Carys Eleri: Ar drywydd dod yn Dderwydd
- Cyhoeddwyd
Ym mis Rhagfyr, cafodd yr actores a'r gantores Carys Eleri ei hurddo yn rhan o aelwyd Urdd Derwyddon Môn, yn dilyn cyfnod o astudio mewn ysgol breswyl i Dderwyddon Neo-Baganaidd ger Din Lligwy, Ynys Môn.
Yma, mae hi'n sôn am ei siwrne hir yn chwilio drwy draddodiadau hynafol y byd am hafan i'w henaid, ond i'w ddarganfod ar stepen ei drws wedi'r cwbl:
Pechaduriaid o'r dechrau?
Ers blynyddoedd mawr rwy' wedi cyfri fy hun yn berson ysbrydol iawn, ond doedd dilyn bywyd Cristnogol heb daro deuddeg â mi. Er bo' sawl elfen o'r Beibl yn fy niddori, a medraf ddeall a gwerthfawrogi pwrpas sawl un o'r straeon, roedd natur moli Duw a'i fab dynol yn rhywbeth eitha' abstract i fi.
Ac un bore wrth fynychu eglwys yn 23 mlwydd oed, a finne yn chwilio am hafan i'm hemosiynau a'm mhrofiadau cymhleth fel bod dynol ifanc, cefais fy hun yn gwgu ar y ficer wrth iddo ddweud wrtho ni 'we are all sinners'.
'Beth ar y ddaear y'f fi 'di 'neud i bechu rhywun bore ma? Fi ond wedi bod ar ddihun ers tri chwarter awr!'
O'dd yr holl syniad o fod yn bechaduriaid yn rhywbeth oedd yn teimlo mor drwm, fel tasen i wedi methu cyn dechre, a dylen i gerdded rownd â baich y byd ar fy ysgwyddau, yn lle sefyll yn dal, teimlo'n fodlon, yn hyderus a hapus gan belydru goleuni fy hun ar y byd.
Wrth droedio drwy'r byd, mae 'di bod mor hyfryd i ddod ar draws crefyddau a chredoau a diwylliannau gwahanol, ac er y gallaf edmygu a diddori ymhob un rwy' wedi dod ar ei draws, doedd dim un yn fy nharo fel rhywbeth bydden i eisiau ei wahodd i mewn i fy mywyd fel ffordd o fyw.
Yn un â natur
Rwy'n berson sydd yn aml yn troi at natur am wersi, ac wedi cael fy nenu at blanhigion a choed, yn enwedig yn negawd dwetha fy mywyd.
Roedd fy ugeiniau yn ddegawd llawn hwyl, lle roedd fy ego â'i chonsyrn ar fwynhad, ac wrth droi yn 30 mlwydd oed, roedd fy ngyrfa wedi dod yn llawer mwy demanding. Oriau hir o weithio a gigio ar benwythnosau.
Os oedd unrhyw amser sbâr gyda fi, o'n i mas ar y beic yn mwynhau fflasg o de a darllen y papur newydd ger afon, yn gwylio'r adar a chlywed y dŵr yn rhedeg wrth fy nhraed. Yna yn codi am 6am drwy'r Hydref i weld y wawr yn torri ar yr afon Taf; o'dd gweld y pelydrau orengoch yn torri trwy ddail lliw gwin y coed, a rheiny yn dawnsio ac adlewyrchu ar y dŵr llonydd, yn brofiad dwyfol i mi.
Roedd gweld digwyddiad fel yna yn brofiad enfawr i'm henaid, ac o'n i jyst mor ddiolchgar i fod yn fyw ac yn gwneud yr amser i dystio digwyddiadau naturiol yn bwrpasol. O'n i'n cysylltu â'r hyn ydwyf - bod naturiol, sydd wedi esblygu dros filiynau o flynyddoedd o fod yn greaduriaid y môr, y tir, yr awyr i ni gael bod y creaduriaid yma yr ydym ni heddiw.
Felly cyn i fi hyd yn oed feddwl bod bod yn dderwydd neu'n bagan yn bosib, o'n i'n rhyw fath o fyw fel un ac yn meddwl fel un yn barod. Ond doeddwn i ddim yn gwybod bod yna gymuned yn bodoli; llwyth y medrwn ymuno â hi oedd yn meddwl yr un fath ac eisiau byw bywyd oedd yn anrhydeddu cylch natur a'n lle yn y bydysawd.
Balm i'r galar
Ar ôl colli fy nhad, es i ar siwrne enfawr o alaru gan droi'n aml iawn at y byd natur, ac yn y cyfnod tymhestlog a phoenus yma, yn chwilio am y peth fyddai'n llenwi bwlch enfawr y golled, ges i sawl profiad anhygoel. Un 'nath gael yr effaith fwyaf pwerus arna i wedi imi ymchwilio i fewn iddo ers blynyddoedd, oedd bod yn rhan o seremoni traddodiad Shamanaidd, gan yfed y feddyginiaeth o'r Amason, Ayahuasca.
Mae hylif Ayahuasca yn cael ei ddefnyddio gan iachawyr cynhenid yn Ne America. Mae'n enwog am helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl, sy'n delio gyda thrawma a cholled, neu sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau, ond mae e hefyd yn cael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth dwyfol i gysylltu â'r holl fydysawd ymhlith llwythi brodorol y jwngl.
