Tro pedol ar arwyddion uniaith Saesneg yn Sir Fynwy

  • Cyhoeddwyd
ArwyddionFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg ymyrryd yn sgil cwyn gan aelod o'r cyhoedd

Mae cyngor sir wnaeth benderfynu peidio â chynnwys enwau Cymraeg ar arwyddion strydoedd newydd wedi gwneud tro pedol ffurfiol.

Daeth Comisiynydd y Gymraeg i'r casgliad fod Cyngor Sir Fynwy wedi mynd yn groes i safonau'r Gymraeg ar ôl iddyn nhw gytuno i roi stop i gyfieithu'r arwyddion newydd ym mis Rhagfyr 2021.

Cyn hynny roedd yr arwyddion newydd i gyd yn cael eu cyfieithu.

Dywedodd yr awdurdod lleol bod arwyddion wedi cynnwys enwau Cymraeg a Saesneg ers ymyrraeth y comisiynydd ym mis Awst 2022.

Er i'r cyngor ddweud ei bod hi'n dderbyniol i godi arwyddion uniaith Saesneg, roedd y penderfyniad yn mynd yn groes i safonau iaith y corff ei hun.

Byddai peidio â chyfieithu'r arwyddion yn golygu bod y cyngor yn gwneud llai er lles yr iaith nag yr oedden nhw yn flaenorol, ac felly yn mynd yn groes i'w hymrwymiad i weithredu er budd y Gymraeg.

Fe wnaeth y comisiynydd ymyrryd yn dilyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd, a wnaeth gyhuddo'r cyngor o beidio ag ystyried effaith y penderfyniad ar yr iaith Gymraeg.

O hyn ymlaen bydd unrhyw arwyddion newydd ar gyfer strydoedd sydd ag enwau Saesneg yn rhai dwyieithog, gyda'r Gymraeg yn gyntaf.

Bydd arwyddion newydd ar gyfer strydoedd gydag enwau Cymraeg un ai yn parhau yn uniaith Gymraeg neu yn cael eu gwneud yn ddwyieithog.