwyn Price
Disgrifiad o’r llun,

Pryder Dilwyn Price ydy "colli mwy a mwy o gaeau hardd"

Mae Dilwyn Price yn byw wrth ymyl y tir, ac yn un o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r datblygiad.

Dywedodd: "Mae'r ffyrdd yn gul iawn ar hyn o bryd a'r traffig yn wael.

"Mae'r feddygfa dan ei sang, a be' sy'n poeni ni yw ein bod ni'n mynd i golli mwy a mwy o gaeau hardd."

Ychwanegodd: "Dwi wedi clywed rhai yn dweud bydd y datblygiad yn dda i fusnesau'r dref, ond dwi ddim yn ffyddiog o hynny.

"Tydi mwy o dai ddim wedi atal siopau rhag cau yma yn y gorffennol."

Patricia Sweeney
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Patricia Sweeney y byddai'n ystyried gwerthu ei chartref pe bai'r tai yn cael eu hadeiladu

Gyda'i thŷ yn ffinio ag un o'r caeau sy'n rhan o'r cynllun, mae Patricia Sweeney'n barod i frwydro yn erbyn y datblygiad.

"Rwy'n gwrthwynebu'r cynlluniau'n llwyr. Pam adeiladu ar dir ffermio da?

"Mae gennym lawer o fywyd gwyllt yn y caeau hyn. Os bydd hyn yn mynd yn ei flaen byddwn i a fy ngŵr yn ystyried gwerthu'r tŷ a symud.

"Dwi'n mynd i ymladd hyn yr holl ffordd. Mae hynny'n golygu protestio, creu arwyddion, neu hyd yn oed clymu fy hun i un o goed y caeau."

Rhiannon TreforFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd y datblygiad yn elwa'r iaith Gymraeg yn yr ardal, meddai Rhiannon Trefor

Yn fam i dri o blant ifanc, pryderu am yr effaith ar yr iaith Gymraeg mae Rhiannon Trefor.

Dywedodd: "Beth mae'r datblygiad yma yn gwneud i'r iaith Gymraeg?

"Mae yna ostyngiad wedi bod yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg yn Hen Golwyn dros y degawd diwethaf.

"Dwi ddim yn meddwl bod y datblygiad yma, sydd 'mond gyda chanran fechan iawn o dai fforddiadwy, yn mynd i helpu'r iaith Gymraeg."

Pwysau 'aruthrol' i adeiladu

Yn ôl ffigyrau cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd yna 5,750 o dai gwag ar draws Sir Conwy. Roedd 260 yn ardal Hen Golwyn a Llanddulas.

Mae'r cyngor hefyd yn brwydro i leihau'r niferoedd uchel sy'n aros am dai cymdeithasol o fewn y sir.

Ar 1 Ionawr 2024 roedd 1,934 o drigolion ar gofrestr tai cymdeithasol Conwy.

"Mae cynghorau fel Cyngor Conwy dan bwysau aruthrol i adeiladu tai," meddai Mark Roberts, ymgynghorydd cyfraith cynllunio ac amgylcheddol.

Mark Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gynghorau dargedau o ran adeiladu tai, meddai Mark Roberts

"Mae'n rhaid iddyn nhw gyrraedd y targedau adeiladu tai yma sy'n cael eu clustnodi o fewn eu cynllun datblygu lleol nhw.

"Os nad ydyn nhw, maen nhw'n gorfod edrych eto am fwy o dir i ddatblygu er mwyn gwella ffigyrau."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Conwy bod nifer y tai sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer safle Fferm Peulwys wedi gostwng o 450 yn 2019, i rhwng 200 a 300 yn 2024.

Ychwanegodd y cyngor eu bod eisiau clywed barn trigolion lleol am y safleoedd cyn dod i benderfyniad, gyda Chymorth Cynllunio Cymru yn cynnal gweithdai ar y datblygiadau ar eu rhan nhw.

Pynciau cysylltiedig