Felly i mi, gyda fy mhoen yn un mor anferth, roedd angen rhywbeth mor fawr, os nad yn fwy na'r môr i fy helpu. Roedd y profiad yn un syfrdanol, yn un 'nath fy nhorri i'n ddarnau mân a'n rhoi i nôl at ei gilydd mewn amser byr iawn. Teimlais fel fy mod wedi gwneud degawd o gwnsela mewn tair noson.
Maggi Noggi a'r Mabinogi
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, cefais wahoddiad i fod yn westai ar sioe yr anhygoel Maggi Noggi. Drag Queen o Fôn? Sign me up!
Wedi cyrraedd y stiwdio, a chyn mynd i newid, es i ystafell wisgo Maggi i gal sgwrs ac wrth gwrs, i gal sbec yn ei chwpwrdd dillad!
A dyna lle'r oedd Maggi - neu Kristoffer Hughes - yn ei holl ogoniant/gogoniant cynnes yn barod i fy nghroesawu a chael sgwrs fach. O fewn pum munud o'dd y ddau o'n ni 'di symud o'r wigs a'r sodlau ac at bynciau fel marwolaeth a chwedloniaeth Cymru! Pwy YW y boi ma?!
Cefais fy hudo gan y gŵr annwyl a hynod o wybodus yma, a phan es i ati i greu dwy raglen ddogfen am hen arferion caru a Chalan Gaeaf y Cymry, o'dd Kris ar dop y list bob tro fel cyfrannwr ac arbenigwr.
Aethom i wneud defod cofio'r meirw yn siambr gladdu anhygoel Barclodiad y Gawres, a 'nath yr holl beth 'neud fi sylweddoli bod Kris a'i Urdd o Dderwyddon yn byw fel hyn drwy'r amser. Yn anrhydeddu cyfnodau gwahanol y lleuad, yn nodi'r effeithiau arnom ni a holl gyrff dŵr y blaned, anrhydeddu patrymau goleuni'r byd, yn cynnal seremonïau ar bob cyhydnos a phob heuldro.
O'dd yr holl beth yn fy llenwi â chyffro ond hefyd ar yr un pryd, yn ymlacio fy nghorff a 'mhryderon ac ofnau yn llwyr. O'r diwedd, roedd llwyth y fedrwn berthyn iddi; roedd 'na gartref i'm henaid o'n i 'di bod yn chwilio amdano am amser mor, mor hir.
Roedd y cwrs ei hun yn falm i'r enaid. Astudio'r Mabinogi trwy ogwydd hollol wahanol i'r hyn a gefais yn yr ysgol. O'n i wrth ym modd 'da'r Mabinogi tra'n astudio Lefel A Cymraeg ond doeddwn i fyth wedi talu sylw agos iawn i'r straeon, y cymeriadau a'u symboliaethau dyfnach, tan nawr.
'Nath y gwersi am y chwedlau fy nghysylltu i'n ddyfnach gyda thir a thirwedd Cymru, a gweld y ddaear yma'n wahanol. Roedd hyn ynghyd â gwersi dwfn am natur, yn dyfnhau fy mharch at yr amgylchedd gan arafu fy meddwl i sylwi ar y pethau bach gan ddysgu gymaint am ein hanes a'n treftadaeth ni yma yng Nghymru.
'Nath Môn Mam Cymru fy hudo yn llwyr hefyd. Mewn byd lle mae cyfryngau cymdeithasol wedi dod i lenwi'r gofod yna yn ein bywydau o'dd fel arfer yn cael ei lenwi gan lonyddwch, 'nath y penwythnosau yma o fynychu ysgol Derwyddon Môn fy atgoffa o fywyd, a bywyd cyn y we, ac f'atgoffa i o'm modolaeth ddwyfol.
Gwreiddiau dyfnion
Yn ddiweddar cefais y fraint o gynnal seremoni angladdol cefnder fy nhad fuodd farw yn sydyn allan yn Baku, Azerbaijan tra'n gweithio yno fel athro. Roedd cynnal y seremoni yn teimlo fel ail natur. Roedd medru dal emosiynau'r gynulleidfa a'u harwain ar daith fewnol o alar gan dderbyn ac anrhydeddu cylch natur gyda'r holl gynhesrwydd, hiwmor a thosturi ac a fedrwn yn tu hwnt o fod yn fraint.
Mae'r gymuned Baganaidd yn un sydd wedi rhoi gymaint o ryddhad i fi. Yn bobl o bob lliw a llun, yn bobl o bob math o gefndiroedd, gyda chalonnau anferth sy'n dilyn bywydau pwrpasol, a mor anhygoel o ddiddorol sydd heb yr un arlliw o feirniadaeth ar ei gilydd, ond diléit o weld bob un yn disgleirio.
Rwyf wedi chwilio drwy gymaint o wledydd a diwylliannau am iachâd, am gysylltiad i rwbeth dwfn yno i, a sylwais bod gymaint o'r ymarferion yma yn deillio o ddiwylliannau brodorol o wledydd pell, a bellach yn cael eu dysgu ac ymarfer yma trwy gyfrwng y Saesneg; wedi eu torri o'u gwreiddie a'u hail-plannu mewn llefydd nad sy'n perthyn. Peth da mewn gyment o ffyrdd - 'Diversity is good for the forest' wedi'r cyfan.
Roedd defodau hynod Kris yr un mor bwerus â'r seremonïau a dosbarthiadau siamanaidd, yogi, bwdhaeth rwyf wedi troi atyn nhw ynghynt. Ond ro'n nhw yn taro fi'n ddyfnach am eu bod wedi eu gwreiddio yn fy mamiaith, yn y Gymraeg ac yn deillio o'n hanes, chwedloniaeth a'n tirwedd anhygoel ni.